Crynodeb

  • Gwrandewch yn fyw ar Radio Cymru (o 19:30)

  • Seremoni yn cael ei chynnal yn Tŷ Coch, Merthyr Tudful

  • Tri chategori yn Gymraeg a thri yn Saesneg

  • Seremoni i ddechrau am 18:30

  1. Dathlu rwan!wedi ei gyhoeddi 20:45 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Dyna ni. Mae seremoni Llyfr y Flwyddyn 2016 wedi dod i ben a'r enillwyr wedi eu cyhoeddi. 

    Llongyfarchiadau gwresog Cymru Fyw i'r awduron i gyd. 

    Cofiwch am Pethe ar S4C am 22:30.  

    Bydd llif byw Cymru Fyw yn ail-ddechrau am 08:00 bore fory. 

    Noswaith dda i chi i gyd!  

  2. Trindod Thomaswedi ei gyhoeddi 20:42 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Dywedodd Thomas Morris ei fod wedi ysgrifennu ar gyfer ei hun ar y dechrau gan fod meddwl am bobl eraill yn gallu golygu nad yw'r awdur yn bod yn gwbl onest. 

    'Dw i'n mynd i orwedd i lawr' meddai. Mae'r llwyddiant wedi bod yn ormod iddo mae'n rhaid!

  3. 'Golygu shwt gyment'wedi ei gyhoeddi 20:39 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Er ei bod hi ddim yn ddiethr i'r seremoni yma dywedodd Caryl Lewis bod ysgrifennu yn her: "Yr hynach wyt ti yn mynd y mwyaf ansicr wyt ti yn mynd."

    Dywedodd hefyd bod cael cydnabyddiaeth gan y darllenwyr a'r beirniaid yn "golygu shwt gyment."

  4. Pethe yn trafod Llyfr y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 20:39 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    S4C

    Am 22:30 heno bydd cyfle i chi weld rhai o uchafbwyntiau'r noson mewn rhifyn arbennig o Pethe ar S4C. Lisa Gwilym sy'n cyflwyno. Mae hi wedi bod yn noson brysur iddi hi gan ei bod hi wedi llywio'r seremoni hefyd.

    LisaFfynhonnell y llun, S4C
  5. Y brif wobr i Thomas Morriswedi ei gyhoeddi 20:37 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Thomas Morris sydd wedi ennill y brif wobr yn Saesneg gyda'i gyfrol gyntaf o straeon byrion We Don’t Know What We’re Doing.

    Mae'r straeon wedi'u lleoli yng nghastell Caerffili.

    'Mae’r gyfrol ffraeth a theimladwy hon yn cynnig cipolwg ar fywydau rhai o’r cymeriadau dryslyd ac unig sy’n trigo yng nghysgod y castell'. 

    Thomas MorrisFfynhonnell y llun, Sarah Davis-Goff
  6. Safbwynt y beirniaidwedi ei gyhoeddi 20:32 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Dywedodd Huw Stephens, un o'r beirniaid ar gyfer y llyfrau Cymraeg, bod dewis yr enillwyr wedi bod yn benderfyniad anodd. 

    Wrth gyfeirio at nofel Caryl Lewis dywedodd: "Mae’r gyfrol fuddugol eleni yn cynnig golwg dreiddgar ar sefyllfa annisgwyl, mewn modd cywrain, cynnil a phendant. 

    "Roedd y tri ohonom yn teimlo bod crefft ddiymwad yr awdur yn llwyddo i gonsurio byd cyfoethog a chymhleth gerbron y darllenydd, a gwneud i’r astrus a’r heriol ymddangos mor rhyfeddol o rhwydd – campwaith yn wir."

    huw
  7. Y brif wobr i Caryl Lewiswedi ei gyhoeddi 20:31 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Caryl Lewis yw prif enillydd Cymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016 gyda'i nofel Y Bwthyn.

    Mae'r llyfr yn cael ei ddisgrifio fel nofel 'gynnil, delynegol, a'r mynydd a'i dymhorau yn gymeriadau amlwg ynddi'. 

    Dyma'r ail waith iddi ennill y brif wobr, y tro diwethaf oedd yn 2005 gyda’i nofel Martha Jac a Sianco. 

    Fe ddaeth i'r brig yn y categori ffuglen. 

    Mae'n golygu ei bod hi'n derbyn £4,000 â thlws arbennig wedi’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones. 

    carylFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
  8. Y brif wobr nesafwedi ei gyhoeddi 20:30 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Huw Stephens sydd yn cyhoeddi'r enillydd a bydd y wobr yn cael ei rhoi gan Alun Davies, Gweinidog yr Iaith Gymraeg 

  9. Noson fawr yr hanesyddwedi ei gyhoeddi 20:26 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Dywedodd Gruffydd Aled Williams bod dim llawer o son wedi bod ynglŷn â dyddiau olaf Owain Glyndŵr. 

    Roedd yn ceisio cyrraedd cynulleidfa eang pan yr oedd yn ysgrifennu'r llyf meddai . 

    gruffydd
  10. Losing Israel yn dod i'r brigwedi ei gyhoeddi 20:26 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Jasmine Donahaye sydd wedi ennill y wobr Ffeithiol Greadigol Saesneg. 

    Cofiant yw Losing Israel gyda Jasmine yn olrhain hanes ei theulu a’u perthynas gydag Israel.

    Mae'n derbyn £1,000.  

