'Gall cennin Pedr helpu i adfywio sector amaeth Cymru'
- Cyhoeddwyd
Gall tyfu cennin Pedr ar fryniau Cymru helpu i "adfywio" ein diwydiant amaeth, yn ôl gwyddonydd blaenllaw.
Dywed Syr Roger Jones fod angen tyfu rhagor o'r planhigion i fodloni'r galw gan y diwydiant fferyllol.
Mae'r cwmni y mae'n ei gadeirio wedi arloesi ei ddefnydd o gennin Pedr er mwyn trin clefyd Alzheimer ac mae bellach yn ehangu i gynhyrchu ychwanegion (supplements) dros y cownter.
Mae am i glystyrau o dyfwyr gael eu sefydlu ar draws Cymru.
Sylfaenydd a chyfarwyddwr y cwmni yw'r ffermwr mynydd Kevin Stephens, sydd wedi bod yn tyfu blodyn cenedlaethol Cymru ar y Mynyddoedd Duon ym Mhowys ers dros ddegawd.
Fe wnaeth o ddarganfod fod math arbennig o gennin Pedr, a dyfwyd dan bwysau yn yr amodau heriol ar y mynyddoedd, yn cynhyrchu lefelau llawer uwch o gemegyn o'r enw Galanthamine.
Mae'n driniaeth sydd wedi ei chymeradwyo ar gyfer arafu datblygiad dementia fasgwlaidd a chlefyd Alzheimer, ac mae'r fferm yn cynaeafu digon i helpu tua 9,000 o gleifion y flwyddyn.
Nawr mae ei fusnes, Agroceutical, wedi gosod ei fryd ar gynhyrchu cynnyrch gofal iechyd newydd mewn partneriaeth â chwmni niwrowyddoniaeth o Ganada - ychwanegiad 'iechyd yr ymennydd' dros y cownter all gael ei allforio i'w werthu mewn fferyllfeydd yng Ngogledd America.
Os aiff popeth yn ôl y disgwyl, bydd angen tyfu llawer mwy o gennin Pedr ar draws ucheldiroedd Cymru, meddai Mr Stephens.
Ei obaith yw gweithio gyda chlystyrau o ffermydd, gyda phob un yn plannu cwpl o gaeau o'r planhigyn, tra'n parhau i roi eu defaid i bori ymysg y rhesi o flodau.
"Gall y ffermio defaid presennol barhau fel arfer - mae hyn yn cyflwyno'r cyfle o incwm ychwanegol yn hytrach na dewis arall," meddai.
"Wrth i hyn gynyddu fe welwn ni gennin Pedr ar gopaon llawer o ucheldiroedd Cymru," ychwanegodd.
Dywedodd fod potensial enfawr i Gymru fanteisio ar y galw gan y diwydiant fferyllol am gynhwysion naturiol, gyda'r gobaith y gallai'r prosiect weithredu fel "blueprint" ar gyfer tyfu cnydau meddyginiaethol eraill yn yr ucheldir.
'Cyfoethogi cymunedau gwledig yr ucheldiroedd'
Mae cryn sylw wedi ei roi yn ystod y blynyddoedd diwethaf i'r heriau sy'n wynebu ffermydd mynydd Cymru yn sgil yr adolygiad o'r cymhorthdal gan y llywodraeth.
Mae'r ffigyrau diweddaraf ar gyfer incwm ffermydd gwledydd y DU yn dangos bod gan 19% o ffermydd Cymru incwm busnes fferm o lai na sero, gydag incwm cyfartalog o £26,000 fesul fferm.
Ar ôl gyrfa hir mewn fferylliaeth, yn ogystal ag arwain nifer o sefydliadau mawr Cymreig, dywedodd Syr Roger Jones ei fod wedi'i gyffroi gan botensial y fenter ddiweddaraf hon.
"Dwi'n meddwl bod hwn yn gyfle i ffermwyr Cymru adfywio - cyfle i dyfu cnwd a gwneud elw," meddai.
"Mae'n un ffordd o wneud yn siŵr ein bod ni'n cyfoethogi ein cymunedau gwledig yn yr ucheldiroedd."
Bydd y tabledi iechyd yr ymennydd yn cael eu cynhyrchu ar Stad Ddiwydiannol Tredegar, gyda chwmni lleol wedi dylunio peiriant a all gynhyrchu niferoedd bychan o'r deunydd meddal sydd ei angen ar gyfer yr ychwanegiadau.
"Rydym wedi gweithio gydag Agroceutical i ddatblygu peiriant ymchwil a datblygu oherwydd yn yr ardal leol a thu hwnt dim ond cyfleon i gynhyrchu ar raddfa fawr sydd ar gael - fyddai ddim yn cyfiawnhau'r gost," esboniodd Dean Marsh, o Soft Gel Solutions.
"Yn y pen draw, wrth i ni fynd yn fasnachol fe allwn ni ddatblygu peiriannau mwy a chreu mwy o allbwn."
Mae menter Kevin Stephens yn "syniad ardderchog", yn ôl Dafydd Jarrett, cynghorydd polisi gydag undeb amaethyddol NFU Cymru.
"Mae yna fanteision mawr oherwydd mae'n gemegyn y mae'n debyg y bydd mwy a mwy o alw amdano fo," meddai. "A'r ail beth ydi bo' chi'n gallu rhoi bylbia'r cennin Pedr mewn porfa sydd eisoes yna.
"Y fantais o wneud hyn ydi gobeithio y gwneith o ffitio i mewn efo'r systemau sydd yno'n barod. Efo'r tir yma, ellwch chi ddim gwneud petha e'lla fyse chi'n gneud ar dir isel.
"Dyna sy'n dda efo hwn a gobeithio y bydd o'n ychwanegu at incwm ffermydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2022