Nos dawedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017
A dyna ddiwedd ar ddiwrnod gwahanol ac emosiynol yn y Siambr.
Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd yfory gydag adroddiad o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, dolen allanol.
Cyfarfod Llawn yn dechrau am 12.30pm gyda theyrngedau i Carl Sargeant AC
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2016-17
Dadl: Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg
Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol
Alun Jones and Sarah Down-Roberts
A dyna ddiwedd ar ddiwrnod gwahanol ac emosiynol yn y Siambr.
Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd yfory gydag adroddiad o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, dolen allanol.
Gwelliant Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried diddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg fel yr amlinellir ym Mhapur Gwyn Bil y Gymraeg yn cael ei drechu.
Ond Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru bod y cynulliad:
Yn nodi datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl dim ond blwyddyn iddynt ddod i rym, sy'n cynnwys:
a) bod 76 y cant o siaradwyr Cymraeg o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella;
b) bod 57 y cant o bobl yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg;
c) cynnydd o 50 y cant yn 2015-16 i 96 y cant yn 2016-17 yn nifer y gwasanaethau ffôn lle gynigir dewis Iaith yn ddiofyn; a
d) cynnydd o 32 y cant yn 2015-16 i 45 y cant yn 2016-17 yn nifer y cynghorau sy’n cynnig pob tudalen ar eu gwefan yn Gymraeg.
ACau yn cytuno i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Jermey Miles AC yn Gwnsler Cyffredinol.
Bydd Mr Miles yn olynu Mick Antoniw, AC Pontypridd.
Mae Plaid Cymru yn ymatal eu pleidlais, gyda Simon Thomas yn dweud bod angen proses ehangach na rhoi sêl bendith i argymhelliad y prif weinidog.
Eluned Morgan yn ei hymateb yn dweud ei bod yn bwysig gwthio ymlaen i wneud cymaint ag a ellir yn y maes.
"Dwi ddim eisiau i unrhyw newid greu dim byd gwannach.
"Dwi wedi siarad â'r comisiynydd bore 'ma a be dwi'n meddwl sydd angen yw asesu'r dystiolaeth - mae angen llai o waith gweinyddol ac angen cadw be sy'n gweithio.
"Angen edrych ar effeithiolrwydd, angen canolbwyntio ar y di-Gymraeg a'r dysgwyr.
"Angen cadw'r ffocws ar y miliwn - bydd y Llywodraeth yn arwain. Yr economi hefyd yn bwysig yn y drafodaeth yma."
Ar ran UKIP Neil Hamilton yn dweud bod angen targedu ardaloedd uniaith Saesneg os am gynyddu defnyddwyr y Gymraeg.
Ar ran y Ceidwadwyr Suzy Davies yn dweud nad yw'r comisiynydd wedi tynnu digon o sylw at yr hyn y mae wedi'i gyflawni.
Nid lle i "fod yn swil" yw'r adroddiad blynyddol, meddai.
Sian Gwenllian ar ran Plaid Cymru yn dweud bod "datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl dim ond blwyddyn iddynt ddod i rym."
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad o ddiddymu rôl y comisiynydd.
Eluned Morgan yn dweud ei bod yn falch o gael ei dyrchafu i fod yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Mae'n dweud ei bod yn gwbl ymroddedig i sicrhau addewid y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn 2011 roedd y cyfrifiad yn dangos bod 562,000 o siaradwyr Cymraeg.
Mae'r drafodaeth nesaf ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2016-17, dolen allanol.
Yn yr haf, fe gyflwynodd Gweinidog y Gymraeg ar y pryd Alun Davies gynlluniau i greu comisiwn i hybu'r iaith a rhoi'r cyfrifoldeb am safonau iaith i weinidogion.
Fe fyddai hynny yn golygu diddymu swydd y comisiynydd.
Mae adroddiad y Comisiynydd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio popeth o fewn ei gallu i liniaru tlodi plant, gan gynnwys defnyddio pwerau newydd i godi trethi.
Dylai gefnogi awdurdodau lleol i gynnig mwy o gymorth mewn meysydd sy'n rhoi pwysau ar y teuluoedd tlotaf - gan gynnwys teimlo’n llwglyd yn ystod y gwyliau, costau gwisg ysgol a biliau tanwydd domestig uchel.
Nesaf trafodaeth ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, dolen allanol.
Dan y teitl, "Blwyddyn o Newid", mae Sally Holland yn dweud fod hon wedi bod yn flwyddyn "na welwyd ei thebyg", gan gyfeirio at Brexit, etholiadau a chweryla gwleidyddol".
Mae'n dweud fod yr adroddiad yn amlygu pryderon am dlodi plant, oed pleidleisio a chosbau corfforol.
"Un o brif swyddogaethau fy swyddfa," meddai Ms Holland, "yw codi llais a sefyll dros hawliau plant a phobl ifanc, sydd mor anaml yn cael cyfle i godi llais a sefyll dros hawliau plant a phobl ifanc, sydd mor anaml yn cael cyfle i godi llais drostynt eu hunain. Yn erbyn cefndir swnllyd Brexit, rwy’n ymdeimlo’n fwy nag erioed â’r ddyletswydd i godi llais am yr achosion hyn."
Aelodau Cynulliad yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017, dolen allanol yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno.
Aelodau Cynulliad yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017, dolen allanol yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno.
Dyma ymddangosiad cyntaf Julie James AC yn y Siambr wedi'r cyhoeddiad ei bod yn olynu Jane Hutt AC i swydd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip.
Sian Gwenllian yn holi am y defnydd o'r Gymraeg yn y sector drafnidiaeth wedi penderfyniad Great Western Railway i beidio rhoi arwyddion a chyhoeddiadau dwyieithog ar drenau newydd sy'n gwasanaethu de Cymru.
Y Prif Weinidog yn dweud y dylai Great Western Railway ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg a'i bod yn bwysig bod Lloegr yn ymwybodol o'r Gymraeg.
Gan symud ymlaen i gwestiynau eraill mae Llyr Gruffydd AC ar ran Plaid Cymru yn holi am gost yswiriant meddygon.
Darren Millar AC ar ran y Ceidwadwyr yn holi ymhellach am brinder meddygon teulu yng Nghymru.
Y prif weinidog yn dweud y bydd cyhoeddiad yn fuan bod mwy wedi cael eu denu i hyfforddi.
Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru yn gofyn sut y gellid creu diwylliant o le nad yw 'aflonyddu rhywiol' yn digwydd.
Y prif weinidog yn dweud bod pob plaid yn gyfrifol am hynny.
Mewn ateb i Neil Hamilton, arweinydd UKIP yng Nghymru, y prif weinidog yn dweud bod wastad gwersi i'w dysgu mewn gwleidyddiaeth.
"Rhaid i bob plaid wneud gwleidyddiaeth yn llai bwystfilaidd.
"Rhaid i ddarlun llawn o'r hyn a ddigwyddodd (yn achos Carl Sargeant) gael ei gyflwyno ar yr amser iawn - mae'n rhy fuan eto."
Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, yn gofyn sut mae pobl yn gwybod y bydd y prif weinidog yn cymryd eu cwynion am fwlio o ddifrif
Y prif weinidog yn dweud bod pob mater a chwyn a ddaeth ato wedi cael sylw.
Symudwn ymlaen at y cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn i Carwyn Jones gan Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru?