Pum peth mae ffermwyr Cymru'n ei wneud i helpu'r amgylchedd
- Cyhoeddwyd
Fel pob sector, mae amaeth o dan bwysau i leihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae ffermio mewn sefyllfa eithaf unigryw gan ei fod yn cynhyrchu'r nwyon hyn, ond hefyd yn storio carbon mewn priddoedd a choetir.
O fabwysiadu technoleg i blannu coed a bridio detholus, mae llawer o ffyrdd i'r diwydiant leihau allyriadau a chynyddu faint o garbon mae'n storio.
Fel rhan o dymor Ein Planed Nawr, mae Prysor Williams, darlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, yn ystyried beth mae'r diwydiant yn ei wneud yn barod, a chyda'r gallu i wneud mwy ohono yn y dyfodol.
1. Bridio detholus
Ers degawdau, mae ffermwyr wedi ceisio gwella perfformiad eu cnydau a'u hanifeiliaid trwy fuddsoddi mewn geneteg well.
O ran cnydau a glaswellt, gall hyn olygu fod angen llai o fewnbynnau (e.e. gwrtaith) i dyfu'r un faint o gnwd, neu fod y planhigyn yn gwrthsefyll afiechydon yn well ac felly fod angen llai o chwistrellu gyda chemegau.
Yn y sector anifeiliaid, gall anifeiliaid gyda geneteg well dyfu yn gynt, sy'n golygu fod nhw'n cynhyrchu llai o'r nwy tŷ gwydr methan dros eu hoes.
Mae technolegau cyffrous ar y gweill, megis golygu genynnol (gene editing) yn cynnig potensial sylweddol mewn rhai sectorau i gynyddu'r gwelliant genynnol llawer iawn yn gynt na thrwy ddulliau bridio arferol.
2. Plannu coed a gwrychoedd
Ers blynyddoedd, mae nifer fawr o ffermydd wedi manteisio ar gyfleoedd i blannu coed a gwrychoedd trwy gynlluniau megis Glastir.
Mae effeithiau cadarnhaol hyn ar yr amgylchedd yn amlwg, gan ei fod yn fodd o allu cloi carbon yn y ddaear ac mewn pren am flynyddoedd i ddod, yn ogystal â chynnig cynefin i fywyd gwyllt a gwella llifeiriant dŵr.
Ar yr un pryd wrth gwrs, gall coed a gwrychoedd ddod a buddion i'r fferm drwy roi cysgod i anifeiliaid mewn tywydd eithafol. Dyma esiampl dda felly o fesur mae ffermwyr yn ei wneud sy'n gallu cynnig buddion amgylcheddol ac economaidd.
Mae pwyslais cynyddol ar blannu rhagor o goedlannau a gwrychoedd - ac mae cryn ddiddordeb ymysg llawer o ffermwyr i "blannu'r goeden iawn yn y lle iawn".
3. Gwella rheolaeth o laswellt
Mae gan Gymru hinsawdd arbennig o addas ar gyfer tyfu glaswellt - cynnes a digonedd o law, ar y cyfan!
Mae mwy a mwy o sylw'n cael ei roi ar sut i reoli glaswellt yn dda. Mae pori glaswellt mewn cylchdro yn opsiwn ar rai ffermydd, ac mae'r cyfnod o orffwys rhwng un cyfnod pori i'r llall yn rhoi cyfle i'r planhigyn gael adfer.
Mae hyn yn fodd o allu cynyddu tyfiant y glaswellt heb gynyddu mewnbynnau - dim ond newid y patrwm pori. Mae hefyd yn golygu fod y glaswellt yn ifanc pan mae'n cael ei bori, sy'n gwella'r ansawdd a'r maeth mae'n ei roi i anifeiliaid. Gall hyn leihau dibyniaeth ar fewnforio bwydydd eraill, a rhoi diet cytbwys i anifeiliaid gael tyfu ar eu gorau.
Mae nifer gynyddol o ffermwyr yn defnyddio technoleg i helpu gyda hyn, gan fesur glaswellt yn wythnosol trwy ddefnyddio mesuryddion pwrpasol neu hyd yn oed dechnoleg lloeren. Yn ei dro, gall gwella cynhyrchiant o laswellt rhannau fwyaf cynhyrchiol ffermydd olygu y gellir rheoli ardaloedd llai cynhyrchiol ar gyfer dibenion amgylcheddol megis cynefin i fywyd gwyllt neu storio carbon.
4. Mabwysiadu technoleg
Mae ffermwyr yn defnyddio mwy ar dechnoleg o bob math i wella effeithlonrwydd a pherfformiad eu ffermydd. O lu o 'apiau' gwahanol ar ffonau clyfar, i ddata lloeren ar dymheredd pridd, i synwyryddion sy'n monitro lefelau maethynnau mewn planhigion ac iechyd anifeiliaid, i robotiaid sy'n chwistrellu chwyn yn gywir - mae chwyldro wedi bod yn y maes technoleg amaethyddol.
Gall technoleg o'r fath arfogi ffermwyr gyda data a gwybodaeth yn gyflym ac yn ddidrafferth i'w helpu i wneud y penderfyniadau gorau er budd ei busnes a'r amgylchedd.
Mi fydd ffermwr defaid wastad angen sgiliau craff er mwyn bugeilio'u praidd, ond mae'n dod yn gynyddol amlwg y bydd technoleg yn chwarae rhan bwysig mewn helpu ffermydd wella eu perfformiad amgylcheddol.
5. Rhannu a chyfnewid gwybodaeth
Mae gwaith ymchwil o Brifysgol Bangor wedi dangos y gallai allyriadau nwyon tŷ gwydr rhai o sectorau amaeth Cymru leihau oddeutu 30% petai bob fferm yn mabwysiadu arferion da'r ffermydd blaengar. Mae lle i bob fferm ddysgu o rai eraill, ac mae miloedd o ffermwyr Cymru yn cymryd rhan mewn sesiynau cyfnewid gwybodaeth o bob math i ddysgu a thrafod beth yw'r opsiynau iddynt.
Maent yn mynychu dyddiau agored i ffermydd arddangos i weld canlyniadau treialon drwy raglenni megis Cyswllt Ffermio, yn cymryd rhan mewn grwpiau trafod gyda ffermwyr eraill, yn dilyn gweminarau, yn mynd ar ymweliadau maes, yn dilyn cyrsiau, yn derbyn cyngor gan arbenigwyr, ac yn cyfnewid gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Does dim un 'ateb' i leihau allyriadau o amaeth - mae gwahanol atebion i wahanol ffermydd oherwydd yr amrywiaethau o systemau sydd yma, a chyda'i gilydd, gallent wneud gwahaniaeth sylweddol.