Dyna ni am heddiw!wedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2017
BBC Cymru Fyw
Dyna ni am heddiw. Fe fydd y llif byw yn dychwelyd fore Mercher am 08:00.
Ymosodiad Mosg: Teulu mewn sioc
Ffermydd Cymru i wynebu rheolau diciâu llymach
Prosiect i geisio darganfod achos marwolaethau cocos
BBC Cymru Fyw
Dyna ni am heddiw. Fe fydd y llif byw yn dychwelyd fore Mercher am 08:00.
ITV Cymru
Mae gwefan ITV Cymru yn adrodd bydd Ffordd Mynydd y Maerdy ar gau am sawl wythnos , dolen allanoler mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw.
Cafodd y ffordd, sydd yn cysylltu Aberdâr a Y Maerdy, ei effeithio gan dirlithriad yn 2015 wedi glaw trwm yn yr ardal.
Mae disgwyl i'r lôn ail agor ym mis Medi.
Tywydd, BBC Cymru
Rhian Haf sydd yma gyda rhagolygon heno ac yfory:
"Fydd hi'n noson drymaidd arall dros ran helaeth y wlad, y tymheredd dal yn 25C yng Nghaerdydd am ddeg o'r gloch heno!
"Fydd hi'n ddiwrnod bendigedig arall fory ar Hirddydd Haf, yn sych, heulog a phoeth."
Am eich tywydd lleol, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.
Sgorio, S4C
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams AC wedi ymateb i erthygl yn y Guardian ynglŷn â addysg Gymraeg yn Sir Gar.
Dywedodd Ms Williams: "Dw i wedi fy siomi yn fawr gan y pennawd camarweiniol a'r gwallau ffeithiol yn yr erthygl.
"Mae'n camarwain yn llwyr yr hyn sydd yn digwydd yn y gymuned honno ac yn wir dyheadau Llywodraeth Cymru ynglŷn ag addysg Gymraeg."
Daily Post
Mae'r Daily Post yn adrodd bod tair dynes wedi'i cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A470 yn Sir Conwy. , dolen allanol
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng BMW llwyd a Mini cooper ger troad Gerddi Bodnant yn Nyffryn Conwy tua 14:20 heddiw yn ôl y Daily Post.
Mae'r ffordd bellach wedi ail agor yn llawn.
Scottish Power
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r Daily Telegraph yn adrodd sut mae ffotograffydd wedi llwyddo i dynnu llun Plancton lliwgar yn y môr ger Abertawe., dolen allanol
Llwyddodd Alyn Wallace i dynnu'r llun ym Mae Tri Chlogwyn, Abertawe.
BBC Cymru Fyw
Mae Prif Weinidog Cymru wedi mynnu bod Llywodraeth Cymru'n cadw at darged i wella sgôr disgyblion Cymru ym mhrofion addysg rhyngwladol PISA.
Daw hyn er i'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, ddweud yr wythnos ddiwethaf na fydd ysgolion Cymru yn anelu at gyrraedd eu targed blaenorol.
Dywedodd Carwyn Jones bod gweinidogion yn dal eisiau cyrraedd sgôr o 500 ym mhob pwnc ym mhrofion PISA erbyn 2021.
Roedd Ms Williams wedi dweud wrth bwyllgor o ACau yr wythnos ddiwethaf: "Nid dyma fy nharged i."
Traffig Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wales Online
Mae gwefan Wales Online yn adrodd bod y Post Brenhinol wedi stopio dosbarthu post i Ffordd Holly yn Rhisga, Caerffili. , dolen allanol
Mae staff y Post Brenhinol wedi bod yn cael ei bygwth gan rhai pobl wrth ddosbarthu yn yr adal yn ôl Wales Online.
Nawr mae rhaid i drigolion ffordd holly deithio pum milltir i dderbyn eu llythyrau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r Daily Mail yn adrodd bod modd rhentu ynys yn Eryri am £500 y mis. , dolen allanol
Mae Ynys Gifftan yn lecyn 18 acer yng nghanol afon Dwyryd gyda golygfeydd o bentref Port Meirion.
Er mai £500 y mis yw'r rhent, mae gofyn i'r sawl newydd wario dros £100,000 ar adnewyddu'r adeilad fferm sydd ar yr Ynys.
Wales Online
Mae gwefan Wales Online yn disgrifio siom gwirfoddolwyr amgueddfa newydd yn Y Barri, dolen allanol am na fydd yr amgueddfa yn agor eleni yn dilyn difrod gan droseddwyr.
Roedd Barry at War yn fod i agor yn yr haf ond yn dilyn difrod i nifer o'r cerbydau ni fydd modd agor yr amgueddfa eleni yn ôl gwirfoddolwyr.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Daily Post
Mae'r Daily Post yn adrodd bydd llong bleser yr MV Balmoral yn cynnal teithiau rhwng Llandudno a Lerpwl yr haf yma. , dolen allanol
Bydd y llong hefyd yn ymweld ag Ynys Môn a bydd lle i 600 o deithwyr ar ei bwrdd.
BBC Cymru Fyw
Mae aelodau Plaid Cymru yng nghyngor Dinbych wedi pleidleisio o blaid gwrthod bod yn rhan o gabinet yr awdurdod.
Cafodd y penderfyniad ei wneud yn dilyn cyfarfod gan arweinydd y blaid, Leanne Wood ddoe.
Roedd Plaid Cymru wedi cael cynnig dau bortffolio yn y cabinet gan yr arweinydd, y Cynghorydd Huw Evans.
Mae aelodau annibynnol a'r Ceidwadwyr wedi derbyn eu rôl nhw.
Rhian Haf, â map defnyddiol i chi gael darganfod pa mor grasboeth yw hi yn eich ardal chi.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Daily Post
Mae'r Daily Post yn adrodd bod toiledau cyhoeddus mewn rhai o'r llefydd mwyaf poblogaidd gan dwristiaid yng Ngwynedd dan fygythiad. , dolen allanol
Yn ôl y papur mae aelodau o'r cyngor sir yn edrych am ffyrdd i arbed arian wrth i ddyfodol 20 o'r toiledau gael eu trafod.
Mae pryder bydd cau rhai o'r toiledau yn bygwth statws baner las rhai o draethau Gwynedd.
Prifysgol Caerdydd
Bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn asesu sut mae newyddion ffug yn lledaenu ar wefan cymdeithasol yn dilyn ymosodiad terfysgol.
Bydd yr ymchwil newydd hefyd yn edrych ar yr hyn fydd yr heddlu yn gallu gwneud i reoli effaith y newyddion ffug ar ymddygiad y cyhoedd.
Y bwriad yw bod yr heddlu yn gallu defnyddio'r casgliadau i wella'r ffordd maen nhw yn cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol a hynny er mwyn lleihau tensiynau wedi ymosodiad terfysgol.