Y Cadeirio: Cadair Ddu Penbedwwedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich+1 11 Awst 2017
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Cadair Ddu Penbedw 1917 ar y llwyfan wrth ochr Cadair 2017.
Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00 ac yn para' tan yn hwyr heno
Prif seremoni'r dydd yw defod Cadeirio'r Bardd am 16:30
Tro'r Corau Cymysg, Cerdd Dant ac Alaw Werin fydd hi yn ystod y sesiwn hwyr
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Cadair Ddu Penbedw 1917 ar y llwyfan wrth ochr Cadair 2017.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r gynulleidfa yn codi ar ei thraed tra bod Steffan Lloyd Owen yn offrymu Gweddi'r Orsedd.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Yr Archdderwydd Geraint Llifon sy'n cofio Eisteddfod Penbedw yn 1917 a'r bardd Hedd Wyn, Bardd y Gadair Ddu.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Dewi Corn a Paul Corn Cynan yn seinio'r Cyrn Gwlad o’r llwyfan.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Gadair yn cael ei chynnig eleni am awdl ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, heb fod yn hwy na 250 o linellau.
Y testun yw Arwr neu Arwres sy'n adlais o'r testun pan enillodd Hedd Wyn y Gadair Ddu yn Eisteddfod Penbedw yn 1917.
Mae Cadair yr Eisteddfod yn cael ei rhoi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri). Mae'r rhodd ariabnnol o £750 yn cael ei rhoi gan John a Gaynor Walter Jones er cof am y Parch a Mrs H. Walter Jones.
Y saer coed Rhodri Owen sydd wedi gwneud y Gadair sydd wedi ei hysbrydoli yn rhannol gan Gadair Ddu Hedd Wyn.
Gallwch weld sut aeth Rhodri ati i gyflawni'r gwaith yn yr oriel fendigedig hon.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Ar ôl cipio gwobr Albwm y Flwyddyn a gyda Carwyn yn Sbaen yn paratoi am daith o amgylch y byd gyda'r Pretenders, Elan, Marged a Gwilym oedd yno i dderbyn y wobr ar ran Bendith.
"Dyma'r peth dwi'n fwyaf balch o fod yn rhan o'i gynhyrchu," meddai Elan. "O'dd hi'n gyfnod mor ffantastig ei recordio hi a da ni'n falch iawn, iawn o'r prosiect."
Yn diolch i Carwyn am ei ran yn 'sgrifennu'r albwm, dywedodd Marged: "Dwi'n meddwl bod Carwyn yn haeddu'r wobr yma yn fwy na ni - mae o wedi rhoi cymaint i mewn i'r albwm.
"Fo ddaeth i fyny â'r syniad yn y lle cynta' yn gofyn i ni gydweithio ar yr albwm. Mae'n un personol iawn iddo fo a dwi mor falch ein bod wedi cael bod yn rhan o hynny."
BBC Camp Lawn
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Roedd degau o rieni a phlant wedi'u siomi prynhawn 'ma gan fod lleoliad sesiwn holi ac ateb sêr newydd Cyw, Deian a Loli wedi llenwi dros hanner awr cyn iddo ddechrau.
Roedd hefyd cyfle unigryw i wylio pennod newydd o'r gyfres nesaf sydd heb ei weld o'r blaen.
Roedd y lleoliad eisoes wedi'i symud o'r Sinemaes i Theatr S4C oherwydd poblogrwydd y ddeuawd, ond yn anffodus roedd dal rhaid troi degau o deuluoedd i ffwrdd.
Undeb Rygbi Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Os fyddwch chi'n cerdded o gwmpas y Pentref Drama ar y Maes, does dim dal beth fyddwch yn gweld neu'n cael ei ofyn i wneud.
Eisoes ni wedi profi pobl mewn hetiau lamp yn cerdded ac yn ymddwyn yn rhyfedd, ond doedd yr Eisteddfodwyr diniwed yma â dim syniad eu bod nhw'n mynd i gael eu gwahodd i briodas.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Nid y glaw yw'r broblem fwyaf ar y maes hyd yn hyn, gan fod hi wedi bod yn gymharol sych wedi ambell i gawod yn gynt yn y bore, ond mae'r gwynt cryf yn gwneud bywyd yn anodd o hyd.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ddiswyddo Ysgrifennydd yr Amgylchedd Lesley Griffiths gan ei bod yn ffafrio cynlluniau i adeiladu 366 o dai newydd ym Mangor.
Menna Machreth yw un o'r rhai sy'n siarad yn y cyfarfod.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Y sialens heddiw yw cael cynifer o fawrion y genedl â phosib mewn un llun. Dyma'r gorau hyd yn hyn.
Dewi Pws, George North, Alwyn Humphreys a trwyn Sulwyn Thomas.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Wrth i'r aelodau newydd gael eu derbyn i'r Orsedd heddiw, fe ddaeth cymeradwyaeth i enwau barddol rhai o'r newydd-ddyfodiaid.
Er i George North gael cymeradwyaeth am Siôr o'r Gogledd, daeth y floedd fwyaf i ddewis Wynford Elis Owen....
Syr Wynff ap Concord y Bos wrth gwrs!
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Roedd rhaid symud picnic 4 a 6, sef sesiwn barddoniaeth a cherddoriaeth o Lwyfan y Llannerch i'r Gornel Ddarllen oherwydd y gwynt uchel, ond yn anffodus, roedd y lleoliad ychydig yn fach i rywun mor boblogaidd â Meic Stevens