Sioe Nefyn yn 'ffenest siop' i amaeth wedi cyfnod anodd
- Cyhoeddwyd

Cafodd y digwyddiad ei gynnal ddiwethaf ym Medi 2019
Mae miloedd o bobl wedi dod i Nefyn ar gyfer sioe amaethyddol cyntaf y flwyddyn.
Y tro diwethaf i Sioe Nefyn gael ei chynnal oedd ym Medi 2019 ar ôl cael ei gohirio oherwydd Covid.
Mae'r diwydiant wedi wynebu sawl her ers y sioe ddiwethaf gan gynnwys cyfyngiadau coronafeirws, newidiadau yn sgil Brexit a chynnydd diweddar mewn costau tanwydd a gwrtaith.
Mae'r sioe eleni yn "ffenest siop" i arddangos diwydiant amaeth y gogledd ac yn gyfle i bobl ddod yn ôl at ei gilydd yn ôl cadeirydd y sioe.

Mae cerbydau a pheiriannau hen a newydd yn cael eu harddangos ar y maes
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Eirian Lloyd Hughes, Cadeirydd Sioe Nefyn, bod gweld cynnwrf ar y maes yn "codi calon".
"Mae hi 'di bod yn amser hir heb sioe, heb ddim byd," dywedodd.
"Mae'n codi calon gweld stoc yn cyrraedd, peiriannu'n cyrraedd, a gobeithio y daw pobl i'n gweld ni hefyd heddiw.
"Mae'n ffenest siop i amaeth. Mae stoc gorau gogledd Cymru 'ma heddiw."

Mae pob math o anifeiliaid i'w gweld ar faes y sioe a digon o gyfle i gymdeithasu
O ddefaid i alpacas, mae amrywiaeth eang ar y maes ddydd Llun. Ond bydd stoc dofednod ddim yn cael ei harddangos eleni oherwydd achosion diweddar o ffliw adar. Er, mae'r cyfyngiadau bellach wedi codi.
Dywedodd Eirian bod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn her i amaethwyr a bod cynnydd mewn costau byw yn bryder.
"Mae costau gwrtaith a bwyd anifeiliaid yn codi ac mae'n bryder mawr i amaethwyr.
"Mae hyn yn gyfle iddyn nhw wedyn i ddod yma - mae'r undebau yma - felly gawn nhw sgwrsio a siarad efo pobl os oes gynnon nhw bryderon 'lly. Ma 'na gyfle iddyn nhw ddod yma i siarad efo pobl ynglŷn â'r petha' 'ma.
"'Dan ni'm yn gw'bod beth sydd o'n blaenau ni i fod yn onest."

Mae Teleri Fielden, swyddog polisi Undeb Amaethwyr Cymru, yn dweud bod sawl her yn wynebu'r diwydiant amaeth
"Mae genna ni dipyn o heriau newydd 'swn i'n ddeud," meddai Teleri Fielden, swyddog polisi Undeb Amaethwyr Cymru.
"Efo'r rhyfel yn Wcráin, mae costau mewnforio wedi cynyddu'n aruthrol, bil amaeth yn dod i mewn i'r Senedd, ac yn amlwg mae genna ni hefyd gytundebau masnach yn dod i mewn efo Awstralia a Seland Newydd.
"Felly oes, mae 'na heriau, ond mae'n grêt gallu clywed am y rheiny efo'n aelodau, ond ar yr un pryd, joio beth sydd genna ni yng Nghymru hefyd.
Ychwanegodd Eirian Lloyd Hughes bod mwy i'r sioe na dim ond arddangos y diwydiant amaeth.
Bydd adloniant yno a dywedodd ei bod yn gyfle - yn fwy na dim - i bobl ddod at ei gilydd i gymdeithasu.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mae'r sioe amaethyddol, dw i'n meddwl, yn beth ofnadwy o bwysig i'r gymdeithas," dywedodd y cadeirydd, Eirian Lloyd Hughes.
"Mae'n bwysig yn gymdeithasol - ma' pobl yn ca'l gweld ei gilydd.
"Dydy lot o bobl ddim 'di gweld ei gilydd er dwy flynedd 'wan, wedyn mae'n gyfle iddyn nhw ga'l sgwrsio, dod at ei gilydd, cwrdd, ca'l panad, bwyta, cael adloniant a gweld y stoc.
"Ond mae o'n gyfle i bobl ddal i fyny efo ffrindia'... diwrnod o let go fydd heddiw 'ma a jyst mwynhau dw i'n meddwl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd20 Medi 2021