Crynodeb

  • Tro'r Côr Pensiynwyr dros 60 oed yw hi heddiw, a chystadlaethau i rai 16-19 oed

  • Prif seremoni'r dydd am 16:30 yw Gwobr Goffa Daniel Owen am nofel heb ei chyhoeddi

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Gwrando'n fywwedi ei gyhoeddi 10:34 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Mae'r rheiny ohonoch sy'n gwrando ar y radio mewn dwylo diogel a phrofiadol...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Undeb yn mynnu eglurhad am ymladdwedi ei gyhoeddi 10:27 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    BBC Wales News

    Mae Undeb Rygbi Cymru wedi mynnu eglurhad gan bedwar tîm yn dilyn ymladd mewn pencampwriaeth rygbi traeth yn Abertawe.

    Cafodd Glynrhedynog, Y Porth, Rhigos ac Aberllechau eu diarddel o'r gystadleuaeth Rygbi Traeth Cymru (BRW) fis diwethaf.

    Ond mae Ashleigh Walters o BRW wedi dweud ei fod yn credu bod URC yn cymryd y sefyllfa yn rhy ddifrifol.

    YmladdFfynhonnell y llun, This is Swansea
  3. Wal ar gamwedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Naill a'i mae'r Eisteddfod am roi sialens anoddach i'r plant fydd am ddefnyddio'r wal ddringo heddiw, neu maen nhw yn y broses o'i godi'n barod am y dydd.

    Dewiswch chi!

    wal
  4. Cefnogwyr yn ymladd ym Mhontypriddwedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Heddlu Trafnidiaeth Prydain

    Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn apelio am help i adnabod 12 o ddynion yn dilyn ymladd ym Mhontypridd yn ystod pencampwriaeth Euro 2016.

    Yn ardal gefnogwyr y dref yn ystod y gêm yn erbyn Portiwgal ar 6 Gorffennaf, fe wnaeth y dynion ddechrau ymladd.

    Fe wnaeth hyn arwain at oedi ar nifer o drenau a chafodd staff eu bygwth.

    HeddluFfynhonnell y llun, Heddlu Trafnidiaeth Prydain
  5. Bale yn paratoi ar gyfer Moldovawedi ei gyhoeddi 09:57 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Mwy o'r rhain yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd Rwsia 2018 plîs Gareth!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Achub pobl o fws mini mewn llifogyddwedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

    Cafodd pump o bobl eu hachub o fws mini y bore 'ma wedi iddo fynd yn sownd mewn llifogydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

    Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng Merthyr Mawr a ffordd yr A48 am tua 03:45. 

    Fe wnaeth diffoddwyr helpu'r gyrrwr a'i deithwyr allan o'r cerbyd, a doedd dim angen triniaeth feddygol arnyn nhw.

  7. Technoleg arloesol i fabanod breguswedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn dechrau defnyddio blychau gofal dwys newydd dros yr wythnosau nesaf gan fanteisio ar dechnoleg sydd ymhell ar y blaen o'r hyn sydd ar gael yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

    Mae'r elusen yn dweud y bydd yn eu galluogi i drosglwyddo babanod bregus rhwng ysbytai llawer yn gynt. Ar hyn o bryd ambiwlans ar y ffordd fyddai'n gwneud taith fel hyn.

    Disgrifiad,

    Mae siambr y blychau yn dryloyw, sy'n golygu bod modd monitro cyflwr babanod wrth hedfan

  8. Bore pia hi!wedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r Maes yn dawel ar hyn o bryd gyda chawodydd o law fydd yn clirio yn ystod y dydd yn ôl y rhagolygon.

    Ond mae'r cymylau isel sydd dal o gwmpas mynydd y Blorens yn gefndir trawiadol i'r Maes heddiw.

    Blorens
  9. Bangor yn penodi rheolwr newyddwedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Gobaith i lenwi gwasanaethau bws Wrecsamwedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    BBC Wales News

    Mae teithwyr sydd wedi bod heb wasanaeth bws mewn rhannau o Wrecsam wedi i gwmni fynd i'r wal wedi cael gwybod y gallan nhw gael trafnidiaeth gyhoeddus yn ôl erbyn diwedd y mis.

    Ar y funud, mae wyth gwasanaeth sydd ddim yn rhedeg wedi i gwmni GHA fynd i ddwylo'r gweinyddwyr fis diwethaf.

    Nawr, mae'r cyngor wedi dweud y bydden nhw'n fodlon helpu ariannu'r gwasanaethau pe bai cwmni arall yn gallu eu llenwi.

    Bws
  11. Newyddion da! Llai o law...wedi ei gyhoeddi 08:51 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Adolygu rôl y Coleg Cymraeg i'r dyfodolwedi ei gyhoeddi 08:39 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Bydd adolygiad o rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dechrau'r haf hwn, gan ystyried datblygiad y coleg at y dyfodol.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd grŵp newydd yn adolygu rôl y coleg, bum mlynedd ers ei sefydlu.

    Bydd casgliadau'r adolygiad yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am bolisïau a chyllid yn y dyfodol.

    CCC
  13. Cyflwynwyr Radio Cymru'n cael eu sbwylio...wedi ei gyhoeddi 08:29 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Rhybudd am drethi uwch i ariannu'r heddluwedi ei gyhoeddi 08:20 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Bydd rhaid i drethdalwyr dalu am hanner cyllideb £119m yr heddlu erbyn 2021, yn ôl Comisiynydd Heddlu Gwent.

    Dywedodd Jeff Cuthbert y bydd yr arian sy'n dod i'r heddlu o dreth y cyngor, yn debygol o gael ei gynyddu bob blwyddyn i sicrhau gwasanaethau cynaliadwy.

    Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb y Swyddfa Gartref.

    Jeff
  15. Williams ar ei ffordd i Barc Goodison?wedi ei gyhoeddi 08:08 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    BBC Sport Wales

    Byddai arwyddo capten Abertawe a Chymru, Ashley Williams am £10m yn "fusnes grêt" i Everton, yn ôl y cyn chwaraewr, Pat Nevin.

    Mae adroddiadau bod Williams yn agos i gytuno i symud i Barc Goodison ar ôl wyth mlynedd gyda'r Elyrch.

    Mae llefarydd ar ran y clwb wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.

    WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  16. Arbrawf Radio Cymru i ddechrau fis nesafwedi ei gyhoeddi 08:01 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Bydd gorsaf newydd Radio Cymru Mwy yn dechrau darlledu ar-lein ym mis Medi.

    Mae disgwyl i'r orsaf, sy'n gynllun peilot, ddarlledu am ychydig dros dri mis nes dechrau mis Ionawr.

    Bydd y pwyslais ar "fwy o gerddoriaeth a hwyl gyda BBC Radio Cymru Mwy yn darlledu yn ystod bore'r wythnos waith".

    Bydd yr orsaf yn darlledu trwy gyfrwng gwefan Radio Cymru, radio DAB yn y de ddwyrain, ac ar ap BBC iPlayer Radio.

    Mwy
  17. Bore da!wedi ei gyhoeddi 08:00

    BBC Cymru Fyw

    Bore da, a chroeso i'r llif byw ar ddydd Mawrth y Steddfod. Arhoswch hefo ni am y diweddaraf o'r maes a thu hwnt nes 18:00.

    Os oes gennych chi neges i'r llif byw, cofiwch y gallwch gysylltu ar cymrufyw@bbc.co.uk neu ar ein tudalenau Twitter, dolen allanol a Facebook, dolen allanol.