Crynodeb

  • PISA: Cymru'n is na'r cyfartaledd rhyngwladol

  • Dirwy o £166,000 am werthu nwyddau diffygiol

  • Arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards i sefyll lawr

  • Cyngor wedi camweinyddu cynilion plentyn mewn gofal

  1. PISA: '17 mlynedd o fethiannau'wedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Plaid Cymru

    "Methu, methu a methu eto" - dyna asesiad Plaid Cymru o berfformiad Llafur ym maes addysg yng Nghymru yn dilyn y canlyniadau PISA heddiw.

    "Mae sgoriau Cymru yn waeth nag yr oedden nhw ddegawd yn ôl ym mhob un o'r tri maes, ac rydyn ni nawr yn bellach y tu ôl i gyfartaledd Prydain nag yr oedden ni yn 2006," meddai llefarydd y blaid ar addysg, Llyr Gruffydd.

    Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig nawr i'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, "barhau ar ei thrywydd... o ddiwygiadau".

    llyr gruffydd
  2. PISA: 'Dim bai' ar Kirsty Williamswedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i nodi nad y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, sy'n cynrychioli eu plaid, sydd ar fai am y canlyniadau...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Canlyniadau PISA: Safle Prydain ymysg y gwledydd eraillwedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Twitter

    Mae'r OECD wedi cyhoeddi graff sydd yn dangos safle'r gwledydd oedd yn rhan o brofion PISA. Mae Prydain yn y 15fed safle.

    Mae'r llinell lwyd ar y map yn dangos safle cyfartaledd y canlyniadau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. PISA: 'Degawd o dangyflawni'wedi ei gyhoeddi 10:21 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i ganlyniadau PISA wrth gyhuddo Llywodraeth Cymru o "ddegawd o dangyflawni", sydd yn "sgandal".

    "Er yr holl siarad a'r addewidion i wneud yn well gan y Prif Weinidog, mae ffigyrau heddiw'n ein rhoi ni unwaith eto yn hanner gwaelod y tablau addysg byd eang, ac yn cadarnhau statws Cymru fel y wlad sydd wedi perfformio waethaf yn y DU," meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, Darren Millar.

    darern millar
  5. Canlyniadau PISA: Ymateb Llywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ganlyniadau PISA.

    Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: "Gallwn ni i gyd gytuno nad ydym ble rydym eisiau bod eto. Er bod ein sgôr mathemateg 10 pwynt yn uwch, mae'r canlyniadau ar gyfer gwyddoniaeth yn siomedig. 

     "Fis diwethaf, gwnes i wahodd yr OECD i edrych ar sut rydym ni'n ei wneud yng Nghymru. Roedd eu cyngor yn ddiamwys: Daliwch ati, byddwch yn ddewr, rydych yn gwneud y pethau iawn. 

     "Mae'r gwaith caled wedi dechrau. Mae gennym gynlluniau mewn lle i ddatblygu gweithlu proffesiynol ardderchog a chwricwlwm newydd ac rydym yn cyflwyno cymwysterau cynhwysfawr a fydd yn cael eu parchu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ond rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud. 

    "Efallai bod PISA yn hollti barn, ond dyna yw'r meincnod sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer sgiliau. Nid yw hi erioed wedi bod yn bwysicach i ddangos i'n hunain ac i'r byd fod ein pobl ifanc yn gallu cystadlu gyda'r gorau."

    KW
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Gweinidog Addysg Kirsty Williams

  6. PISA: Disgyblion Cymru'n is na'r cyfartaledd rhyngwladolwedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r canlyniadau newydd gael eu cyhoeddi - ac unwaith eto siomedig yw'r canlyniadau yma yng Nghymru.

    Doedd disgyblion Cymru ddim wedi gwneud cystal yn y profion â'u cyfoedion yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

    Disgyblion 15 oed wnaeth sefyll y profion y llynedd.

    Mae profion PISA yn digwydd bob tair blynedd, a dyma'r pedwerydd tro yn olynol i Gymru berfformio'n waeth na gwledydd eraill y DU.

  7. Canlyniadau addysg PISA ar fin cael eu cyhoeddiwedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi am 10:00.

    Fe wnaeth pobol ifanc 15 oed mewn dros 70 o wledydd sefyll y profion sy'n asesu sgiliau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth.

    Dangosodd y profion diwethaf, dair blynedd yn ôl, bod canlyniadau Cymru yn waeth nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.

