Crynodeb

  • Tro'r Côr Pensiynwyr dros 60 oed yw hi heddiw, a chystadlaethau i rai 16-19 oed

  • Prif seremoni'r dydd am 16:30 yw Gwobr Goffa Daniel Owen am nofel heb ei chyhoeddi

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Dydd Mawrth ar y Maeswedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    A dyna ddiwedd y llif byw am heddiw, ond peidiwch â phoeni, gwyliwch y fideo yma am hanes ddydd Mawrth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Dewch yn ôl am 08:00 'fory am ddiwrnod arall o'r Fenni.

    Disgrifiad,

    Dydd Mawrth ar faes yr Eisteddfod 2016.

  2. Cadno'n canuwedi ei gyhoeddi 17:50 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Prynhawn 'ma, y grŵp Cadno oedd yn perfformio tu fas bws Pethau Bychain, sef bws ymgyrch Llywodraeth Cymru i hybu defnydd o'r Gymraeg.

    cadnoFfynhonnell y llun, bbc
  3. Hunlun gyda'r beirniaidwedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'n bwysig i gofnodi buddugoliaeth yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn y ffordd draddodiadol fodern...'selfie'!

    selfie
  4. Graeme Thomas i fethu'r Gemau Olympaiddwedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Y rhwyfwr, Graeme Thomas, allan o Rio oherwydd salwch.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Dathlu gyda Dadwedi ei gyhoeddi 17:33 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ac ar ôl y seremoni, cyfle i Guto Dafydd fwynhau'r profiad gyda'i deulu ar y Maes... ac i'w ferch fach fwynhau darllen y nofel fuddugol!   

    Guto Dafydd a'i deulu
  6. Seiclo o Langrannog i Lan Llynwedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ar stondin yr Urdd mae cyfle i chi helpu i gyflawni'r sialens o seiclo'r un faint o filltiroedd â'r pellter rhwng dau o wersylloedd yr Urdd, sef Llangrannog a Glan Llyn.

    Plîs helpwch, mae'n edrych fel bod rhai o'r staff yn dechrau blino.

    urdd
  7. Y gwahaniaeth rhwng ddoe a heddiwwedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Gwers i enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod i beidio â gadael i'r sylw mynd i'w pen.

    Ddoe roedd pawb am dynnu llun a sgwrsio gydag enillydd y goron, Elinor Gwynn, ond heddiw, mae'n medru eistedd ar y Maes mewn heddwch.....heddwch

    elinor
  8. Y nofel fuddugolwedi ei gyhoeddi 17:10 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Hen Wlad Fy Nhadau i gloiwedi ei gyhoeddi 17:05 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r seremoni yn dod i ben gyda'r anthem genedlaethol.

    Llongyfarchiadau i Guto Dafydd, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2016.

    Guto Dafydd yn bloeddio canu
    Disgrifiad o’r llun,

    Guto Dafydd yn bloeddio canu

  10. 'Fydda'i ddim yn hir cariad...'wedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    medal
    Disgrifiad o’r llun,

    Guto Dafydd eiliadau cyn camu ar y llwyfan

  11. Gwobr Daniel Owen: Y canuwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r canu yn parhau. Ymysg y rhai sydd yn canu fel rhan o gôr sydd wedi'i ffurfio'n arbennig ar gyfer yr Eisteddfod eleni y mae disgyblion o Ysgol Gymraeg Y Fenni, Ysgol Gynradd Deri View, Ysgol Gynradd Sirol Cross Ash, Ysgol Gynradd Shirenewton, Ysgol Gymraeg y Ffin, Ysgol Gymraeg Bro Helyg, Ysgol Gymraeg Casnewydd, Ysgol Cil-y-Coed ac aelodau o Gôr Gospel Canolfan Gerddoriaeth Torfaen.

  12. Cân i'r enillyddwedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Criw Caerdydd yn canu ar lwyfan y pafiliwn ar hyn o bryd, gyda'r enillydd Guto Dafydd yn gwrando'n astud.

