Ail-ethol Llywydd Undeb Amaethwyr Cymruwedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2017
Undeb Amaethwyr Cymru
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cadarnhau bod ffermwr bȋff a defaid o Gonwy, Glyn Roberts, wedi cael ei ail-ethol fel Llywydd yr Undeb.
Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Mr Roberts o Padog, Betws-Y-Coed, sydd wedi bod yn Lywydd UAC ers 2015: “Rwy’n falch iawn cael bod wrth lyw UAC yn ystod cyfnod hanesyddol.
“Fel Llywydd yr Undeb hon, rwyf am weld cyfleoedd mewn problemau yn hytrach na gweld problemau mewn cyfleoedd. Y flaenoriaeth i ni nawr yw sicrhau ein bod ni’n cynnal sector ffermio cynaliadwy ac ymarferol yma yng Nghymru."
