Hiraeth trefi glan môr Cymru mewn lluniau

  • Cyhoeddwyd
Jon PountneyFfynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Porthcawl, 2020

Yr awyr iach, sŵn y tonnau'n taro'r traeth, arogl cryf halen a finegr y sglodion, goleudau'r arcêd, haul poeth a hufen ia yn toddi… mae trefi glan môr yn llefydd sy'n codi hiraeth.

Mae'r lleoliadau hyn, o Ynys y Bari i Landudno, fel teyrngedau i oes a fu ac mae prosiect diweddaraf y ffotograffydd Jon Pountney yn ein hatgoffa eu bod nhw'n dal i fodoli.

Yn wreiddiol o ddwyrain Swydd Efrog, mae Jon wedi bod yn dogfennu Cymru ers iddo symud i fyw i Drefforest yn y Cymoedd yn y 90au.

"Dwi'n caru byw yng Nghymru a dwi'n caru Cymru fel lle," meddai Jon. "Dwi'n caru'r awyrgylch yn y Cymoedd a ni fyddwn yn byw yn unman arall."

Dros y blynyddoedd mae'r ffotograffydd wedi bod yn hel lluniau o drefi glan môr y wlad - y mathau o ardaloedd oedd yn bwysig iawn iddo yn ystod ei blentyndod.

Ffynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Ynys y Bari, 2017

"Dwi ddim yn Gymraeg. Ges i fy ngeni yn Swydd Efrog ond dwi'n meddwl bod y Cymoedd a Chaerdydd a'r ardal yma rwy'n byw nawr yn eithaf tebyg i'r lle ges i fy magu.

"Y bobl, yr hanes a'r diwydiannau... mae 'na debygrwydd. Nes i ddod i Gymru yn 1996 ag i fi mae fy ffotograffiaeth yn archwiliad o ardal a fy mhrif thema yw creu teimlad o le.

"Roedd prosiect Cymru ar Lan y Môr yn broses naturiol, organic lle fyddwn yn ymweld â gwahanol drefi ar yr arfordir."

Ffynhonnell y llun, Jon Poutney
Disgrifiad o’r llun,

Y ffotograffydd Jon Pountney yn Penwyllt, Powys

'Fy hudo i'

"Ges i fy magu mewn lle o'r enw Filey oedd yn lleoliad ar lan y môr. I'r de mae Bridlington ac i'r gogledd mae Scarborough a Whitby.

"Mae'r atgofion o fy magwraeth yn yr ardaloedd yma yn fy DNA - oglau'r môr, oglau'r fish and chips, dyddiau poeth yr haf, disgleirder yr arcêds a delweddau'r bwcedi a'r rhawiau yn aros yn y cof… dwyt ti methu dianc o'r pethau yna.

"Dwi ddim yn siŵr os mae'n rhywbeth sydd yn benodol i Brydain... Ond mae fel bod Cymru, yr Alban a Lloegr yn arbenigo yn y syniad Fictoraidd o'r prom, y pier a'r traeth.

Ffynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Llandudno, 2017

"Mi ddaeth y syniad gan bobl dosbarth gweithiol oedd yn ceisio dianc o fywydau anodd yn y pyllau glo neu yn y ffatrïoedd.

"Roedden nhw yn cael eu gweld fel rhyw fath o gylchfannau iechyd yn wreiddiol lle roeddet yn mynd i gael awyr iach a chael dŵr ffresh.

"Mae'r holl beth yn fy hudo i."

Ffynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

'Litter', 2021

'Pobl, lle, hanes'

"Mae'n hawdd i fi fynd i lefydd fel y Bari, Porthcawl, Aberystwyth o Drefforest ond tua saith mlynedd yn ôl es i i Landudno.

"Nes i feddwl 'waw, mae fan hyn yn le anhygoel i dynnu lluniau'. Dwi'n caru'r prom a'r pier ac mae ganddo ryw fath o deimlad quintessential o Gymreictod neu Brydeindod gyda'i ddelwedd fel tref arfordirol.

"Yr awyrgylch, y pier, y gwestai - roeddwn yn ffitio mewn fel hand in glove."

Ffynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Llandudno, 2017

"Mae'r ardaloedd yma'n casglu pobl a gwrthrychau sydd ar gyrion cymdeithas; pobl a allai fod eisiau dianc rhag fywyd gonfensiynol, neu sydd am arafu.

"Mae fy estheteg fel ffotograffydd yn syml iawn - rwy'n ceisio dal eiliadau diddorol a rhannu ag eraill. Rwy'n gwneud celf i gyfleu fy synnwyr o ryfeddod, ac mae'r themâu yn fy ngwaith yn cael eu dylanwadu gan fy niddordeb mewn pobl, lle a hanes."

Ffynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Llandudno, 2021

Hiraeth

"Dim ond ychydig o Gymru ar lan y môr ydi o, dydi o ddim fod i fod yn rhyw fath o gasgliad helaeth o bob man.

"Gwnaeth y ffotograffydd Americanaidd, Richard Avedon gasgliad o'r enw 'In The American West' a dywedodd fod yr 'In the' yn bwysig iawn gan mai un agwedd o fywyd mewn lle fel hyn ydi o. Mae hyn yn wir am Gymru ar Lan y Môr.

Ffynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Porthcawl, 2021

"Dy welediad di dy hun o bethau ydi ffotograffiaeth. Dim un neb arall. Fel ffotograffydd ti jest yn gobeithio fod pobl yn hoffi'r lluniau ac yn gallu gweld be' ti'n trio ei ddisgrifio.

"I fi roedd y teimlad yna o hiraeth yn perthyn i lefydd fel hyn. Y syniad yna o bethau sydd wedi hen fynd ac sy'n rhan o'r gorffennol.

"Y teimlad o berthyn i rywbeth ti'n gwybod sydd ddim am ddychwelyd."

Hefyd o ddiddordeb: