Oriel: Sioe Nefyn yn ôl
- Cyhoeddwyd

Millie, pump oed o Ynys Môn, ddaeth yn gyntaf yn yr adran merlod Cymreig wedi ei reidio
Mae ganddi le arbennig yng nghalendr y sioeau amaethyddol fel y gynta' yn y flwyddyn, ac wedi dwy flynedd o ohirio oherwydd Covid-19 roedd 'na hen edrych ymlaen at Sioe Nefyn eleni.
Ac roedd hynny'n amlwg ar 2 Mai meddai'r trefnwyr, sy'n credu eu bod wedi torri record gyda mwy yn dod i gaeau Botacho Wyn eleni nag erioed o'r blaen.


Croeso nol! Dywedodd Eirian Lloyd Hughes, Cadeirydd Sioe Nefyn, bod nifer y ceir yn y meysydd parcio yn awgrymu'n gryf bod mwy wedi dod i'r sioe eleni nag erioed o'r blaen

Tom, 10 oed, o Rydymain, Bugail Ifanc y Sioe

Eva o Ynys Môn, oedd yn gyntaf yn y dosbarth ceffylau ifanc di-brofiad sydd heb eu dangos o'r blaen, a dim mwy nag 14.2 mewn uchder

Teulu Jones, o Benrhyndeudraeth, yn cael picnic ar y Maes

Lyn Foxwell, o Harlech, a Gwilym Jones efo'u tarw du Cymreig ddaeth yn bencampwr y sioe

Emyr Jones, o Abererch, yn arddangos ei Mini Cooper 1966

Lara o Langybi, gyda phencampwr y Dorset. Lara hefyd enillodd bugail ifanc y sioe o dan 18

Sophie a'i nain Eleri Griffiths o Bwllheli

Enillwyr yr adran wartheg

Melfyn Williams o Frynsiencyn, Ynys Môn, pencampwr adran y defaid North Country Cheviot

Tobi, o Benygroes, gafodd y mwyaf o farciau yn adran y plant

Alan Wyn Davies, o Morfa Nefyn, pencampwr defaid Cymreig a phencampwr defaid Dwyfor gyda'i fab yng nghyfraith Adam Daniel a'i ŵyr Abner