Tân Ysbyty Gogledd Cymruwedi ei gyhoeddi 11:15 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mehefin 2017
BBC Cymru Fyw
Mae BBC Cymru wedi derbyn llun o'r tân yn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych pan oedd ar ei anterth yn oriau man y bore 'ma.
Targedu towtiaid tocynnau yng Nghaerdydd
Perygl i hen Ysbyty Dinbych ddymchwel wedi tân
Busnesau i elwa o gemau pêl-droed?
BBC Cymru Fyw
Mae BBC Cymru wedi derbyn llun o'r tân yn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych pan oedd ar ei anterth yn oriau man y bore 'ma.
BBC Radio Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud eu bod wedi arestio dyn arall mewn cysylltiad â llofruddiaeth Matthew Cassidy yng Nghei Connah ar 29 Mai.
Cafodd dyn 19 oed o Lannau Mersi ei arestio brynhawn ddoe - y chweched person i gael ei arestio yn yr ymchwiliad. Mae tri wedi cael eu rhyddhau.
Mae'r heddlu wedi cael mwy o amser i holi dyn 48 oed a dyn 18 oed sy'n cael eu cadw yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio.
Eisteddfod yr Urdd
Merched Ysgol Bro Myrddin wedi dod o hyd i gornel dawel i ymarfer yr Ensemble Lleisiol cyn y rhagbrawf.
Eisteddfod yr Urdd
Llywydd y dydd yn Eisteddfod yr Urdd heddiw yw prif weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Wrth ateb holiadur Cymru Fyw, mae ei syniad am gystadleuaeth newydd i'r eisteddfod yn ddifyr iawn!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae amheuaeth wedi bod dros y dyddiau diwethaf a fydd Gareth Bale yn holliach i chwarae yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd nos yfory.
Difyr felly gweld trydar gan y clwb gyda'u carfan ar gyfer y gêm ac, yn bwysicach, llun pwy sydd arno!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Sport
Mae gwefan BBC Sport wedi cyhoeddi faint o arian gafodd timau pêl-droed yr Uwchgynghrair am y tymor aeth heibio, ac mae'r ffigwr yn cynnwys gwobrau am gyrraedd safleoedd arbennig, ond hefyd arian sylweddol o hawliau darlledu.
Fe gafodd Abertawe gyfanswm o £103,197,163 er iddyn ymddangos mewn llai o gemau teledu byw nag unrhyw glwb arall.
Eisteddfod yr Urdd
Mae Swyn a Tirion o Bencarreg ger Llanbedr Pont Steffan yn mwynhau brechdan i frecwast ar y maes, wedi codi'n gynnar.
Rygbi, BBC Cymru
Mae gohebydd rygbi'r Times, Stephen Jones, yn dilyn taith y Llewod i Seland Newydd.
Mae'n dweud fod y tywydd yn Whangarei mor wael nes fod siawn y bydd gêm gynta'r daith oedd i fod i gael ei chynnal yno mewn perygl o gael ei chanslo!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Camp Lawn

Wales Online
Mae WalesOnline yn adrodd bod heddlu sydd wedi bod yn chwilio am ddyn aeth ar goll yn ardal Aberystwyth ers 23 Mai wedi dod o hyd i gorff.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, mae perygl i ran o hen Ysbyty Gogledd yn Ninbych ddymchwel wedi tân difrifol yno yn oriau man y bore.
Mae 40 o ddiffoddwyr gyda deg injan dân wedi llwyddo i'w ddiffodd, ond mae disgwyl iddyn nhw aros ar y safle weddill y dydd.
Wrth i'r heddlu ymchwilio i achos y tân mae peirianwyr yn cael eu galw i mewn i archwilio'r strwythur.
BBC Cymru Fyw
Mae cannoedd o blant yn cael eu trin ar gyfer problemau cysgu yng Nghymru bob blwyddyn.
Mewn rhai achosion mae, babanod, a phobl ifanc wedi cael eu derbyn i'r ysbyty gydag anhwylderau cysgu, ac yng ngogledd Cymru yn unig, mae'r nifer o blant a phobl ifanc sy'n cael meddyginiaeth i drin cyflyrau cwsg, wedi codi 20% dros y tair blynedd diwethaf.
Mae achosion wedi cynnwys anableddau niwrolegol difrifol ac epilepsi, ond dywedodd arbenigwyr fod llawer hefyd yn dioddef o anhunedd, cerdded wrth gysgu ac hunllefau cronig.
BBC Cymru Fyw
Mae ffeinal gyntaf Cynghrair y Pencampwyr wedi digwydd neithiwr wrth gwrs, a Merched Lyon oedd yn fuddugol yn erbyn Merched Paris St Germain.
Roedd hi'n gêm ddi-sgôr ar ôl 90 munud a wedyn wedi hanner awr ychwanegol, ond Lyon aeth â hi 7-6 ar giciau o'r smotyn.
Eisteddfod yr Urdd
Diwrnod yr ymbarels a'r sgidiau glaw fydd hi heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Er bod y glaw wedi cyrraedd, fydd hynny ddim yn amharu ar y disgyblion ysgolion Uwchradd sy'n cystadlu yma heddiw.
BBC Cymru Fyw
Mae cwmni ffonau symudol wedi cyhoeddi mai nhw yw'r cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn y Gymraeg.
Cwmni ffonau symudol EE, sy'n rhan o rwydwaith Grŵp BT, yw'r mwyaf yn y DU, ac fe fydd y cwmni yn cynnig y gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg o'u canolfan alwadau a siopau yng Nghymru.
Nawr fe fydd cwsmeriaid EE yn gallu gofyn am alwad gan dîm gwasanaeth Cymraeg EE wrth anfon neges destun neu arlein at y cwmni.
Cyngor Caerdydd
Wedi'r holl fisoedd o drefnu, mae ambell beth yn newid hyd at y funud olaf.
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y bore 'ma y bydd rhai ffyrdd yn y brifddinas yn cau yn gynt na'r disgwyl - gwyliwch am yr arwyddion.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Mae tân wedi cynnau yn hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych. Deallir bod y to wedi dymchwel a'r tân yn un sylweddol.
Cafodd y gwasanaethau tân eu galw toc wedi 03:00 fore Gwener.
Mae tua 40 o ddiffoddwyr y gwasanaeth yn ymwneud gyda'r digwyddiad a 7 injan dân yno.