Hapusrwydd yw... nofio yn y môr?
- Cyhoeddwyd
Gyda llechen lân y flwyddyn newydd yn gwneud i nifer ohonon ni feddwl am roi trefn ar ein hiechyd a'n ffordd o fyw, mae criw o Wynedd yn dweud mai nofio'n rheolaidd yn y môr sy'n dod â hapusrwydd iddyn nhw.
Fe wnaeth criw y Woolly Hatters o Gricieth groesawu'r flwyddyn newydd drwy fynd am drochiad yn y môr gyda'i gilydd ar 1 Ionawr 2020.
Mae'r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd i nofio yn yr awyr agored, ac yn ôl un o'r sylfaenwyr mae wedi helpu llawer o'r aelodau gyda'u iechyd meddwl.
"Mae gwella iechyd meddwl yn rhan fawr ohono," meddai Tara Leanne Hall.
"Dwi'n gwybod bod rhan fwyaf ohonon ni wedi dechrau nofio oherwydd fod gynnon ni iechyd meddwl oedd ddim yn gant y cant: rydan ni'n teimlo bod ni angen rhywbeth extra yn ein bywyd, angen y gymdeithas ac angen y calmness sy'n dod o nofio tu allan.
"Mae lot o bobl wedi dweud wrthon ni bod y grŵp wedi eu helpu nhw a bod y dŵr ei hun wedi eu helpu nhw hefyd.
"Mae'n amazing clywed bod pobl yn teimlo'n hapusach wrth wneud o."
Herio eich hun
Mae'r apêl yn wahanol i bawb meddai Tara.
"Mae rhai yn ei weld fel sialens - dydi o ddim yn beth cyfforddus i'w wneud - mae'n herio eich hun i wneud rhywbeth rydych chi'n meddwl nad ydach chi'n gallu [ei wneud]. Ond hefyd mae lot o bobl yn teimlo ei fod yn reit calming; 'dach chi'n gorfod slofi eich anadl a chanolbwyntio.
"Y prif beth ydy eich bod yn gwneud rhywbeth sydd allan o'ch comfort zone, achos 'dan ni'n byw yn ein comfort zone rhan fwyaf o'r amser, ac i pwshio eich hun ychydig bach."
Mae'r nofiad cymunedol yn cael ei drefnu ryw ddwy i dair gwaith yr wythnos, fel arfer yn y môr yng Nghricieth ond hefyd mewn llynnoedd lleol. Ond mae gwahanol aelodau yn nofio yn rhywle bob dydd meddai Tara.
Yn yr haf mae dros 50 o bobl yn dod at ei gilydd a'r oedran yn amrywio o 10 i 80 oed.
Yn y gaeaf mae llai o blant a phobl hŷn yn mentro ond ddylai oedran ddim bod yn rhwystr yn ôl Tara: "Pan ydan ni'n mynd yn hen dani'n meddwl bod ni ddim yn gallu gwneud pethau, ein bod ni gorfod slofi lawr a ddim cweit yn gallu gwneud pethau ydan ni 'wyrach eisiau ei wneud - so mae'n reit neis cael pobl hŷn yn dod.
"Dydyn nhw ddim bob tro yn pwshio eu hunain - maen nhw 'mond yn mynd fyny at eu coesau weithiau - ond maen nhw'n rhan o rywbeth ac mae'n rili lyfli gweld hynna a gallu helpu i greu rywbeth hefyd."
Dechreuodd y grŵp efo llond llaw oedd yn nofio ar eu pen ei hunain cyn i'r gymuned "dyfu a thyfu".
Bellach mae yna gymuned Woolly Hatters yng ngogledd Gwynedd a hefyd yn yr Iseldiroedd ar ôl i rywun o Gricieth symud i'r wlad honno a sefydlu grŵp yno.
Y 'buzz'
Ym mis Ionawr, mae'r llynnoedd tua dau radd uwch pwynt rhewi a'r môr tua saith gradd meddai Tara ond mae'r tywydd yn gallu gwneud iddi deimlo'n oerach ar ôl dod allan.
Felly sut mae rhywun yn teimlo ar ôl dod allan o ddŵr oer?
"Mae pawb yn galw fo yn the buzz - ti physically yn buzzio. Mae dy groen di'n teimlo fel petai'n vibratio ac mae'n aros efo chdi drwy'r dydd. Os ti'n dipio yn y bore mae gen ti'r egni yma drwy'r dydd," meddai Tara.
"Yn amlwg mae yn oer yn y gaeaf so mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod chi'n c'nesu fyny yn iawn - ond ti yn teimlo dy fod yn gallu gwneud unrhyw beth wedyn."
Os ydych chi am ddechrau nofio yn yr awyr agored mae'n syniad da dod o hyd i grŵp os ydych chi'n ddibrofiad a chofiwch ddarllen canllawiau diogelwch fel rhai'r Gymdeithas Achub Bywyd, dolen allanol cyn gwneud, gan fod na beryglon.
"Mae lot o bobl yn ei weld yn reit scary ar ben eich hun - beth os ydwi yn mynd i drafferth neu tu allan i'n limit i?" meddai Tara.
"Felly mae lot o bobl yn ffeindio bod mewn grŵp yn reit saff. 'Dan ni hefyd yn gweld ei fod wedi creu cymuned glós yn Cricieth ei hun sy'n gallu syportio pawb," meddai Tara.
"Mae'n rhywbeth amazing ydach chi'n gallu ei wneud trwy'r blwyddyn; 'dach chi'n cwrdd gymaint o bobl sy'n encouraging a supportive a mae'n cael chi allan yn yr awyr agored.
"Dwi'n meddwl bod lot o bobl ddim yn gwneud digon o be' sy' gynnon ni, yn enwedig yng ngogledd Cymru, so mae angen annog pobl i fynd allan i natur!"
Hefyd o ddiddordeb: