A dyna ni...wedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mehefin 2017
BBC Cymru Fyw
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Llun.
Targedu towtiaid tocynnau yng Nghaerdydd
Perygl i hen Ysbyty Dinbych ddymchwel wedi tân
Busnesau i elwa o gemau pêl-droed?
BBC Cymru Fyw
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Llun.
Eisteddfod yr Urdd
Mi gododd y tywydd yn braf erbyn y prynhawn ar faes y brifwyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Tywydd, BBC Cymru
Robin Owain Jones sydd a rhagolygon y tywdd:
"Mi fydd hi’n sych i’r rhan fwyaf wrth iddi nosi - chyfnodau heulog yn y gorllewin, ond yn dal yn gymylog yn y dwyrain, lle mae ‘na rai cawodydd ynysig yn debygol.
"Unrhyw gawodydd yn clirio heno, ac mi fydd hi’n noson sych wedi hynny.
"Yn dal yn gymylog mewn ardaloedd dwyreiniol, ond efo awyr glir i weddill y wlad mi neith y tymheredd syrthio i 5 neu 6 C mewn ardaloedd gwledig mewndirol"
Golwg 360
Gydag Eisteddfod yr Urdd yn mynd i Lanelwedd y flwyddyn nesa’, mae golwg yn dweud ei bod yn debyg bod cynnwrf yr ŵyl wedi cydio yn barod, gyda chynnydd anferth yn nifer yr aelodau yn yr ardal., dolen allanol
Mae Rhiannon Walker wedi bod yn gweithio fel Swyddog Datblygu cyntaf yr Urdd yn yr ardal ers blwyddyn bellach, gyda’r nifer sy’n cystadlu yn yr ardal wedi bron â threblu.
Mae golwg wedi cyhoeddi fideo o Rhiannon a Stephen Mason, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn edrych ymlaen at y flwyddyn o drefnu sydd o’u blaen cyn y brifwyl nesa’.
Bydd Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018 ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Eisteddfod yr Urdd
Rhaid cynhesu'r offerynnau cyn mynd ar y llwyfan, ar gyfer un o gystadlaethau ola'r prynhawn ar faes yr Urdd.
Merched y Wawr
Ym mhabell Merched y Wawr ar faes yr Urdd yr wythnos hon, mae 16 o baneli lliwgar yn cael eu harddangos. Maen nhw wedi eu creu gan aelodau'r mudiad i ddathlu hanner canrif ers ei sefydlu.
Mae un panel i bob rhanbarth yn ogystal ag un cenedlaethol, un i gylchgrawn Y Wawr ac un i glybiau Gwawr Cymru.
Mi fydd y paneli'n mynd ar daith i'r Bala, Sioe Llanelwedd, Steddfod Môn, y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac i fae Caerdydd dros y misoedd nesa'.
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Bydd llygad y byd ar Gymru nos yfory pan fydd rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd.
Mae miloedd o gefnogwyr Real Madrid a Juventus eisoes wedi cyrraedd y brifddinas ac mae'r awyrgylch yn cynhesu.
Dyma chydig o flas y paratoadau trwy lens y ffotograffydd Sioned Birchall:
Teithio BBC Cymru
Mae’r A55 wedi ei rhwystro’n rhannol tua’r dwyrain a’r traffig yn symud yn araf iawn rhwng cyffordd 27, Llanelwy a chyffordd 28, Rhuallt lle mae ‘na gerbyd wedi torri lawr.
BBC Cymru Fyw
Mae'r prif weinidog Carwyn Jones wedi dweud ei bod hi'n "anffodus" fod angen heddlu arfog ar faes Eisteddfod yr Urdd, wrth iddo ymweld â'r Ŵyl heddiw.
Daw hynny'n dilyn cyhuddiad fod yr Urdd wedi cael eu defnyddio fel rhan o beiriant PR yr heddlu wrth adael i'r swyddogion grwydro'r maes ym Mhencoed.
"Allai ddeall, achos mae'n rywbeth hollol newydd," meddai Mr Jones.
