Ian Gwyn Hughes: Cymru yng Nghwpan y Byd yn 'emosiynol'
- Cyhoeddwyd
Pan gafodd Ian Gwyn Hughes ei benodi fel pennaeth cyfathrebu yn 2010, roedd delwedd y gymdeithas bêl-droed yn wahanol iawn.
Cofiwch, roedd delwedd pêl-droed Cymru yn wahanol iawn hefyd.
Ar ôl blynyddoedd o fethiant roedd y cefnogwyr wedi dod i arfer â'r siom.
Ond roedd cenhedlaeth euraid o chwaraewyr ar fin newid y cyfan.
Ac roedd y pennaeth cyfathrebu newydd yn barod i fanteisio i'r eithaf ar hynny.
"Roedd 'na apathy tuag at y tîm. Dwi'n cofio cael sgwrs gyda Gary Speed a dweud bod rhaid i ni 'neud ein hunain yn fwy perthnasol," meddai'r cyn-sylwebydd.
"'Da chi'n gallu cael 75,000 o gefnogwyr yn erbyn Azerbaijan wedyn 20,000 dwy flynedd yn ddiweddarach.
"Mi o'n i eisiau dal gafael ar y cefnogwyr a gwneud i bobl yng Nghymru deimlo bod y chwaraewyr yn cynrychioli nhw.
"Eisiau i'r gymdeithas fod yn weledol pob dydd o'r flwyddyn - nid yn unig pan 'da ni'n chwarae gemau."
Haws dweud na gwneud. Ble mae dechrau gyda hynny?
Un o syniadau cyntaf Ian Gwyn oedd mynd i ganol y cymunedau.
Bu'r cyn-reolwyr Gary Speed a Chris Coleman yn crwydro Cymru er mwyn cwrdd â'r cefnogwyr.
Dechreuodd y chwaraewyr ddysgu'r anthem. Aeth Bale a'r bois i ymweld ag Aberfan a bedd Hedd Wyn ar ôl gêm yng Ngwlad Belg.
Tyfodd y berthynas rhwng y tîm a'r "Wal Goch".
Roedd "Gyda'n Gilydd yn Gryfach" yn fwy na geiriau gwag.
Daeth diwylliant Cymru a'r iaith yn amlwg ac yn berthnasol. A'r cyfan yn ymddangos mor naturiol â chicio phêl.
Bydd cyfle enfawr i adeiladu ar hynny dros yr wythnosau nesaf.
"Mae hyn yn gyfle arall i roi Cymru ar y map - bydd llygaid y byd ar Gwpan y Byd.
"Mae'r ffaith bod ni yn yr un grŵp a Lloegr hefyd yn gyfle i ni ddangos bod ganddo ni ein hiaith wahanol, diwylliant gwahanol, traddodiadau gwahanol ac yn cystadlu fel gwlad annibynnol.
"Mae'n gyfle i ni ddangos i bawb a phopeth pwy ydyn ni."
Codi proffil rhyngwladol
Mae campau'r blynyddoedd diwethaf wedi arwain at newidiadau ymarferol hefyd.
"Mae'r llwyddiant wedi galluogi ni i adeiladu canolfannau yng Nghaerdydd, Wrecsam a Chasnewydd. Hefyd wedi caniatáu i ni roi llawer mwy o arian i ddatblygu cyfleusterau ar bob lefel.
"Ac mae rhywbeth fel yna yn codi proffil yn rhyngwladol. Mae yna barch tuag ato ni fel gwlad. Pêl-droed yw'r gamp fwyaf poblogaidd ar draws y byd a 'da ni'n rhan enfawr o hynny."
Yng nghanol y cyffro mae yna bryder am leoliad y gystadleuaeth.
O ddiffyg hawliau dynol, hawliau'r gymuned hoyw, i statws menywod, mae yna wahaniaethau enfawr rhwng Cymru a Qatar.
Y cwestiwn i'r holl wledydd fydd sut i ymateb i hynny.
"Mae hi'n sefyllfa anodd i bawb. Ond byddai modd dadlau y dylai'r trin a thrafod fod wedi digwydd pan gafodd Qatar Cwpan y Byd. Dyle'r cwestiynau fod wedi ei codi yn gynt.
"'Da chi'n ceisio edrych ar y sefyllfa yn bositif a meddwl efallai bod modd newid pethau. Er bod hynny ddim yn mynd i newid dros nos.
"Byddwn ni bendant ddim yn stopio chwaraewyr na'r rheolwr rhag dweud ei dweud.
"Dwi ddim yn disgwyl i rywun gael ei cosbi am ddweud rhywbeth neu wisgo rhwymyn yr enfys ar ei braich. Yn y diwedd dim ond armband ydy o.
"Dydy o ddim yn brifo neb ond yn dawel bach yn gwneud rhyw bwynt. Faint o effaith ma' hynny yn ei gael dwi ddim yn gwybod - ond mae o yn rhyw fath o ffordd o wneud safiad neu brotest."
Er gwaetha'r dadleuon mae cyrraedd Cwpan y Byd yn goron ar y cyfan i genhedlaeth o chwaraewyr a chefnogwyr.
Ac yn eiliad emosiynol i'r gŵr sydd wedi gwneud gymaint i newid delwedd y gêm yng Nghymru.
"Dwi'n cofio yn Ffrainc, yn Bordeaux, clywed yr anthem a gweld y Wal Goch.
"Nes i wneud yn siŵr bo fi'n cymryd y cyfan i mewn. Meddwl am bobl byddai wedi licio bod yno ond oedd methu bob yno am sawl rheswm.
"A wedyn meddwl am y daith. A na'i wneud yr un peth yn Doha.
"Bydd yn eiliad emosiynol ac yn eiliad sy'n mynd i fod gyda fi am weddill fy mywyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022