Crynodeb

  • Ymosodiad Mosg: Teulu mewn sioc

  • Ffermydd Cymru i wynebu rheolau diciâu llymach

  • Prosiect i geisio darganfod achos marwolaethau cocos

  1. Gormod o 'Chiefs'?wedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2017

    BBC Radio Cymru

    Fe fydd y Llewod yn chwarae ei gêm baratoi olaf heddiw cyn y prawf cyntaf yn erbyn Seland Newydd dydd Sadwrn.

    Mae na dri Cymro yn y tîm i wynebu'r Chiefs yn Hamilton, Dan Biggar, Liam Williams a Justin Tipuric.

    Fydd sylwebaeth fyw o'r gêm ar Radio Cymru, gyda'r rhaglen yn dechrau am 08:20.

    Cyhiefs
  2. Ffermydd Cymru i wynebu rheolau diciâu llymachwedi ei gyhoeddi 08:12 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae disgwyl y bydd ffermydd mewn rhannau o Gymru sydd wedi'u heffeithio'n wael gan glefyd y diciâu neu TB mewn gwartheg, yn wynebu rheolau llymach, dan gynlluniau fydd yn cael eu cyhoeddi heddiw.

    Daw'r cyhoeddiad yn dilyn ymgynghoriad gyda'r cyhoedd.

    Fe fydd ffermydd yng Nghymru yn y rhanbarthau lle mae'r risg o'r clefydd yn uchel yn wynebu mwy o reolau a chyfyngiadau o ran prynu, gwerthu a symud gwartheg.

    Dadl yr undebau amaeth yw bod y rhwystrau sydd yn eu lle yn barod ar ffermydd Cymru ymysg y llymaf yn y byd ac maen nhw eisiau gweld mwy yn cael ei wneud i fynd i'r afael a'r clefyd mewn moch daear.

    profi am TBFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Profi am y clefyd ar ffarm yn Sir Benfro

  3. Teulu mewn sioc wedi ymosodiad Llundainwedi ei gyhoeddi 08:03 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae teulu dyn sydd wedi cael ei arestio ar ôl ymosodiad terfysgol ger mosg yn Llundain nos Sul yn dweud eu bod yn mewn sioc.

    Mae'r tad i bedwar, Darren Osborne, sy'n 47 oed, yn hanu o Weston Super Mare ond yn byw yn ardal Pentwyn, Caerdydd.

    Mae o yn y ddalfa ar amheuaeth o geisio llofruddio ac o droseddau'n ymwneud â therfysgaeth ar ôl i fan daro torf o Foslemiaid yn Finsbury Park.

    DynFfynhonnell y llun, bbc
  4. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:00 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2017

    BBC Cymru Fyw

    Bore da a chroeso i'r llif byw. Fe fyddwn ni yma tan 18:00 yn dod a'r newyddion diweddara' i chi.