Y wobr farddoniaeth Saesnegwedi ei gyhoeddi 19:49 Amser Safonol Greenwich+1 21 Gorffennaf 2016
Llyfr y Flwyddyn
Philip Gross sydd wedi ennill y wobr farddoniaeth.
Enw'r casgliad yw Love Songs of Carbon.
Mae'n derbyn £1,000.
Gwrandewch yn fyw ar Radio Cymru (o 19:30)
Seremoni yn cael ei chynnal yn Tŷ Coch, Merthyr Tudful
Tri chategori yn Gymraeg a thri yn Saesneg
Seremoni i ddechrau am 18:30
Llyfr y Flwyddyn
Philip Gross sydd wedi ennill y wobr farddoniaeth.
Enw'r casgliad yw Love Songs of Carbon.
Mae'n derbyn £1,000.
Dywedodd un o'r beirniaid Lleucu Roberts bod cyfrol Mererid Hopwood yn atgoffa'r beirniad o gyfrol 'Dail Pren' Waldo Williams.
Llyfr y Flwyddyn
Dywedodd Mererid Hopwood, wrth dderbyn y wobr am y gyfrol farddoniaeth Gymraeg orau, bod angen yn y 'cyfnod anodd hwn bod angen i ni gyd fynd ati i hogi ein pensiliau.'
Llyfr y Flwyddyn
Mererid Hopwood gyda’i chyfrol gyntaf o gerddi, Nes Draw sydd wedi ennill y wobr farddoniaeth.
Mae'r gwaith yn cael ei ddisgrifio fel cyfrol 'gyflawn, gain gyda cherddi i’w trysori yn y teip glas.'
Mae'n derbyn gwobr ariannol o £1,000.
Llyfr y Flwyddyn
Mererid Hopwood, Gruffudd Owen a Cen Williams sydd ar y rhestr fer Gymraeg.
Mae Mererid Hopwood yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Fe enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 2001, y Goron yn 2003 a’r Fedal Ryddiaith yn 2008.
Sgriptiwr ar gyfer Pobol y Cwm yw Gruffudd Owen ac fe enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2009.
Roedd Cen Williams o Fôn yn Gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr tan iddo ymddeol yn 2007. Fe ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1997.
Caryl Lewis: "Dw i'n ceisio ysgrifennu pethau fydd yn cyffwrdd pobl. Dyna yr unig beth dwi yn trio gwneud yw cyffwrdd pobl a bod yn onest wrth wneud hynny."
Dywedodd hefyd bod y tlws yn "bert".
Llyfr y Flwyddyn
Mae Thomas Morris yn dathlu ar ôl cipio'r wobr People’s Choice Award Wales Arts Review.
Y cyhoedd oedd yn pleidleisio ar gyfer y wobr hon.
Llyfr y Flwyddyn
Caryl Lewis sydd wedi ennill Gwobr Barn y Bobl Golwg360 gyda'i nofel Y Bwthyn.
Llyfr y Flwyddyn
Y cyhoedd sydd yn penderfynu ar Wobr Barn y Bobl o'r dewisiadau ar y rhestr fer.
Mae pobl wedi bod yn pleidleisio ar wefan Golwg360 ar gyfer eu holl lyfr ar y rhestr fer Gymraeg a gwefan Wales Arts Review ar gyfer yr holl lyfr Saesneg.
Llyfr y Flwyddyn
Jon Gower: "Mae fy nisgwyliadau i yn isel, iawn iawn iawn ar ol darllen llyfr Caryl. Dw i wedi dweud wrth y wraig bod dim angen iddi ddod heno."
Ond dywedodd hefyd bod y gystadleuaeth "yn ysgogi fi fel darllenydd i ddarllen llyfrau fydden i ddim fel arall yn neud."
Llyfr y Flwyddyn
Dywedodd yr awdur Lleucu Roberts bod y beirniaid "wedi bod yn weddol gytun."
Roedd Llion Roberts yn cytuno: "Roedd yn amrywiaeth dda a'r safon yn uchel. Doedd yna ddim gormod o anghytuno."
Llyfr y Flwyddyn
Lisa Gwilym sydd yn cyflwyno eleni ac mae'r seremoni yn ddwyieithog.
Mae'n dweud bod hi mynd i fod yn 'noson a hanner'.
Mae'r dderbynfa wedi llenwi cyn dechrau'r seremoni. Mae hi wedi bod yn gyfnod prysur i Lleucu Siencyn,Prif Weithredwraig Llenyddiaeth Cymru, trefnwyr y gystadleuaeth. Hi sydd yn y ffrog las yng nghwmni Gweinidog yr Iatih Gymraeg Alun Davies
Mae Iestyn Lloyd, un o drindod podlediadau Haclediad, wedi trydar pwynt ynglŷn â chael gafael ar y llyfrau Cymraeg sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn ddigidol.
Mae'r bardd Aneirin Karadog wedi trydar ei ddymuniadau da i'r tri sydd wedi eu henwebu am y gyfrol farddoniaeth orau.
Mae Mererid Hopwood ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Farddoniaeth yn y Gymraeg.
Meddai wrth Cymru Fyw: "Mae'n hyfryd cael fy enwebu. Dymuniadau gorau i'r holl 15,16 o ysgrifennwyr."
Llenyddiaeth Cymru
Ydych chi eisiau gwybod ychydig bach mwy am yr awduron sydd wedi cyrraedd y rhestr fer? Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi holiaduron, dolen allanol.
Mae Mererid Hopwood wedi dweud mai cornel o’r ford yn y ‘rwm top’ yn Pontiago, Sir Benfro yw un o’r llefydd delfrydol iddi hi ysgrifennu.
Tor calon wnaeth achosi'r cur pen mwyaf i'r awdur Paul Henry wrth iddo ysgrifennu ei nofel a llyfr Roald Dahl, Danny the Champion of the World oedd hoff lyfr Caryl Lewis pan oedd hi'n blentyn.
Bydd Alun Thomas yn cyd-gyflwyno rhaglen BBC Radio Cymru o'r seremoni am 19:30. Chwarae teg mae o yn drylwyr yn ei baratoadau. Cofiwch wrando i glywed barn Catrin Beard am rai o'r cyfrolau buddugol.
Llyfr y Flwyddyn
Y beirniaid oedd yn pori trwy'r llyfrau Cymraeg y tro yma oedd yr awdur Lleucu Roberts, y bardd a darlithydd Llion Roberts, a chyflwynydd Radio Cymru a Radio 1 Huw Stephens.
Y darlithydd Tony Brown, Golygydd gyda The Bookseller Caroline Sanderson, a Chyfarwyddwr Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Justin Albert oedd y beirniaid oedd yn gorfod penderfynu ar yr enillwyr yn y categorïau Saesneg.
Llyfr y Flwyddyn
Fe gafodd y rhestr fer ei chyhoeddi ym mis Mai.
Fe fuodd y beirniaid yn darllen tua 50 o lyfrau Cymraeg cymwys ac mae naw teitl wedi ennill eu lle ar y Rhestr Fer yn y Gymraeg.