Duda'n sgorio....wedi ei gyhoeddi 18:18 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016
BBC Cymru Fyw
Mae Slofacia'n gyfartal - gol gan Ondrej Duda...!
Cliciwch uchod i wrando ar sylwebaeth Radio Cymru
Gêm gyntaf Cymru yn un o'r prif gystadlaethau ers 1958
Y gic gyntaf yn Bordeaux am 17:00 (amser Prydain)
Sylwadau ar y gêm gan Wali Tomos a chriw C'mon Midffîld
BBC Cymru Fyw
Mae Slofacia'n gyfartal - gol gan Ondrej Duda...!
Eilyddio
Slofacia'n eilyddio - Duris yn lle Nemec.
BBC Cymru Fyw
"Caerdydd, Porthaethwy, Machynlleth, Wrecsam!'" Nic Parry'n rhestru'r baneri ar ochr y cae ar S4C.
BBC Cymru Fyw
Dihangfa i Gymru wrth i ymosodwr Slofacia redeg yn bwrpasol tua'r cwrt cosbi - ond ei ergyd dros y trawst.
Wali Tomos
Ma Ben yn cal sdoncaf o gêm!
BBC Cymru Fyw
Chwarae crefftus gan Jonny Williams drwy'r canol
Mae sylwebydd BBC Cymru, Iwan Roberts wedi trydar fod ei ferch yn gwylio'r cyfan yn Awstralia bell.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Cic gornel i Gymru - Ramsey yn ei chymryd....ond golwr Slofacia'n ei dal yn ddiogel.
BBC Cymru Fyw
Dechrau da i'r ail hanner i Gymru meddai Nic Parry, sy'n sylwebu ar S4C.
Fideo o'r miloedd yn y stadiwm gan un o ohebwyr gwleidyddol BBC Cymru.
BBC Cymru Fyw
A dyma ni - yr ail hanner - C'mon Cymru!
Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Rhai o ystadegau'r hanner cynta'.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Arthur Picton
Ddudish i do!!!!
Tecwyn Parri
Y newyddion diweddara' am Jean.
Yn 'bord o Bordeaux!
Dywed ffrwd Twitter swyddogol y gystadleuaeth, mai cic rydd yn erbyn Slofacia yn 2006 oedd y gôl gyntaf i Bale sgorio dros GYmru.
BBC Cymru Fyw
Rhai o blant y brifddinas wrth eu bodd gyga Gareth Bale.
Tecwyn Parri
Wali? Deud wrth Arthur bod Jean newydd ddarllan be' ddudodd o, ac ma' hi'n flin - efo fi!!!
BBC Cymru Fyw
Cefnogwyr Cymru yn hapus hyd yn hyn yn yr ardal gefnogwyr yn Bordeaux.