Crynodeb

  • Tro'r Côr Pensiynwyr dros 60 oed yw hi heddiw, a chystadlaethau i rai 16-19 oed

  • Prif seremoni'r dydd am 16:30 yw Gwobr Goffa Daniel Owen am nofel heb ei chyhoeddi

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. 'Hud a lledrith' Riowedi ei gyhoeddi 15:54 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Y Gemau Olympaidd

    Mae'r Gemau Olympaidd yn agosau ac wedi wyth awr ar awyren, Catrin Heledd sy'n edrych ymlaen at y cystadlu yn Rio.

    Mae na boeni am y paratoadau, diogelwch y ddinas, a firws Zika, ond neges Catrin?

    "Mae 'na ben tost bob tro o gynnal carnifal fel hyn. Mae'n rhan o hud a lledrith y digwydd."

    Disgrifiad,

    Catrin yn Copacabana

  2. Dedfrydu nyrsys am esgeulustodwedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae nyrsys wnaeth ffugio canlyniadau profion gwaed i gleifion bregus wedi eu tynnu o'r gofrestr.

    Fe wnaeth Lauro Bertulano, Natalie Jones a Rebecca Jones, oedd yn gweithio yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont, gyfaddef esgeulustod bwriadol yn 2015.

    Cafodd Rebecca Jones a Bertulano eu dedfrydu i garchar, tra bod Natalie Jones wedi cael gorchymyn cymunedol.

    nyrsys
  3. Yr Egin: Datgelu mwy am ganolfan newydd S4Cwedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn datgelu dyluniadau diweddaraf Canolfan S4C, Yr Egin mewn digwyddiad ar stondin y brifysgol ar y Maes heddiw.

    Mae'r brifysgol bellach wedi cyflwyno'r cais cynllunio ar gyfer y datblygiad i bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin.

    Bydd cyfle ar y Maes i glywed mwy am y cynllun yn ogystal â gweld model 3D o'r adeilad.

    Yr EginFfynhonnell y llun, Drindod Dewi Sant
  4. Canlyniadau a chlipiau'r cystadlu ar ein gwefanwedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Dim 'hysbysys' ar Cymru Fyw, Gareth!wedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. IPCC i ymchwilio i ddigwyddiad Taserwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi cadarnhau y bydd ymchwiliad i ddigwyddiad lle cafodd dyn 24 oed anafiadau difrifol yn Llandudno.

    Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i ardal Ffordd y Bryniau ar 27 Gorffennaf wedi adroddiadau bod gan ddyn gyllell.

    Fe wnaeth yr heddlu ddefnyddio gwn Taser ar y dyn, ac wrth wneud fe wnaeth y dyn ddisgyn a chael anaf i'w ben.

    Mae'n parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Stoke.

  7. Prif seremoni'r diwrnodwedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Bydd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn cael ei gyhoeddi'r prynhawn 'ma, gyda'r seremoni yn dechrau yn y Pafiliwn am 16:30.

    Y beirniaid yw'r awduron Jon Gower, Fflur Dafydd, a Gareth F Williams. Bydd yr enillydd yn derbyn Medal Goffa Daniel Owen a £5,000.

    Arhoswch gyda ni ar y llif byw am y diweddara'.

    Mari Lisa oedd enillydd y wobr y llynedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mari Lisa oedd enillydd y wobr y llynedd

  8. 'Nabod hwn?wedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae 'na wynebau cyfarwydd rownd bob cornel ar faes yr Eisteddfod 'leni...

    Dai Jones
  9. 'Angen i Gill gamu lawr fel AC'wedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. 'Angen ystyried cerddi gwleidyddol'wedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Wrth drafod cerdd fuddugol y Goron ar raglen Tocyn Wythnos neithiwr dywedodd y bardd a’r newyddiadurwr Karen Owen ei bod wedi gobeithio am gerdd wleidyddol a fyddai’n “ysgwyd seiliau’r sefydliad Cymraeg”.

    Ychwanegodd yr hoffai weld yr Eisteddfod yn gofyn yn benodol am gerdd wleidyddol ambell flwyddyn am yn ail â cherddi mwy sensitif neu gerddi doniol hefyd.

