Crynodeb

  • Cliciwch uchod i wrando ar sylwebaeth Radio Cymru

  • Gêm gyntaf Cymru yn un o'r prif gystadlaethau ers 1958

  • Y gic gyntaf yn Bordeaux am 17:00 (amser Prydain)

  • Sylwadau ar y gêm gan Wali Tomos a chriw C'mon Midffîld

  1. Gair o rybudd....wedi ei gyhoeddi 15:28 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016

    BBC Cymru Fyw

    Fe lwyddodd Slofacia i guro'r Almaen, sef pencampwyr y byd, mewn gêm gyfeillgar ar ddiwedd mis Mai eleni.

    3-1 oedd y canlyniad, a Marek Hamsik, Michal Duris a Juraj Kucka sgoriodd goliau Slofacia mewn glaw trwm yn Augsburg.  

    Slofacia
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu bron i'r gêm rhwng Slofacia a'r Almaen gael ei gohirio o achos y glaw trwm.

  2. Hir yw pob aroswedi ei gyhoeddi 15:26 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016

    BBC Cymru Fyw

    Y tro diwethaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth ryngwladol, roedd 'Great Balls of Fire' gan Jerry Lee Lewis, a 'Jailhouse Rock' gan Elvis Presley' yn y siartiau. 

    Yr un flwyddyn fe gafodd nofel Dr No gan Ian Fleming ei chyhoeddi, ac fe gipiodd T.Llew Jones y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy.

    1958 oedd y flwyddyn honno, ac mae cefnogwyr Cymru wedi aros degawdau hir am y diwrnod yma. Does dim ar ôl i'w wneud felly ond gobeithio am chwip o gêm - a bloeddio C'mon Cymru! 

    Jerry Lee Lewis
    Disgrifiad o’r llun,

    Jerry Lee Lewis

  3. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016

    Wali Tomos

    Fo'dd y slebogs bibisi 'ma yn fhy gfintachlyd i dalu i mi ddwad atyn nhw, felly dwi'n govfod gneud y cwbwl o fama.

    Ma lolfa'f tŷ 'ma fel Jodyfyl Banc. 4 teledu, 3 wefles, 2 loptap ac 1 fvicsan.

    Es4ec, bibisi Wêls a bibisi wan af y tfi teledu a tydi'f llall ddim yn gweithio. Fadio Cymfu, Wêls a 5 ar y weflesus, sgai go af un loptap, a fhwbath i fyddhau y tensiwn af y llall!!

  4. Ein tîm ni yn Bordeaux....wedi ei gyhoeddi 15:20 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016

    BBC Cymru Fyw

    Holl sylwebwyr a gohebwyr BBC Cymru yn Bordeaux yn paratoi at yr awr fawr!

    sylwebwyrFfynhonnell y llun, bbc
  5. Y ddraig yn hedfanwedi ei gyhoeddi 15:16 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016

    BBC Cymru Fyw

    Dyma'r olygfa ym maes awyr Caerdydd yn gynharach heddiw wrth i gefnogwyr Cymru deithio i Ffrainc.

    Maes awyr
  6. Pethau'n prysurowedi ei gyhoeddi 15:14 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016

    Euro 2016

    Gyda dwy awr i fynd tan y gic gyntaf, mae'r trenau o amgylch Bordeaux yn dechrau prysuro, wrth i bobl deithio tuag at y stadiwm.

    trenFfynhonnell y llun, bbc
  7. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 15:12 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016

    Wali Tomos

    Ma'f peffa Cymfu Fyw 'ma newydd ddeutha'i na fedfa i'ch clywad na'ch gweld chi! Dechfa da!!!!

    Gyda llaw, dwi'n sgwennu hwn yn afa deg fhag ofn na fedaf fhai ohonoch chi ddafllan yn gyflym iawn.

  8. Pryder am Wayne Hennesseywedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016

    Twitter

    Camp Lawn yn trydar:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Tipyn o Stadewedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016

    BBC Cymru Fyw

    Stade de Bordeaux ydi canolbwynt y chwarae heddiw - stadiwm gafodd ei hagor ym mis Mai 2015 ac sy'n dal 43,000 o gefnogwyr.

    Y dyfarnwr ydi Svein Oddvar Moen o Norwy.

    Stade de Bordeaux
    Disgrifiad o’r llun,

    Stade de Bordeaux

  10. Môr o grysau cochwedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Cymry wedi heidio i Bordeaux yn eu degau o filoedd ar gyfer y diwrnod mawr heddiw - a phawb yn mwynhau'r awyrgylch cyn y gêm.

    Coch
  11. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 15:02 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016

    Wali Tomos

    Helo, Wali Tomos sy'n siafad. Ydach chi'n fy nghlywad i'n iawn? Adfa ym Mfyncoch ydw i. Lle 'dach chi?

  12. Prynhawn da a chroeso i lif byw Cymru v Slofaciawedi ei gyhoeddi 15:02 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016

    Euro 2016

    Prynhawn da i chi a chroeso i lif byw Cymru v Slofacia - gêm gyntaf carfan Chris Coleman yn Euro 2016 a diwrnod hanesyddol i bêl droed yng Nghymru.

    Arhoswch hefo ni am y diweddaraf o Bordeaux, lle bydd modd i gael y diweddaraf o’r gêm a dilyn sylwebaeth arbennig rhai o drigolion Bryncoch - Wali Tomos, Mr Picton, George Hughes a Tecwyn Parry! 

    Fe ddown ni â'r cyffro i chi i gyd dros yr oriau nesaf - mae'n argoeli i fod yn bnawn i'w gofio!