Crynodeb

  • PISA: Cymru'n is na'r cyfartaledd rhyngwladol

  • Dirwy o £166,000 am werthu nwyddau diffygiol

  • Arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards i sefyll lawr

  • Cyngor wedi camweinyddu cynilion plentyn mewn gofal

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Diolch am ymuno â ni heddiw - fe fyddwn ni nôl eto fory gyda'r holl newyddion diweddaraf o Gymru!

  2. Pêl-droedwyr Cymru'n cyffroi Twitter yn 2016wedi ei gyhoeddi 17:58 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Wales Online

    Mae'n agosáu at ddiwedd 2016, ac mae hynny'n golygu un peth - rhestrau di-ddiwedd yn edrych nôl ar y flwyddyn a fu!

    Yn eu mysg mae Twitter wedi rhyddhau rhestr o'r deg digwyddiad ym myd pêl-droed wnaeth gyffroi'r dyfroedd fwyaf ar y wefan gymdeithasol eleni.

    Yn bumed mae peniad Sam Vokes (na, nid gôl Robson-Kanu!) a sicrhaodd fuddugoliaeth i Gymru yn erbyn Gwlad Belg yn rownd wyth olaf yr Euros., dolen allanol

    Yn anffodus, mae gôl munud olaf Lloegr i drechu'r crysau cochion yn Lens yn drydydd.

    Ond y digwyddiad ar frig y rhestr? Moment arall o'r haf yn Ffrainc - Gwlad yr Ia yn trechu'r Saeson!

    sam vokesFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Vokes yn dathlu'r gôl a sicrhaodd le Cymru yn y rownd gynderfynol

  3. Athrawes o flaen panel disgyblu am dwyllo bwrdd arholiwedi ei gyhoeddi 17:51 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Daily Mirror

    Mae athrawes wedi dweud wrth banel disgyblu mai "pwysau gwaith" oedd y rheswm iddi geisio twyllo bwrdd arholi wrth ddweud bod ei holl ddisgyblion wedi pasio arholiad, dolen allanol.

    Roedd Lisa Lock, oedd yn athrawes yn Ysgol Gyfun Abertyleri, Gwent, yn gyfrifol am ddisgyblion chweched dosbarth oedd yn astudio ar gyfer y Fagloriaeth Gymreig.

    Doedd dros 100 o'r disgyblion heb hyd yn oed orffen eu gwaith cwrs, ac fe wnaeth hi adael i rai ohonynt ddod i mewn i'r dosbarth i'w gwblhau er bod y terfyn amser wedi pasio.

    Ar ôl darganfod ei thwyll, fe wnaeth y bwrdd arholi benderfynu y dylai'r holl grŵp o ddisgyblion Lefel A fethu'r arholiad. 

  4. Morlyn Abertawe: 'Peidiwch ag oedi' medd Crabbwedi ei gyhoeddi 17:44 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Un sydd yn awyddus i weld caniatâd yn cael ei roi yn fuan i forlyn Abertawe yw'r cyn-weinidog llywodraeth yn San Steffan, Stephen Crabb.

    Mae gormod yn y fantol i'r penderfyniad gael ei ohirio, meddai AS Preseli Penfro, gan ychwanegu bod "myth" yn bodoli nad yw morlynnoedd yn fforddiadwy.

    Mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu bydd yn rhaid aros tan y flwyddyn nesaf i benderfyniad gael ei wneud am y datblygiad.

  5. North i gael asesiad am anaf i'w benwedi ei gyhoeddi 17:38 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Sport Wales

    Fydd George North ddim yn chwarae dros Northampton Saints eto nes iddo gael asesiad annibynnol ar anaf i'w ben.

    Cafodd North, 24, ei daclo yn yr awyr gan asgellwr Caerlŷr, Adam Thompstone ddydd Sadwrn, a ni symudodd am ychydig eiliadau ar ôl glanio.

    Mae ei glwb wedi mynnu nad oedd wedi'i daro'n ddiymadferth - er nad oedden nhw wedi gallu gweld y digwyddiad ar y pryd ar y sgriniau teledu.

    Ar ôl derbyn triniaeth fe ddaeth North yn ôl i'r cae a chwblhau'r gêm - ond mae'r Seintiau wedi cael eu beirniadu am beidio â'i dynnu oddi ar y cae yn llwyr.

  6. Chwilio'n dod i ben yn Afon Teifiwedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae'r chwilio wedi dod i ben yn yr Afon Teifi ger Aberteifi yn dilyn adroddiadau bod dynes wedi cwympo i'r dŵr.