    Jasmine
  11. Pwy oedd Glyndŵr?wedi ei gyhoeddi 20:23 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mi sgwennodd Gruffydd Aled Williams erthygl i Cymru Fyw i gydfynd gyda chyhoeddi ei gyfrol 'Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr'.  

    GlyndŵrFfynhonnell y llun, Iestyn Hughes
    Disgrifiad o’r llun,

    Lawton's Hope, cartref un o ferched Glyndŵr

  12. Y llyfrau yn rhai 'dwfn'wedi ei gyhoeddi 20:17 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Dywedodd Huw Stephens bod y llyfrau yn rhai "dwfn a difyr". 

    Wrth gyfeirio at gyfrol Dyddiau Olaf Owain Glyndwr dywedodd mai camp y gyfrol yw cyflwyno'r gwaith ymchwil mewn ffordd ddealladwy. 

    huw
  13. Cyfrol Owain Glyndŵr yn plesio'r beirniaidwedi ei gyhoeddi 20:17 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Gruffydd Aled Williams sydd yn fuddugol yn y gystadleuaeth Gwobr Ffeithiol Greadigol gyda'i gyfrol Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr. 

    Mae'r llyfr ynglŷn ag Owain Glyndŵr yn cael ei ddisgrifio fel un sy'n debyg i 'stori dditectif sy’n arwain y darllenydd ar daith i ymchwilio ei ddyddiau olaf, man ei farwolaeth a mannau posib ei gladdu'. 

    Mae'n derbyn gwobr ariannol o £1,000. 

    LlyfrFfynhonnell y llun, Y Lolfa
  14. Gwobr Ffeithiol Greadigolwedi ei gyhoeddi 20:13 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Simon Brooks, Gruffydd Aled Williams ac Emyr Glyn Williams yw'r tri sydd yn gobeithio dod i'r brig yn y categori yma. 

    Academydd yw Simon Brooks ac mae'n awdur sawl cyfrol megis O Dan Lygaid y Gestapo ac Yr Hawl i Oroesi. Mae'n olygydd y gyfres bywgraffiadau llenyddol Dawn Dweud. 

    Darlithydd Cymraeg oedd Gruffydd Aled Williams ac mae wedi cyhoeddi sawl erthygl ynglŷn ag Owain Glyndŵr.

    Is-deitla’n Unig yw llyfr cyntaf Emyr Glyn Williams. Mae wedi derbyn gwobr BAFTA Cymru am ei ffilm gyntaf yn 2005. Mae'n gweithio yng Nghanolfan Pontio, Bangor fel rhaglennydd sinema. 

    Emyr Glyn Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Emyr yn un o bartneriaid gwreiddiol Recordiau Ankst

  15. Balchder Carylwedi ei gyhoeddi 20:11 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Mae Owain Schiavone wedi trydar y llun hwn o Caryl Lewis yn derbyn ei gwobr am y Ffuglen Gymraeg orau 

  16. Dathlu dwywaith!wedi ei gyhoeddi 20:09 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Thomas Morris sydd wedi ennill yn y categori Ffuglen Saesneg. 

    Mae Thomas erbyn hyn yn byw yn Nulyn. Dywedodd un o'r beirniaid bod y llyfr wedi aros yn y cof ar ol iddyn nhw ei ddarllen. 

  17. 'Canfas bach'wedi ei gyhoeddi 20:03 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Nofel wedi ei lleoli yng nghefn gwlad yw hi. 

    Dywedodd Caryl Lewis: "Dw i'n credu ar ganfas bach iawn mae modd adlewyrchu pethau llawer mwy." 

  18. Noson dda i Carylwedi ei gyhoeddi 19:59 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Caryl Lewis sydd wedi enill y wobr yn y categori Ffuglen Gymraeg. 

  19. Safon uchelwedi ei gyhoeddi 19:58 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Dywedodd y beirniaid Llion Roberts:"Mae tair nofel ardderchog wedi dod i'r brig."

    Ychwanegodd "am y grym emosiynol a'r argraff ddofn arnom" mai Caryl Lewis oedd yn mynd a hi. 

  20. Rhestr Fer Gwobr Ffuglenwedi ei gyhoeddi 19:54 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Jon Gower, Caryl Lewis a Dewi Prysor yw'r tri sydd wedi cyrraedd y rhestr fer Gymraeg ar gyfer y categori yma. 

    Mae Jon Gower wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2012 gyda'i nofel Y Storïwr. Fo oedd un o Gymrodyr Rhyngwladol cyntaf Gŵyl y Gelli ac mae'n ysgrifennu yn y ddwy iaith. 

    Mae Caryl Lewis o Ddihewyd ger Aberaeron hefyd wedi ennill y wobr yn 2005 ac mae wedi cyrraedd y Rhestr Fer yn 2010. 

    Fe benderfynodd y cyhoedd yn 2013 mai hi oedd Hoff Awdur Cymru yng nghystadleuaeth Radio Cymru. 

    Saer maen, cyfansoddwr a llenor yw gwaith Dewi Prysor o ddydd i ddydd. Yn 2011 roedd ei nofel Lladd Duw ar restr fer Llyfr y Flwyddyn ac fe enillodd y nofel honno Wobr Barn y Bobl Golwg 360.

    Jon GowerFfynhonnell y llun, Marian Delyth
    Disgrifiad o’r llun,

    Jon Gower