  8. Gwraig Scott Gibbs wedi ei hanafu yn Yr Eidalwedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    South Wales Echo

    Cafodd Kate George Weaver-Gibbs ei hanafu gan feic modur wrth groesi'r ffordd meddai'r South Wales Echo.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Golau haul drwy Borth yr Aurwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Twitter

    Mae'r ffotograffydd Richard Jones o Gaernarfon wedi trydar llun trawiadol iawn o haul fis Rhagfyr yn tywynnu drwy Borth yr Aur yn y dref.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Diwrnod mwyn a sych ar y cyfanwedi ei gyhoeddi 09:10 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Tywydd, BBC Cymru

    Rhian Haf sydd â'r tywydd i ni y bore 'ma:

    Mae heddiw'n dechrau gyda niwl, cymylau isel a mymryn o law mân a bydd hi'n ddigon cymylog i lawer ohono ni drwy'r dydd. Mae disgwyl diwrnod sych ar y cyfan â rhywfaint o awyr las, yn enwedig yn y gogledd a'r gorllewin, ond gall ambell ddiferyn o law ddisgyn yn y de.  Bydd hi'n eitha' mwyn hefyd. 

    Am fanylion llawn y tywydd yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd y BBC

  11. Coleman yn ffyddiog bydd Bale yn holliachwedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Sport Wales

    Mae Chris Coleman yn credu y gall Gareth Bale fod yn holliach ac yn barod i chwarae'n y gêm nesa' yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn, ym mis Mawrth. Cafodd Bale driniaeth ar ei bigwrn yr wythnos ddiwethaf a'r disgwyl yw y bydd allan o'r gêm am bedwar mis. 

    Ond meddai Coleman: "Os all rhywun fod nôl cyn yr amser sydd wedi cael ei roi i ni, Bale fydd hwnnw".

    Chris Coleman a Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Athro o Fangor yn euog o weithred anwedduswedi ei gyhoeddi 08:48 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Dyma bennawd y Daily Post ddydd Mawrth. Cafodd yr athro cerdd, Michael McMahon ddedfryd o garchar am 12 wythnos wedi ei gohirio am 12 mis.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Gwrthdrawiad ar yr M4 ger Casnewyddwedi ei gyhoeddi 08:41 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Twitter

    Mae'n debyg bod oedi i deithwyr yn yr ardal.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Gwerthu hen arwyddion stryd Aberystwythwedi ei gyhoeddi 08:30 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n debyg bod rhwng £15,000 - £20,000 wedi ei godi mewn arwerthiant o arwyddion stryd Aberystwyth neithiwr.

    Cafodd yr arwyddion eu gwerthu am fod rhai newydd yn cael eu gosod yn y dref. Y gobaith ydi y bydd yr arwyddion newydd yn gweddu pensaerniaeth Aberystwyth yn well na'r rhai gafodd eu gwerthu.

    Roedd tua 150 o bobl yn yr arwerthiant yn Amgueddfa Ceredigion.

    Arwydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe dalodd Charles Raw-Rees £500 am arwydd y stryd ble mae ei swyddfa wedi ei lleoli

  15. Y ffyrdd yn brysurwedi ei gyhoeddi 08:20 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Teithio BBC Cymru

    Mae hi'n hynod o brysur ar amryw o ffyrdd y bore 'ma, gan gynnwys  ar yr A472 ym Mhontypŵl; yn Nhreforus, Abertawe ar yr A4067 o gyfeiriad Glais; yn Ninas Powys ar ffordd Caerdydd; ac ar ffordd osgoi Wrecsam tua'r A55.   

  16. Ar y ffyrdd: A5 ar gau ar Ynys Mônwedi ei gyhoeddi 08:07 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    Teithio BBC Cymru

    Ar Ynys Môn mae'r A5 wedi ei chau ar ôl i bibell ddŵr fyrstio rhwng Llanfairpwll a throead Brynsiencyn, a hynny'n golygu fod y traffig yn cael ei anfon ar hyd yr A55. 

  17. Disgwyl canlyniadau profion PISAwedi ei gyhoeddi 08:01 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Fe fydd perfformiad disgyblion Cymru ym mhrofion rhyngwladol PISA yn cael eu datgelu yn hwyrach. 

    Fe wnaeth pobol ifanc pymtheg oed mewn dros saith deg o wledydd sefyll y profion sy'n asesu sgiliau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth. 

    Dangosodd y profion diwethaf, dair blynedd yn ôl, bod canlyniadau Cymru yn waeth na unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. 

    ArholiadFfynhonnell y llun, bbc
  18. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:00 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2016

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i wasanaeth diweddariadau byrion BBC Cymru Fyw. 

    Fe gewch chi'r newyddion, dolenni diddorol a llawer mwy yma tan 18:00. 

    Cysylltwch â ni trwy ebostio cymrufyw@bbc.co.uk neu beth am roi cynnig ar yr ap sydd ar gael ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android?