    Bu'r gwasanaethau brys yn chwilio ers prynhawn ddydd Sul, ond yn dilyn chwilio manwl mae Heddlu Dyfed Powys bellach yn dweud nad oes rhagor allen nhw wneud.

    Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw chwaith wdi derbyn unrhyw adroddiadau o berson ar goll oedd yn ffitio'r disgrifiad o'r ddynes gafodd ei gweld ger yr afon.

    "Wrth i ni chwilio, ni ddaeth unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth bellach i law, ac rydyn ni'n fodlon ein bod ni wedi gwneud popeth posib wrth chwilio'r afon," meddai'r prif arolygydd Peter Roderick.

    bad achub
  7. Carcharu dyn am wrthdrawiad car â dynes feichiogwedi ei gyhoeddi 17:13 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Daily Post

    Mae'r Daily Post yn adrodd bod dyn wedi'i garcharu ar ôl achosi gwrthdrawiad ble bu'n rhaid torri dynes oedd wyth mis yn feichiog allan o'i char, dolen allanol.

    Roedd Lee Michael Harmes, 29, eisoes wedi'i wahardd rhag gyrru pan wnaeth fenthyg cerbyd ei bartner er mwyn cludo ei blant i'r ysgol yn Y Fflint.

    Ar y ffordd yno fe darodd yn erbyn car Laura Holding, a bu'n rhaid ei chludo i'r ysbyty.

    Yn ffodus ni chafodd hi na'r plentyn yn y groth unrhyw anafiadau.

  8. PISA: Kirsty Williams yn herio ysgolionwedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Gwleidyddion Llywodraeth Cymru sydd wedi'i chael hi fwyaf heddiw yn dilyn yr ymateb i ganlyniadau siomedig y profion PISA.

    Ond mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi dweud bod angen i ysgolion hefyd ysgwyddo rhywfaint o'r cyfrifoldeb, a hynny am annog nifer o'u disgyblion i wneud arholiadau gwyddoniaeth oedd yn rhy hawdd.

    Dywedodd Kirsty Williams bod rhai ysgolion yn "lleihau eu huchelgais" wrth gael disgyblion i wneud arholiadau gwyddoniaeth BTEC yn hytrach na rhai TGAU.

    Ychwanegodd bod y pwyslais ar sicrhau bod mwy o blant yn gadael yr ysgol â phum gradd TGAU yn golygu nad oedd llawer o'r disgyblion mwyaf abl yn cael eu herio ddigon.

    kirsty williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Kirsty Williams wedi bod yn Ysgrifennydd Addysg ers mis Mai

  9. Ymdrech i atal blogwraig rhag colli cartrefwedi ei gyhoeddi 16:53 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Mae Ms Thompson ar hyn o bryd yn wynebu bil o £190,000 ar gyfer costau cyfreithiol, a £25,000 o iawndal i brif weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James, wedi iddi golli achos enllib.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Morlyn Abertawe: 'Penderfyniad y flwyddyn nesaf'wedi ei gyhoeddi 16:42 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod hi'n "afrealistig" disgwyl penderfyniad cyn diwedd y flwyddyn ar y morlyn llanw arfaethedig yn Abertawe.

    Dywedodd y gweinidog ynni Jesse Norman wrth ASau yn San Steffan y byddai angen sicrhau bod y dechnoleg "newydd sydd heb ei brofi" am ddod â gwerth am arian.

    Mae disgwyl i adolygiad annibynnol i dechnoleg morlynnoedd llanw gael ei gyflwyno i'r llywodraeth y prynhawn yma.

    Os yw'r cynllun yn Abertawe yn cael ei gymeradwyo, mae disgwyl iddo arwain at ragor o ddatblygiadau tebyg ar hyd arfordir Cymru.

    morlynFfynhonnell y llun, Morlyn Llanw Bae Abertawe
  11. Y gwir tu ôl i ymadawiad Laudrup?wedi ei gyhoeddi 16:30 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    The Sun

    A yw trafferthion presennol Abertawe oddi ar y cae yn dyddio nôl i'r amgylchiadau o gwmpas ymadawiad Michael Laudrup fel rheolwr yn 2014?

    Yn ôl The Sun, mae adroddiadau yn Denmarc yn dweud bod asiant Laudrup, Bayram Tutumlu, wedi gwneud miliynau wrth drosglwyddo chwaraewyr i Stadiwm Liberty yn ystod cyfnod ei gleient wrth y llyw, dolen allanol.

