Oriel luniau: Noson y Wal Goch

  • Cyhoeddwyd

Cafodd noson ei chynnal yn Pontio, Bangor, i edrych ymlaen at ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Roedd y gynulleidfa'n gwisgo coch ar nos Sadwrn 12 Tachwedd ac yn chwifio'r ddraig wrth fwynhau caneuon poblogaidd fel Yma o Hyd a Can't Take My Eyes Off You. Roedd Owain Roberts, aelod adnabyddus o Band Pres Llareggub, yn gyfrifol am drefnu'r gerddoriaeth i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Cafodd y noson ei hagor gan y band Gwilym, ac yna aeth y prif leisydd, Ifan Pritchard, ymlaen i ganu efo Bronwen Lewis, oedd yn ymddangos hefo'r gerddorfa am y tro cyntaf. Tudur Owen oedd yn cadw trefn ar y cyfan fel cyflwynydd y noson.

Dyma rai o luniau a fideos o'r cyngerdd...

Ffynhonnell y llun, Yusef Bastawy
Disgrifiad o’r llun,

Yr unawdwyr gyda'r gerddorfa

Ffynhonnell y llun, Yusef Bastawy
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i Bronwen Lewis, y seren TikTok o Gastell Nedd, ganu gyda'r gerddorfa

A hithau'n gân mor boblogaidd ymysg y cefnogwyr, dydy hi ddim yn syndod bod Yma o Hyd yn rhan o'r set! Dyma ddehongliad Bronwen Lewis ohoni:

Disgrifiad,

Yma o Hyd - Bronwen Lewis a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

I gyd-fynd â'r noson, cafodd sgript arbennig ei baratoi gan yr awdur Manon Steffan Ros. Dyma ddarn a gafodd ei ysbrydoli gan eiriau enwog Dafydd Iwan:

Dylsa bo' chdi ddim yn goro' bod yn gyfoethog i fynd i weld dy dîm, a dylsa bo' ni ddim yn gorfod mynd i wlad lle ma' bywyda'n cael eu trin fel petha' mor rhad. Dylsa bob un ohona ni fedru mynd yna a theimlo'n saff, heb orfod ymddiheuro am bwy 'da ni. Does 'na ddim o'no fo'n iawn, 'blaw am un peth.

Hogia ni.

Er gwaetha'r ffaith bo ni methu fforddio mynd allan i weld y gema', 'da ni yna yn y ffor' sy' wir yn cyfri. Er gwaetha'r ansicrwydd a'r anafiadau a'r blynyddoedd, y cenedlaetha' o jeeest colli allan, 'da ni 'di cyrraedd. Er gwaetha'r ffaith fod y byd yn disgwyl i ni golli, 'da ni 'di ennill yn barod.

Er gwaetha' pawb a phopeth...

Ffynhonnell y llun, Yusef Bastawy
Disgrifiad o’r llun,

Y digrifwr a'r cyflwynydd Tudur Owen oedd yn gyfrifol am arwain y noson

Ffynhonnell y llun, Yusef Bastawy
Disgrifiad o’r llun,

Y band poblogaidd Gwilym yn agor y noson gyda'u caneuon pop bachog

Ffynhonnell y llun, Yusef Bastawy
Disgrifiad o’r llun,

Ifan Pritchard, prif leisydd Gwilym

Daeth y ddau unawdydd ynghyd i ganu fersiwn o glasur Hogia'r Wyddfa, Safwn yn y Bwlch:

Disgrifiad,

Ifan Pritchard, Bronwen Lewis a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC - Safwn yn y Bwlch

Roedd y gân yn ysbrydoliaeth i ddarn arall o'r sgript gan Manon Steffan Ros:

Dros ein hiaith. Dros ein plant. Dros ein pobol. Dros ein gwlad. Dros y blynyddoedd tywyll, trwm o golli a cholli a cholli ond mam bach, rwsud yn dal i obeithio. Dros y ffor' ma'n calonna' ni gyd yn un ar yr eiliada' tyngedfennol, a 'da ni'n ran o wbath mawr, am unwaith; Yn ran o wbath sy'n ei gwneud hi'n amhosib teimlo'n unig.

Dros y galar am y rhai 'sa wrth eu bodda' cael bod yma rŵan yn gweld hyn, y rhai 'da chi jest isho gallu deutha nhw, Ni! Hogia ni! Y World Cup! a chael clywed sŵn eu llawennydd nhw. Gyda'n gilydd, fe safwn ni.

Ffynhonnell y llun, Yusef Bastawy
Disgrifiad o’r llun,

Fuasai 'na ddim noson heb arweinydd!

Ffynhonnell y llun, Yusef Bastawy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr adran bres hwyl arni...

Ffynhonnell y llun, Yusef Bastawy
Disgrifiad o’r llun,

... a'r llinynnau hefyd!

Ffynhonnell y llun, Yusef Bastawy
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd noson arbennig i ddathlu llwyddiannau'r tîm cenedlaethol

Hefyd o ddiddordeb: