Crynodeb

  • Targedu towtiaid tocynnau yng Nghaerdydd

  • Perygl i hen Ysbyty Dinbych ddymchwel wedi tân

  • Busnesau i elwa o gemau pêl-droed?

  1. Glaw ysgafn yn cliriowedi ei gyhoeddi 08:08 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mehefin 2017

    Tywydd, BBC Cymru

    Rhian Haf sydd â'r tywydd i ni'r bore 'ma:

    "Mae'r glaw sydd wedi disgyn yn y gorllewin y bore 'ma yn clirio'n raddol ac mi fydd hi'n fwy sych yno y prynhawn yma ac yn teimlo'n fwy ffresh wedi'r glaw. Bydd y glaw yna'n ymddangos fel cawodydd dros faes Eisteddfod yr Urdd yn anffodus."

    Am fanylion llawn ewch i wefan dywydd y BBC.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Rhybudd i dowtiaid tocynnau cyn ffeinal pêl-droedwedi ei gyhoeddi 08:01 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mehefin 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r heddlu wedi rhybuddio y bydd towtiaid tocynnau ar gyfer ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn cael eu targedu drwy ddefnyddio technoleg adnabod wynebau.

    Mae pob tocyn ar gyfer y gêm rhwng Juventus a Real Madrid yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru nos Sadwrn wedi eu gwerthu.

    Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Steve Furnham, o Heddlu De Cymru, y bydd cyfleusterau adnabod wynebau awtomatig (AFR) yn cael eu defnyddio i olrhain troseddwyr a towtiaid adnabyddus.

    stadiwm
  3. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:00 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mehefin 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n ddydd Gwener, 2 Mehefin, a chroeso i'r llif byw. Fe gewch chi'r diweddara' o faes Eisteddfod yr Urdd a Gŵyl Cynghrair y Pencampwyr ynghyd â'r holl newyddion, chwaraeon a'r diweddara' am Gymru ar y we yn fyw tan 18:00.