Mae trochi dŵr oer yn ffasiynol... ond sut mae bod yn ddiogel?

  • Cyhoeddwyd
Nofwyr yn mynd i'r dwrFfynhonnell y llun, James Richardson
Disgrifiad o’r llun,

Gwawrio ym Mhenarth wrth i nofwyr y Dawnstalkers fynd i'r dŵr

Mae'r niferoedd sy'n nofio mewn dŵr agored yn y DU wedi cynyddu 45% mewn blwyddyn wedi'r cyfnod clo, yn ôl Chwaraeon Cymru. Ond pa mor ddiogel ydy trochi rhewllyd?

Angharad Samuel, myfyriwr newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, fu'n holi.

Bob bore ym Mannau Brycheiniog mae'r Dŵr y Fan Dippers yn cyfarfod i nofio mewn afon rewllyd.

Mae nifer wedi ymuno â'r grŵp yn ystod y cyfnod pandemig ac yn dweud ei fod yn gymdeithasol a manteisiol ar gyfer eu hiechyd.

"Dwi wedi joio bod yn rhan o'r grŵp achos rwy' 'di cwrdd â phobl newydd o'r ardal," meddai un aelod, Rhian Morgan.

Fe ymunodd Huw Samuel gyda'r grŵp ar ddechrau'r pandemig nol ym mis Mawrth 2020. Meddai: "Mae e wedi helpu iechyd meddwl fi achos o'dd e'n anodd bod yn styc yn y tŷ yng nghanol Cofid'"

Ffynhonnell y llun, Dwr y Fan Dippers
Disgrifiad o’r llun,

Bore rhewllyd i'r Dŵr y Fan Dippers

Mae ymchwil yn cadarnhau bod nofio mewn dŵr oer yn fanteisiol i iechyd a lles, gydag adroddiad academaidd yn y Ffindir yn dweud bod tensiwn a phoenau yn lleihau a hwyliau pobl yn gwella.

Peryglon dŵr oer

Ond er y manteision, mae 'na beryglon. Yn ôl y Fforwm Cenedlaethol Diogelwch Dŵr, bu 25 marwolaeth o ganlyniad i foddi damweiniol yng Nghymru llynedd, sy'n rhan o gyfanswm o 45 marwolaeth flynyddol y wlad yn gysylltiedig â dŵr.

Ac yn ôl y Royal Life Saving Society UK mae tua 85% o'r marwolaethau damweiniol hynny yn digwydd mewn pyllau dŵr agored.

Mae aelodau Dŵr y Fan Dippers yn ymwybodol o'r peryglon ac yn ôl yr arweinydd, Carys Samuel, y rheswm dros sefydlu'r grŵp yn y lle cyntaf oedd "er mwyn sicrhau bod neb yn nofio ar eu pennau hunain".

Er mai oerni yw rhan o'r apêl i nifer, mae tymheredd rhewllyd yn gallu arwain at sioc dŵr oer, sy'n amharu ar allu'r corff i anadlu'n rheolaidd.

Dywedodd Carys fod pawb o'r grŵp yn ofalus i osgoi mynd mewn i'r dŵr yn rhy gyflym er mwyn ceisio lleihau'r risg. Ond ychwanegodd: "Mae e'n hollbwysig i unigolion wneud ymchwil eu hun. Eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau eu bod nhw'n ffit ac iachus cyn cymryd rhan."

Ffynhonnell y llun, James Richardson
Disgrifiad o’r llun,

Criw y Dawnstalkers ym Mhenarth

Yr oerni yw beth wnaeth ddenu Lene Hops at nofio yn y lle cyntaf: "Dechreuais am yr oerni, dim am yr ymarfer corff."

Mae hi'n aelod o'r grŵp Dŵr y Fan Dippers yn ogystal â bod yn arweinydd Dawnstalkers, grŵp o dde Cymru sy'n nofio yn y môr.

Sefydlodd y grŵp yn 2021, a hynny'n anfwriadol wrth i ddau ffrind ddechrau nofio'n ddyddiol yn y môr ym Mhenarth, gyda niferoedd cynyddol yn ymuno â'r pâr bob dydd.

"Roedd rhaid i ni'n dwy wneud rhywbeth dros ein hunan, a'r môr oedd y rhyddhad perffaith am hynny," meddai Lene.

Mewn un digwyddiad roedd y grŵp yn credu bod dwy o nofwyr wedi mynd ar goll yn y môr. Yn lle galw'r RNLI yn syth, fe geision nhw edrych i weld os oedd y nofwyr mewn golwg er mwyn osgoi galw'r gwasanaethau brys yn ddiangen.

Yn ôl Lene, doedd y ddwy ddim yn bell yn y diwedd a'r tywyllwch oedd yn ei gwneud yn anodd eu gweld nhw, ond fe ddysgon nhw wers.

Meddai: "Ar ôl siarad gyda'r RNLI ers hynny rydyn ni'n gwybod y pwysigrwydd o beidio gwastraffu amser. Os bydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto bydden ni'n galw'r RNLI yn syth yn lle gwastraffu munudau pwysig."

Yn 2020, gwnaeth yr RNLI ymateb i 521 digwyddiad yn Ne Cymru a derbyniodd 618 o bobl cymorth ganddynt.

Cyngor yr RNLI yw paratoi o flaen llaw, ystyried y tywydd a'r llanw, defnyddio cyfarpar cywir a pheidio nofio heb gwmni. Ni ddylai neb neidio'n syth mewn i ddŵr oherwydd y risg o'r sioc dŵr oer, sy'n gallu lladd unigolion.

Dywedodd Lene bod addysg yn rhan fawr o fod yn ddiogel, a bod yn rhaid cofio bod nofio yn y môr yn wahanol i nofio mewn llyn neu afon.

Meddai: "Mae wastad y posibilrwydd o gerrynt neu donnau, ac felly perygl. Mae'r môr yn gallu newid yn sydyn.

"Doeddwn i ddim yn deall llawer am y llanw neu geryntau cyn i fi ddechrau nofio yn y môr, felly addysgais fy hun oherwydd mae e'n beth massive. Ti'n gallu marw."