"Ond mae'n rhaid i'r heddlu ystyried beth sy'n berthnasol yn eu barn nhw. Nhw sydd â'r cyfrifoldeb, ac yn eu barn nhw yn anffodus mae'n berthnasol yr wythnos hon."
Eisteddfod yr Urdd
Edrychwch allan am y ddau yma ar raglen Uchafbwyntiau'r Dydd ar S4C heno!
BBC Cymru Fyw
Faint ydych chi'n ei wybod am eich ardal chi o safbwynt yr Etholiad Cyffredinol?
Mi gewch chi'r ateb os wnewch chi roi cynnig ar gwis etholiadol Cymru Fyw.
Eisteddfod yr Urdd
Yn y Tipi y prynhawn yma ar y maes, roedd Siwan Dafydd, Llywydd yr Urdd eleni yn cadeirio sgwrs gyda Alaw Rossington a Rachel Rahman am iechyd meddwl a phobl ifanc. Roedden nhw'n trafod effaith y cyfryngau cymdeithasol ar bobl ifanc, a sut y gall y celfyddydau helpu i roi mewnwelediad i ieuenctid am iechyd meddwl.
Meddai Siwan wrth Cymru Fyw, "mae gen i ffrindiau sy' wedi diodde ac yn y gorffennol dydyn nhw ddim wedi teimlo'n gyfforddus yn siarad am y peth. Mae mor bwysig i wneud iechyd meddwl yn rhywbeth normal i'w drafod ac mae'n holl bwysig gallu trafod pethe personol yn y Gymraeg."
Cyngor Sir Conwy
Mae arweinydd Cyngor Conwy - cyn aelod Cynulliad Plaid Cymru Gareth Jones -wedi gwahodd grwpiau o bleidiau eraill i ffurfio grŵp rheoli.
Mae'r cynghorwyr Ceidwadol ar y cyngor yn fodlon cydweithio, ond nid yw'r blaid Lafur am wneud hynny.
Eisteddfod yr Urdd
Prif Lenor Urdd Gobaith Cymru 2017 ac yn cipio coron Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái mae Elen Gwenllian Hughes, sydd yn 23 oed ac yn wreiddiol o Gricieth yn Eifionydd.
Roedd yn dwyn y ffug enw 'Trychfil bach'
BBC Cymru Fyw
Bwriad Gŵyl Hanes Cymru i Blant yw llwyfannu 12 sioe wahanol ar elfennau o'r chwyldro diwydiannol, a hynny mewn safleoedd treftadaeth ar hyd a lled y wlad.
Mae'n rhan o gynllun ar y cyd gyda nifer o gyrff, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, Llenyddiaeth Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.
Bydd y sioeau yn cael eu llwyfannu yn 2018, gan nodi 200 mlwyddiant geni David Davies Llandinam, un o ddiwydianwyr amlycaf y cyfnod.
Golwg 360
Golwg360 sy'n adrodd bod un o gyn-arwyr clwb pêl-droed Bangor, Les Davies, wedi ymuno gyda chlwb Y Bala.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ac yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ym Mangor yn oriau man y bore 'ma.
Fe wnaeth criw o lanciau ddechrau taflu poteli at ddyn 22 oed oedd yn cerdded ar hyd Allt Glanrafon rhwng 01:40-01:55 ac fe gafodd ei daro yn ei wyneb gan un botel gan achosi anafiadau.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un oedd yno neu sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod RC17080213.
Newyddion 9
Ar drothwy rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd, mae cefnogwyr Real Madrid ac Juventus yn hyderus.
Bu Irfon Walters, cefnogwr Real Madrid o ardal Alicante, a Gabriel Cortinas, cefnogwr Juventus o Torino, yn siarad â Newyddion 9.
Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Yn y Tournoi Toulon y prynhawn yma bydd Cymru dan-20 yn herio Bahrain yn eu hail gêm ar ôl sicrhau pwynt yn eu gêm gyntaf yn erbyn Ffrainc.
Mae'r tîm newydd gael ei gyhoeddi.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.