    “Ro’n i ‘di dod i Steddfod y Fenni, ar ôl Brexit a bob dim, yn disgwyl rhywbeth fyddai’n codi nghalon i, fy sigo at wraidd fy mod,” meddai.

    “O dro i dro ella bod hwnna’n rhywbeth i’w ystyried - mi ddylai testun y Goron weithia ofyn am gerdd wleidyddol, cerdd i ysgwyd seiliau’r sefydliad Cymraeg a Chymreig … cerdd sy’n deud rhywbeth wrthon ni am gyflwr y Gymru hon.”

    Karen Owen
  11. Sialens smwddio Aled Hugheswedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Aled Hughes
    BBC Radio Cymru

    Mae'n bosib bydd un aelod o'r orsedd yn edrych chydig yn fler yr wythnos hon, sori Cleif Harpwood!

    Disgrifiad,

    Sialens smwddio Aled Hughes

  12. Mae'r Glas mas!wedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae PCSO Matt Cameron o Heddlu Gwent yn crwydro'r Maes, a'r newyddion da yw ei fod yn dweud bod dim trafferthion wedi bod hyd yn hyn!

    PCSO Matt Cameron
  13. Lansio cwmni Awr Cymru ar y Maeswedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Bydd cwmni newydd yn cael ei lansio ar faes y Steddfod heddiw i adeiladu ar lwyddiant Yr Awr Gymraeg - gwasanaeth digidol sy'n hybu busnesau i weithio trwy'r iaith Gymraeg.

    Mae ymgyrch Yr Awr Gymraeg yn cynnig cefnogaeth i fusnesau sy'n awyddus i hybu eu busnesau trwy ddefnyddio'r iaith, meddai sylfaenydd y cwmni.

    Bydd Huw Marshall yn lansio Awr Cymru i ganolbwyntio ar gynorthwyo busnesau i elwa ar ddefnyddio'r iaith wrth werthu eu gwasanaethau a'u cynnyrch.

    awr cymru
  14. Paratoi dros beint a brechdanwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yn gynharach, roedd aelodau tîm y Deheubarth yn paratoi at gystadleuaeth yr 'Englyn Cywaith' yn Ymryson y Beirdd sy'n digwydd yn Y Babell Lên y pnawn 'ma, dros beint a brechdan bacwn!

    Aelodau tîm y Deheubarth
  15. Ydych chi'n cytuno?wedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    #steddfod2016 ydy un Cymru Fyw gyda llaw!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Ffansio eich hun fel y Malcolm Allen nesaf?wedi ei gyhoeddi 13:20 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    BBC Radio Cymru

    Mae 'na gyfle i bobl sylwebu ar rai o goliau mwyaf cofiadwy ein timoedd cenedlaethol ym mhabell y BBC eleni - fel mae'r sylwebydd Gareth Blainey yn egluro...

    Disgrifiad,

    Cyfle i ail fyw rhai o goliau Cymru yn Euro 2016

  17. Cytundeb newydd i Sigurdssonwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Gylfi Sigurdsson wedi cyhoeddi ar Instagram ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r Elyrch, fydd yn ei gadw gyda'r clwb tan 2020.

    SigurdssonFfynhonnell y llun, Instagram
  18. Rhys Ifans ar y Maeswedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r actor Rhys Ifans ar faes yr Eisteddfod heddiw.

    Mae wedi dod i'r Fenni i gefnogi ei frawd, yr actor Llyr Ifans, sy'n actio'r cymeriad Syr Wynff yn y sioe 'Raslas Bach a Mawr' yn Theatr y Maes y prynhawn yma.  

    Rhys Ifans
  19. Cymylog ar y cyfanwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2016

    Tywydd, BBC Cymru

    Robin Owain Jones sydd a'r rhagolygon: "P'nawn cymylog ar y cyfan, yn sych i lawer ond mi fydd 'na gawodydd gwasgaredig o law man mewn mannau, er y byddan nhw yn troi yn fwy ynysig.

    "Rhywfaint o gyfnodau clir a braf yn datblygu yn ystod y p'nawn, yn enwedig mewn ardaloedd dwyreiniol, lle mae 'na ysbeidiau heulog yn debygol. Yn teimlo'n drymaidd, a'r tymheredd yn 22C ar ei uchaf."

    Am fwy ewch i'r wefan dywydd.