    Criw Caerdydd
  13. Guto Dafydd yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 16:53 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Guto Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod ddydd Mawrth.

    Cyfnod o chwe wythnos yn derbyn triniaeth radiotherapi mewn ysbyty ym Manceinion yn 2015 yw sail ei nofel fuddugol 'Ymbelydredd'.

    Dywedodd y beirniaid fod y nofel yn un gyfoes ac Ewropeaidd, gydag arddull gynnil, synhwyrus ac athronyddol iddi.

    Guto Dafydd
  14. 'Diffyg dyfeisgarwch'wedi ei gyhoeddi 16:45 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Naw ymgeisydd oedd eleni, meddai'r beirniad Jon Gower. Mae'n feriniadol o safon iaith ambell un, gan ychwanegu fod yna "ddiffyg dyfeisgarwch a menter" wedi bod.

    Jon Gower
  15. Gwobr Daniel Owen: Y beirniaidwedi ei gyhoeddi 16:40 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Jon Gower sydd yn traddodi'r feirniadaeth eleni. Yn wreiddiol o Lanelli, enillodd yn Llyfr y Flwyddyn 2012 am y ffuglen orau am ei nofel Y Storïwr.

    Fflur Dafydd a Gareth F Williams oedd y beirniaid eraill eleni. Mae nofel Fflur Dafydd, Y Llyfrgell - a enillodd wobr goffa Daniel Owen yn 2009 - wedi cael ei gwneud yn ffilm ac fe'i dangoswyd am y tro cyntaf yn y Steddfod eleni.

    Enillodd Gareth F Williams prif wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2015 am ei nofel Awst yn Anogia. Bu'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yn ddiweddar.

    Jon Gower
    Disgrifiad o’r llun,

    Jon Gower

  16. Gwobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 16:39 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Gwobr Goffa Daniel Owen yn un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol.

    Rhoddir gwobr o £5,000 am nofel yn Gymraeg sydd heb ei chyhoeddi o'r blaen, ac heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

    Mae'r wobr er cof am y nofelydd Cymraeg Daniel Owen, a fu farw yn 1895.

    Y llynedd bu'r gystadleuaeth yn dipyn o bwnc llosg yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu ar ôl cŵyn a gafwyd yn ymwneud â chynnwys darn a gyflwynwyd.

  17. Gwobr Daniel Owen: Meistr y seremoniwedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae prif seremoni'r dydd wedi dechrau yn y Pafiliwn.

    Meistr y seremoni, R Alun Evans, sy'n cyhoeddi'r gystadleuaeth a chyflwyno'r beirniaid a'r osgordd.

    R Alun Evans
    Disgrifiad o’r llun,

    R Alun Evans

  18. Brigyn rhwng y brigauwedi ei gyhoeddi 16:24 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Roedd y ddau frawd, Ynyr ac Eurig Roberts o'r band Brigyn, yn recordio cân rhwng y coed, ar gyfer rhaglen yr Eisteddfod fydd yn cael ei darlledu ar S4C heno.

    Brigyn
  19. Ymarfer mewn steilwedi ei gyhoeddi 16:17 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae pobl yn ymarfer ym mhob twll a chornel dros y Maes, a does dim rhyfedd. Dyma un o'r cabanau ymarfer swyddogol.

    ymarfer
  20. Digwyddiad Cei Connah: Arestio dynwedi ei gyhoeddi 16:06 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Heddlu Gogledd Cymru

    Yn dilyn digwyddiad yng Nghei Connah yn gynharach heddiw, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn 60 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol a throseddau trefn gyhoeddus.

    Cafodd swyddogion eu galw wedi adroddiadau bod dyn wedi torri ffenest siop ar y Stryd Fawr, a chafodd y stryd ei chau am gyfnod.

    Mae'r dyn yn y ddalfa ac mae ymchwiliad yn parhau.