Crynodeb

  • Gwrandewch yn fyw ar Radio Cymru (o 19:30)

  • Seremoni yn cael ei chynnal yn Tŷ Coch, Merthyr Tudful

  • Tri chategori yn Gymraeg a thri yn Saesneg

  • Seremoni i ddechrau am 18:30

  1. Cyhoeddi'r rhestr ferwedi ei gyhoeddi 18:52 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    S4C

    Cafodd y rhestr fer ei chyhoeddi trwy ddarllediad arlein byw, dolen allanol ar wefan Facebook S4C ym mis Mai. y gyflwynwraig Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno ac roedd dau o'r beirniaid, un ar gyfer y llyfrau Cymraeg ac un ar gyfer y llyfrau Saesneg wedi ymuno gyda hi. 

    Lisa GwilymFfynhonnell y llun, S4C
  2. Cyfrolau newyddwedi ei gyhoeddi 18:51 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Dywedodd Gruffudd Owen cyn y seremoni: "Mae hyn yn brofiad hollol newydd. Dw i'n meddwl bod chwech o'r awduron yn rhai sydd yn cyhoeddi eu cyfrolau cyntaf ac mae na rwbath reit braf am hynny." 

    Gruffudd Eifion OwenFfynhonnell y llun, bbc
  3. Sut le ydy Tŷ Coch?wedi ei gyhoeddi 18:50 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Mae'n siwr nad ydy nifer ohonoch chi yn gyfarwydd efo lleoliad y seremoni heno. Dyma i chi lun o Tŷ Coch ym Merthyr Tudful. Canolfan gelfyddydol yw hi heddiw ond yn nyddiau y Frenhines Fictoria roedd yr adeilad yn gartref i lysoedd barn.  Beth fydd casgliadau'r rheithgor heno tybed?

    tycochFfynhonnell y llun, bbc
  4. Dydyn nhw'n hardd?wedi ei gyhoeddi 18:41 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Mae Alun Thomas, sy'n cyd-gyflwyno rhaglen arbennig BBC Radio Cymru o'r seremoni, wedi trydar llun o'r gwobrau sydd ar gael i'r enillwyr heno.   

  5. Y gwobrauwedi ei gyhoeddi 18:39 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Mae gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn cael eu rhoi i'r gwaith gorau yn y Gymraeg a'r Saesneg mewn tri categori sef barddoniaeth, ffuglen a llyfrau ffeithiol creadigol. 

    Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr o £1,000. 

    Ond fe fydd prif enillydd pob iaith hefyd yn cael £3,000. 

     Y nofel Awst yn Anogia gan Gareth F Williams enillodd Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn llynedd. Ioan Kidd gipiodd y brif wobr yn 2014. 

    Gareth F WilliamsFfynhonnell y llun, Iolo Penri
    Disgrifiad o’r llun,

    Yn ogystal â Llyfr y Flwyddyn fe enillodd Gareth F Williams wobr Tir na n-Og yn ystod yr un wythnos y llynedd

  6. Hel llus ym Merthyr?wedi ei gyhoeddi 18:37 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Mae'r bardd Gruffudd Eifion Owen wedi trydar am y gystadleuaeth. Mae ei gyfrol farddoniaeth 'Hel llus yn y glaw' wedi ei henwebu.   

  7. Cefndirwedi ei gyhoeddi 18:31 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Yn 1992 y cafodd y wobr ei sefydlu. Ymhlith yr enillwyr yn y gorffennol mae Heini Gruffudd, Jon Gower, Ned Thomas a John Davies. 

    Heini Gruffudd
    Disgrifiad o’r llun,

    Llyfr Heini Gruffudd, 'Yr Erlid' ddaeth i'r brig yn 2013

  8. Croeso i Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2016wedi ei gyhoeddi 18:30 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016

    Llyfr y Flwyddyn

    Noswaith dda. 

    Croeso i'r llif byw o Tŷ Coch, Merthyr, lleoliad Seremoni Llyfr y Flwyddyn eleni. 

    Byddwn ni'n dod â'r diweddaraf i chi wrth i'r enillwyr gael eu cyhoeddi. Mae disgwyl i'r seremoni ddechrau am 19.15.