Tommo'n dathlu gôl Cymruwedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016
Twitter
Cliciwch uchod i wrando ar sylwebaeth Radio Cymru
Gêm gyntaf Cymru yn un o'r prif gystadlaethau ers 1958
Y gic gyntaf yn Bordeaux am 17:00 (amser Prydain)
Sylwadau ar y gêm gan Wali Tomos a chriw C'mon Midffîld
Twitter
BBC Cymru Fyw
Nid oedd pawb yn ddigon ffodus i gael mynd i Ffrainc, dyma'r dorf sydd wedi ymgasglu yn ardal y cefnogwyr ym Mharc Bute yng Nghaerdydd.
BBC Cymru Fyw
Mae cefnogwyr Cymru'n morio canu yn y stadiwm wedi chwarter awr o chwarae - gyda dylanwad Gareth Bale yn amlwg ar y gêm hyd yn hyn.
Wali Tomos
O Fy Nuw!!!! O!!! BEEEEEEEEEEL!!!!
Bale yn sgorio chwip o gôl i Gymru! Anhygoel! Dim cyfle i golwr Slofacia! Cymru 1-0 Slofacia.
Cic Rydd
Cyfle i Bale gyda chic rydd...
Cic Rydd
Trosedd yn erbyn Ramsey - sydd yn cymryd y gic rydd.
BBC Cymru Fyw
Munudau nerfus i Gymru gyda Slofacia yn dangos eu gallu wrth ymosod.
Wali Tomos
Da iawn Davies. Ben-digedig!
BBC Cymru Fyw
Ben Davies yn taflu ei gorff o flaen y bêl i arbed Cymru rhag dechrau difrifol
BBC Cymru Fyw
Fydd y triawd dylanwadol yma ddim yn dechrau heddiw - gyda Ledley a Robson-Kanu ar y fainc a Hennessey wedi ei anafu. Ond mae'r dechrau wedi bod yn fywiog gyda Ramsey a Bale yn ymosod yn gynnar.
Ffwrdd a ni!
Wali Tomos
Unrhyw un af ôl? Oes, fi!
BBC Cymru Fyw
Mae nifer yn methu a mynd i Ffrainc ac yn gorfod gwylio ar y teledu adre fel Jac Davies.
Ond mae'r paratoi 'run mor bwysig!
Wali Tomos
I'f fhai ohonach chi allan yn fana sy'n negyddol eich hagwedd af y dechfa fel hyn, cofiwch eifia' bythgofiadwy Dafydd Iwan...
Felly peidiwch â gofyn eich cwestiynau dwl,
Peidiwch edfych afna'i......fel clown,
Dim ond ffŵl sydd yn gofyn
Pam fod c.....offi yn fvown.
BBC Cymru Fyw
Tro'r Cymry yw hi i floeddio'r anthem - gyda'n gilydd!
BBC Cymru Wales
Mae'r ddwy garfan ar y cae - a'r anthemau'n cychwyn. Slofacia sydd gyntaf.
Twitter
Adam Taylor o Wrecsam yn mynd i hwyl y gêm.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Twitter
Y stadiwm yn llawn crysau coch gyda llai na 10 munud i fynd.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Twitter