Crynodeb

  • Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00 ac yn para' tan yn hwyr heno

  • Prif seremoni'r dydd yw defod Cadeirio'r Bardd am 16:30

  • Tro'r Corau Cymysg, Cerdd Dant ac Alaw Werin fydd hi yn ystod y sesiwn hwyr

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Angen i Blaid Cymru 'wella'i gêm' medd Simon Thomaswedi ei gyhoeddi 08:01 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2017

    BBC Cymru Fyw

    Dydy carfan Plaid Cymru yn y Cynulliad 'ddim yn perfformio fel y gallai wneud,' ac mae angen iddi 'wella'i gêm,' yn ôl un o Aelodau Cynulliad y blaid.

    Daeth sylwadau Simon Thomas yn sgil cwestiynau newydd am arweinyddiaeth Plaid Cymru a galwadau ar i'r arweinydd presennol ildio'r awenau.

    simon thomas
  2. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:00 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n fore Gwener, 11 Awst, a dyma'r llif byw dyddiol fydd yn dod â'r diweddara' i chi o faes y Brifwyl ym Modedern ynghyd â'r newyddion, chwaraeon a mwy am Gymru ar y we yn fyw tan 18:00.

    Croeso cynnes i chi.