Cystadlu hwyr yn yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2017
BBC Cymru Fyw
Mae cystadlu hwyr heno yn yr Eisteddfod ym Modedern, gyda’r corau yn cael y sylw – arhoswch efo ni i wylio’r cyfan yma ar Cymru Fyw.
Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00 ac yn para' tan yn hwyr heno
Prif seremoni'r dydd yw defod Cadeirio'r Bardd am 16:30
Tro'r Corau Cymysg, Cerdd Dant ac Alaw Werin fydd hi yn ystod y sesiwn hwyr
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol
BBC Cymru Fyw
Mae cystadlu hwyr heno yn yr Eisteddfod ym Modedern, gyda’r corau yn cael y sylw – arhoswch efo ni i wylio’r cyfan yma ar Cymru Fyw.
Tywydd, BBC Cymru
Robin Owain Jones sydd gyda rhagolygon y tywydd heno:
Mi fydd hi’n parhau'n gymylog wedi iddi nosi, efo glaw mân i lawer ac awel gref yn chwythu o’r de-orllewin, ond mi neith y glaw glirio tua’r de-ddwyrain erbyn yr oriau man ac mi fydd y gwynt yn gostegu hefyd. Y tymheredd ddim is na 12 gradd celsiws heno.
Am fwy o wybodaeth ewch i'r wefan dywydd.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Roedd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn cael eu holi gan Dewi Llwyd ar y Maes heddiw, wrth iddyn nhw hel atgofion o ddau ddegawd ers datganoli i Gymru.
Dywedodd yr Athro Jones mai llwyddiant datganoli oedd y gallu i "gymryd cyfrifoldeb dros ein ffawd ein hun", ond bod y Cynulliad wedi "cymryd yn rhy hir i haeddu'r teitl", a bod gwleidyddion yn "ymladd am rym".
Wrth drafod pwysigrwydd y refferendwm yn 1997, dywedodd Y Llywydd: "Dychmygwch beth fyddai bod yn Gymro heb ddatganoli.
Ond ychwanegodd bod mwy o waith i'w wneud, a bod "diffyg dealltwriaeth" o Lywodraeth Cymru a'i pherthynas â Llywodraeth y DU.
Clwb Pêl-droed Abertawe
Mae Tammy Abraham wedi dweud ei fod eisiau "profi ei hun yn yr Uwch Gynghrair" gydag Abertawe.
Mae'r ymosodwr ifanc ar fenthyg o Chelsea am y tymor ac mae yng ngharfan yr Elyrch ar gyfer y gêm oddi-cartref yn Southampton yfory.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r gynulleidfa ar ei thraed i gydganu Hen Wlad Fy Nhadau.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mared Wyn Hughes, cyn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern, sy'n cydflwyno'r Corn Hirlas i'r Prifardd newydd
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Corn Hirlas yn cael ei gyflwyno gan Mared Wyn Hughes. Yn ei chynorthwyo mae Macwyaid y Llys Bradley Richard Jones a Rhodri Morris Williams.
Eurgain Sara Lloyd sy'n cyflwyno'r Flodeuged. Mae hi yn cael ei chynorthwyo gan Forynion y Llys, Elliw Mair Huws a Greta Fflur Keen
Daw y dawnswyr o Ysgolion Cynradd Bodedern, Bryngwran, Llanfairpwll, Llanfechell, Llannerch-y-medd, Morswyn, Goronwy Owen, Y Borth, Y Graig a Santes Gwenfaen.
Mi gawson nhw eu hyfforddi gan Mair Jones, Mary Evans, Lowri Angharad, Fiona Bridle ac Olwen Green.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Aneirin Karadog, enillydd y Gadair yn Eisteddfod y Fenni 2016, yn camu i'r llwyfan i gyfarch y Prifardd newydd.
Mae'r cyfarchiad yn cael ei ddilyn gan un o uchafbwyntiau'r seremoni, Y Ddawns Flodau.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Kees Huysmans o Dregroes, enillydd y Rhuban Glas yn Eisteddfod y Fenni y llynedd, sy'n canu Cân y Cadeirio.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Osian Rhys Jones yn cael ei gyfarch gan Carwyn Creigllan, cyn-enillydd Gwobr Llwyd o'r Bryn, sy'n adrodd Cerdd y Cadeirio.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Archdderwydd yn Cadeirio'r bardd buddugol Osian Rhys Jones
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Archdderwydd yn cyhoeddi mai Osian Rhys Jones o ger y Ffôr, Pwllheli ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd yw'r bardd buddugol.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae dirprwyaeth yn gadael y llwyfan i nôl y bardd buddugol i'r llwyfan gan ei wisgo mewn mantell borffor.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae dyn ifanc wedi codi ar ei draed.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Archdderwydd yn galw ar y bardd buddugol i godi ar ei draed/thraed ar ganiad yr utgyrn.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Dywedodd Peredur Lynch:
"Yn 'y marn i, Merch y Drycinoedd sy'n dod i'r brig. Ond mae Emyr a Huw yn ffafrio Gari.
Mi rydw i, wrth gwrs, yn derbyn dyfarniad mwyafrifol y ddau ac yn cyhoeddi'n llawen felly mai ffugenw'r bardd buddugol ydi Gari.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae tri o'r cystadleuwyr - Ail Don, Merch y Drycinoedd a Gari - yn llwyr deilyngu'r gadair, ac oedd, mi oedd hi'n gystadleuaeth glós.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
"Mae 'na bump yn y ras, ond oes 'na deilyngdod?
"Wel, os buo 'na rioed deilyngdod fe'i cafwyd yma ym Mȏn eleni."
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Dywedodd Yr Athro Peredur Lynch:
"Fe wnaeth 12 gystadlu eleni"
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Archdderwydd Geraint Llifon yn croesawu pawb i'r seremoni ac yn cyflwyno'r beirniaid, Peredur Lynch, Huw Meirion Edwards ac Emyr Lewis.
Peredur Lynch, Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor sy'n traddodi'r feirniadaeth.