    Yn y diwedd fe wnaeth hynny arwain at benderfyniad y cadeirydd Huw Jenkins i ddiswyddo Laudrup, meddai'r papur newydd, ond mae cwestiynau'n parhau ynglŷn â nifer o'r trosglwyddiadau.

    michael laudrupFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  12. Pa liw fydd Brexit?wedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Twitter

    A fydd Carwyn Jones yn galw am Brexit coch, gwyn a gwyrdd?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. PISA: Cwestiynau caled i'r Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 16:04 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae Carwyn Jones wedi bod yn wynebu cwestiynau caled yn sesiwn Holi'r Prif Weinidog y prynhawn yma yn sgil cyhoeddi'r canlyniadau PISA diweddaraf.

    Dywedodd Andrew RT Davies y dylai Llywodraeth Cymru deimlo "cywilydd" ynglŷn â'r canlyniadau, ac fe alwodd Leanne Wood arnynt i gymryd cyfrifoldeb am y diffyg gwelliant.

    Yn ei ymateb fe gyfaddefodd Carwyn Jones fod y canlyniadau'r rhai "anghyfforddus", a bod "llawer o waith i'w wneud eto".

  14. Dirwy am werthu teclynnau pweru ffonau diffygiolwedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Bydd yn rhaid i gwmni Poundworld dalu £190,000 mewn dirwy a chostau am werthu miloedd o declynnau pweru ffonau diffygiol yn siopau Discount UK a Bargain Buys.

    Fe gafodd yr achos yn erbyn yr adwerthwyr ei ddwyn gan Gyngor Sir Gâr, yn dilyn profion ar declynnau electronig mewn siop yn Llanelli yn 2015.

    Dywedodd y barnwr Richard Williams nad oedd y cwmni wedi talu digon o sylw wrth brofi ac ardystio'r teclynnau oedd yn cael eu mewnforio i'r Undeb Ewropeaidd o China.

    Mewn ymateb fe ymddiheurodd llefarydd ar ran Poundworld, gan ddweud eu bod yn cynnig ad-dalu unrhyw gwsmeriaid oedd wedi prynu'r teclynnau.

    teclynnau gwefruFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gâr
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhai o'r teclynnau pweru ffonau diffygiol - y gred yw bod miloedd yn dal i'w defnyddio

  15. Prynhawn cymylog a mwynwedi ei gyhoeddi 15:41 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Tywydd, BBC Cymru

    Robin Owain Jones sydd â thywydd y prynhawn i ni: 

    "Mi fydd hi’n sych ar y cyfan weddill y prynhawn ond yn gymylog a llwydaidd i’r rhan fwyaf. 

    "Yn teimlo’n fwyn am yr amser o’r flwyddyn – y tymheredd yn 12C ar ei uchaf. Fydd y tymheredd ddim yn gostwng yn is na 7C heno."

    Am fanylion llawn y tywydd yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd y BBC

  16. Rygbi: Anaf i Aaron Jarviswedi ei gyhoeddi 15:24 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Gorsafoedd trên prysuraf - a thawelaf - Cymruwedi ei gyhoeddi 15:15 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Gorsaf drên Caerdydd Canolog oedd yr un prysuraf yng Nghymru llynedd, gydag ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd yn dangos bod dros 12.7miliwn o deithwyr wedi ei defnyddio.

    Fe wnaeth dros filiwn o deithwyr hefyd ddefnyddio gorsafoedd Heol y Frenhines Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Pen-y-bont, a Bae Caerdydd.

    Bangor oedd yr orsaf brysuraf yn y gogledd, gyda thua 337,000 o deithwyr yn ei defnyddio yn 2015/16.

    Yr orsaf dawelaf yng Nghymru oedd Dinas y Bwlch ger Llanymddyfri, gydag ond 132 o deithwyr yn dal ac yn dod oddi ar drên yno - 11 person y mis.

    Roedd y pymtheg gorsaf fwyaf distaw un ai ar linell Rheilffordd Calon Cymru rhwng Powys a Llanelli, neu reilffordd Dyffryn Conwy.

    tren
  18. Rheilffordd: Problem signalauwedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Teithio BBC Cymru

    Ar y rheilffyrdd, mae ‘na oedi o hyd at chwarter awr ar wasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng Llanelli ac Abertawe gan fod ‘na broblem efo’r system signalau. 

  19. Oedi i draffig yn Sir Ddinbychwedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Teithio BBC Cymru

    Yn Sir Ddinbych mae’r traffig yn ciwio i’r ddau gyfeiriad ar yr A525 rhwng Llandegla a Bwlchgwyn lle mae wyneb y ffordd yn cael ei atgyweirio.