Lluniau: Nofio gyda'r wawr yn y môr ym Mhenarth
- Cyhoeddwyd
Bob bore ar draeth Penarth fe welwch chi griw o bobl yn eu gwisgoedd nofio yn mentro i mewn i'r môr er mwyn cael nofiad wrth i'r wawr dorri.
Pwy welwch chi hefyd yw'r ffotograffydd James Richardson sydd yno - fel y nofwyr - yn ddi-ffael, beth bynnag y tywydd, yn barod gyda'i gamera i ddogfennu'r hwyl a'r sbri.
Dyma rai o'i luniau trawiadol o griw y Dawn Stalkers.
"Y tro cyntaf i mi fynd â'r camera i'r traeth i weld y wawr oedd 6 Ebrill 2021. Do'n i ddim mewn lle da yn feddyliol, ond o'n i wedi clywed pethau da am y boreau ar y traeth gan nifer o ffrindiau, ac o'n i eisiau gweld beth oedd e.
"Ac ar fy niwrnod cyntaf, ges i nid yn unig weld gwawrio gogoneddus, ond roedd clywed pawb yn y môr yn chwerthin ac yn cael amser gwych yn deimlad hudolus i mi, ac o'n i eisiau bod yn rhan ohono fe.
"'Nes i benderfynu dod â fy nghamera yn rheolaidd er mwyn cynnig rhywbeth i'r grŵp, ac er mwyn cofnodi wynebau llawen pawb.
"Mae ffotograff i mi yn lwybr yn syth at atgof. O'n i eisiau cynnig ffordd sydyn i'r bobl yma ddychwelyd yn syth i'r emosiwn hapus 'na pan maen nhw'n gweld lluniau ohonyn nhw'u hunain.
"Dwi'n gobeithio felly, hyd yn oed os â'n nhw ond i'r môr unwaith, y byddan nhw'n gallu teimlo'r un llawenydd eto bob tro welan nhw'r llun.
"Mae fy nghamera wastad gyda fi mewn gorchudd gwrth-ddŵr mae deifwyr yn ei ddefnyddio i gadw eu hoffer yn sych a diogel. Dwi'n gwisgo waders pysgota neoprene i wneud yn siŵr mod i ddim yn oeri'n ormodol er mwyn i mi allu aros yn y môr yn hirach; weithiau dwi mewn am ryw awr.
"Mae hyn yn helpu i mi ddal holl liwiau'r awyr drwy'r golau cyntaf a'r gwawrio, tra'n mwynhau gweld diwrnod newydd yn dechrau.
"Weithiau, mi â i i'r môr fy hun, ond nid wrth iddi wawrio; dwi'n teimlo mai fy nghyfrifoldeb i ydi creu cofnod o bawb arall yn mwynhau'r foment.
"Dwi'n byw ym Mhenarth, felly does gen i ddim esgus dros beidio mynd yno'n gyson, dydi hi ond yn cymryd pum munud i mi gyrraedd y traeth.
"Dwi wedi bod i draeth Penarth dros 600 diwrnod dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae wedi gwneud byd o les i fy iechyd meddwl.
"Ac mae fy mrwdfrydedd tuag at y grŵp yma mor gryf ag erioed."
Hefyd o ddiddordeb: