Crynodeb

  • PISA: Cymru'n is na'r cyfartaledd rhyngwladol

  • Dirwy o £166,000 am werthu nwyddau diffygiol

  • Arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards i sefyll lawr

  • Cyngor wedi camweinyddu cynilion plentyn mewn gofal

  1. Yr A5 yn dal ar gau o achos pibell ddŵrwedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Twitter

    Mae'r A5 yn Llanfairpwll ar Ynys Môn yn dal i fod ar gau wedi i bibell ddŵr fyrstio ddydd Llun.

    Dywedodd Dŵr Cymru bod y rhan fwyaf o'r gwaith trwsio bellach wedi'i wneud, ac mae disgwyl i'r ffordd ailagor erbyn tua 17:00 heddiw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Diwedd neges twitter
  2. Gwrthdrawiad yn Yr Eidal: Datganiad gan deulu Scott Gibbswedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae teulu'r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Scott Gibbs wedi rhyddhau datganiad yn dilyn digwyddiad pan fu ei wraig mewn gwrthdrawiad yn Yr Eidal.

    Bu Kate Gibbs mewn gwrthdrawiad gyda beic modur ger eu cartref yn Verona ar 2 Rhagfyr ac fe ddioddefodd anafiadau difrifol i'w phen a'i chefn.

    Mae hi mewn cyflwr difrifol ond sefydlog ac mae'r teulu wedi diolch am gefnogaeth yr ysbyty a'u cyfeillion ar hyd a lled y byd.

  3. Heol y Ddinas ar gau yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad o achos tân mewn hen adeilad.

    Tan
  4. Cweir i glwb Abertawe 'ymysg y mwyaf unochrog erioed'wedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Sport

    Fel petai cweir i glwb Abertawe ddydd Sadwrn ddim yn ddigon, mae'r gwybodusion ystadegol nawr wedi dod i'r casgliad bod y gêm yn erbyn Spurs ymysg y mwyaf unochrog erioed yn Uwch Gynghrair Lloegr....

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Tân mewn adeilad ar ffordd brysur yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

    Mae swyddogion tân wedi eu galw y prynhawn yma i ddigwyddiad yn Heol y Ddinas, Caerdydd.

    Cafodd tri cherbyd eu hanfon i ddelio â thân yn hen ganolfan fowlio Old Spin, oedd gynt yn sinema - adeilad sydd yn dyddio nôl i 1912.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Cic o'r smotyn anhygoel Lee Trundlewedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Twitter

    Fe sgoriodd Lee Trundle gôl anhygoel o'r smotyn ddydd Sul.

    Mae Trundle yn 40 oed, ond mae mor ddawnus ag erioed!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Chwarter plant Ceredigion yn byw mewn tlodiwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Cambrian News

    Yn dilyn cyhoeddi ffigyrau ar dlodi plant yng Nghymru, mae'r Cambrian News wedi mynd ati i lunio map rhynweithiol yn dangos maint y broblem mewn gwahanol rannau o Geredigion.

    Mae'r ymddangos bod wyth ward yn y sir ble mae dros draean o blant yn byw mewn tlodi, gan gynnwys wardiau Aberystwyth Rheidol, Aberteifi - Teifi, Llandyfriog, a Llangybi. 

    Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Mark Williams fod y ffigyrau yn "bryder mawr".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. PISA: 'Dim angen newid polisi'wedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    "Mae'n holl bwysig nad ydy'r canlyniadau yma yn gwneud i'r Llywodraeth dynnu eu llygaid oddi ar y bêl," meddai undeb athrawon UCAC, mewn cyfres o negeseuon Twitter yn ymateb i'r canlyniadau PISA yn gynharach.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Arweinydd UKIP yn ymweld â'r Seneddwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Dim awgrym eto bod arweinydd newydd UKIP wedi cyfarfod â Nathan Gill ar ei ymweliad â Chaerdydd.

    Roedd Mr Gill wedi awgrymu y byddai'n fodlon rhoi'r gorau i un o'i ddwy swydd, fel Aelod Cynulliad neu Aelod Seneddol Ewropeaidd, petai Paul Nuttall yn gofyn iddo wneud.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Brexit: 'Dim cymhwysedd' gan Lywodraeth Cymru?wedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Mae'r trafod yn parhau yn y Goruchel Lys ynglŷn â'r camau sydd angen eu cymryd cyn dechrau'r broses Brexit.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Ymosodiad Garnant: Apêl am wyboaethwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Heddlu Dyfed Powys wedi apelio unwaith eto am dystion yn dilyn ymosodiad yn fferyllfa Garnant yng Nghwm Aman, Sir Gâr am 12:40 ddoe.

    Dywedodd yr heddlu bod un person wedi eu trywanu, ac fe gafodd dyn 68 oed ei arestio yn y fan a'r lle.

    Mae'r dioddefwr yn dal i fod yn yr ysbyty, ond dyw e ddim mewn cyflwr allai beryglu ei fywyd.

    garnant
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr heddlu y tu allan i fferyllfa Garnant ddydd Llun

  12. PISA: 'Angen gwella amodau athrawon'wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Yn ei ymateb i'r canlyniadau PISA heddiw mae ysgrifennydd cyffredinol undeb NASUWT, Chris Keates, wedi dweud mai sicrhau fod athrawon yn hapus yn eu gwaith yw'r ffordd i wella pethau.

    "Dylai'r llywodraeth ddysgu gwersi PISA wrth gymryd camau brys i atal y dirywiad o amodau gwaith, statws a morâl athrawon, sydd wedi achosi'r argyfwng mwyaf mewn degawdau wrth recriwtio a chadw athrawon," meddai.

    Mynnodd Rex Phillips, swyddog cenedlaethol Cymru NASUWT, fod y broblem yn deillio nôl i argyfwng gafodd ei greu gan Leighton Andrews yn 2010 pan oedd e'n Weinidog Addysg.

    "Dylai'r Ysgrifennydd Addysg [presennol] Kirsty Williams nodi'r canlyniadau PISA a phenderfynu os yw hi am ddilyn y trywydd tuag at gwricwlwm teilwng ar gyfer PISA neu os ydi hi am ddatblygu cwricwlwm sydd yn ateb anghenion Cymru," meddai.

  13. Arweinydd Cyngor Gwynedd i sefyll lawr fis Maiwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Cyngor Gwynedd

    Mae’r Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll i lawr o’i swydd adeg yr etholiad Cyngor Sir nesaf ym mis Mai 2017. Bydd hefyd yn ildio ei sedd ar Gyngor Gwynedd fel cynrychiolydd dros etholaeth Penygroes.

    Cafodd ei ethol gyntaf yn 2004 gan ddod yn Arweinydd Cyngor Gwynedd yn 2008.

    Wrth gyhoeddi ei fwriad i sefyll lawr dywedodd Dyfed Edwards:

    “Rwyf yn ei gyfrif yn fraint fy mod wedi cael y cyfle i gynrychioli cymuned Penygroes a bod yn Arweinydd y Cyngor am bron i ddegawd. Rwyf o hyd wedi bod o’r safbwynt mai ymroi am gyfnod penodol i’r swydd roeddwn am wneud gan fy mod o’r farn ei fod yn bwysig i wneud cyfraniad penodol am gyfnod penodol ac yna camu i’r neilltu er mwyn rhoi cyfle i eraill wneud cyfraniad. Nid oedd bwriad gennyf i fod yn gynghorydd am oes.”

    Arweinydd
  14. Dawn dweud David Lloyd Georgewedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Golwg 360

    I nodi canrif ers i David Lloyd George ddod yn Brif Weinidog, mae Golwg360 wedi cyhoeddi cyfres o erthyglau yn edrych nôl ar fywyd y gwleidydd o Sir Gaernarfon.

    Mae'n cynnwys cip ar rai o ddyfyniadau enwog y ‘Dewin’ Cymraeg - dyma eu 10 Uchaf nhw, dolen allanol.

    lloyd georgeFfynhonnell y llun, AP
  15. PISA: 'Dal ati efo diwygiadau'wedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Rhagor o ymateb i'r canlyniadau PISA, y tro hwn gan gyn-lefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Enwi Cymro fu farw yng Nghaeredinwedi ei gyhoeddi 11:40 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r heddlu wedi enwi dyn fu farw yn dilyn digwyddiad mewn fflat yng Nghaeredin yn oriau mân y bore ddydd Gwener 2 Rhagfyr.

    Roedd Ashley Hawkins yn 32 oed ac yn dod o'r Barri ym Mro Morgannwg.

    Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Hawkins: "Roedd e'n fab, brawd ac ewythr cariadus, ac mae'n calonnau wedi eu chalwu'n deilchion."

    Mae dyn 28 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio.

    ashley hawkinsFfynhonnell y llun, Heddlu'r Alban
  17. PISA: "Nid yr amser am banig" medd undebwedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Wrth ymateb i ganlyniadau PISA, dywedodd cyfarwyddwr gweithredol undeb ATL Cymru, Rachel Curley:

    "Nid dyma'r amser am banig mewn ymateb i ganlyniadau PISA. Fe fyddai wedi bod yn naif i ddisgwyl gwelliant sylweddol ers y canlyniadau diwethaf bedair blynedd yn ôl.

    "Mae PISA yn fesurydd pwysig, ond dyma ddim ond un llinyn mesur o system addysg Cymru. 

    "Mae newidiadau systematig strwythurol ar y raddfa yma yn cymryd amser i'w gweithredu ac fe fyddwn yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i beidio newid cyfeiriad yn dilyn newyddion heddiw".

  18. PISA: Dechrau eto neu aros ar y trywydd?wedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Wales Politics

    Er bod Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn feirniadol tu hwnt o'r canlyniadau, mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru wedi sylwi ar rywfaint o wahaniaeth yn eu neges...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. PISA: Ymateb undeb addysg NUT Cymruwedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Wrth ymateb i ganlyniadau PISA heddiw, dywedodd David Evans, Ysgrifennydd undeb yr athrawon NUT Cymru:

    "Nid yw PISA'n angenrheidiol yn mesur polisiau cyfoes ond yn hytrach canlyniadau agweddau hanesyddol at addysg.

    "Bydd hyn yn cynnwys tanwario systematig mewn ysgolion, newidiadau polisi di-ddiwedd, ac fel mae sawl gweinidog addysg wedi nodi, methiant wrth geisio sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon.

    "Gyda chynigion am y cwricwlwm newydd, cymwysterau newydd a newidiadau posib i'r ffordd yr ydym yn hyfforddi athrawon a defnyddio'r sector gyflenwi, mae newidiadau mawr ar y gorwel fydd yn cael effaith bositif."

  20. 16 cwestiwn o brawf PISAwedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Twitter

    Pa mor anodd yw'r profion PISA? Wel, dyma gyfle i chi brofi'ch hun!