Crynodeb

  • Cyfarfod Llawn yn dechrau am 12.30pm gyda theyrngedau i Carl Sargeant AC

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2016-17

  • Dadl: Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg

  • Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol

  1. Gohirio'r cyfarfod llawnwedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Mae'r Llywydd Elin Jones nawr yn gohirio'r cyfarfod llawn cyn ail-ddechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog.

  2. 'Bydd ei waddol yn parhau'wedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Ar ddiwedd y sesiwn mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud "bydd gwaddol Carl yn cyffwrdd â phobl am flynyddoedd i ddod".

    Nesaf cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    elin jones
  3. Gwerthu Big Issuewedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Mick Antoniw AC Pontypridd yn dweud ei fod yn cofio gweld Carl Sargeant yn gwerthu Big Issue.

    Mae'n dweud na fydd ei gyfraniad yn mynd yn angof.

    "Roedd cymaint o bobl yn ei edmygu ac yn ei barchu," mae'n dweud.

  4. 'Wastad yn dod nôl atoch'wedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Mae Jenny Rathbone AC yn dweud: "Mi oedd Carl wastad yn dod nôl atoch pan oeddech yn gofyn rhywbeth iddo.

    "Mi fydd e'n cael ei gofio yn bennaf am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol."

    jenny rathbone
  5. Cefnogol i grwpiau ffyddwedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Mae Darren Millar AC Gorllewin Clwyd yn cofio am gyfeillgarwch Carl Sargeant gyda grwpiau ffydd a'r lluoedd arfog.

    Mae e hefyd yn cofio am ei sylwadau 'tafod yn y boch' ac yn cofio am y sgyrsiau hynny pan oedd yn trafod y teulu.

    "Roedd e'n eu haddoli."

    darren millar
  6. 'Sosialydd nac anghofiodd ei wrieddiau'wedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Mae Rhianon Passmore, AC Islwyn yn dweud:

    "Roedd e'n arwain y ffordd ar hawliau merched a phlant.

    "Roedd e'n siarad iaith y dyn ar y stryd.

    "Bu'n help mawr i fi setlo yn y Cynulliad.

    "Roedd e wastad yn dod â gwên. Sosialydd nac anghofiodd ei wreiddiau."

    rhiannon passmore
  7. 'Diogelu'r amgylchedd a'r tirlun'wedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Mae Dafydd Elis-Thomas AC yn hel atgofion am deithiau trenau y ddau.

    "Dwi am ddiolch iddo yn arbennig am ei waith yn diogelu'r amgylchedd a'r tirlun.

    "Fe fyddi di wastad yn ein gweddi."

    dafydd elis thomas
  8. 'Hoff iawn o garioci'wedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Mae Nick Ramsay, AC Mynwy yn dweud: "Roedd e'n unigryw, yn berson cynnes ac yn gefnogol.

    "Roedd e'n DJ ac yn hoff iawn o garioci.

    "Ry'n ni yma i barhau y gwaddol - y gwaith oedd yn bwysig iddo."

    nick ramsay
  9. 'Pob sgwrs yn adeiladol'wedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Mae John Griffiths, AC Dwyrain Casnewydd, yn dweud bod Carl Sargeant wedi cynrychioli ei etholaeth gyda brwdfrydedd.

    "Roedd hi'n gamp fawr iddo ddod i'r Senedd o ystyried ei gefndir ond fe wnaeth hynny yn rhwydd.

    "Roedd e wastad yn berson hawdd i siarad ag ef ac mi fyddai pob sgwrs yn adeiladol.

    "Mae ein teimladau heddiw gyda theulu Carl - ei rieni, ei wraig a'i blant."

    john griffiths
  10. 'Cynrychioli'r dosbarth gweithiol'wedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Mae Simon Thomas AC yn dweud ei fod yn ffrind triw ac yn gymeriad bywiog a doniol.

    "Roedd e'n atgoffa fi o'm teulu i - ac yn cynrychioli'r dosbarth gweithiol.

    "Roedd e'n gwbl o ddifrif am yr hyn a gredai."

    simon thomas
  11. 'Wastad yn gweithredu'wedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    "Fe deyrnasodd e - ro'wn wastad yn gallu dibynnu arno fe fel prif chwip", medd Jane Hutt AC.

    "Roedd e wastad yn gweithredu ar yr hyn oedd e'n ei gredu.

    "Mae'r golled yn fawr."

    jane hutt
  12. Trin pawb fel ei gilyddwedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    "Roedd e'n credu mewn trin pawb yn gyfartal," meddai Rebecca Evans AC.

    rebecca evans
  13. 'Anrhydeddu yr hyn mae e wedi'i adael'wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    "Byddwn wastad yn anrhydeddu gwaddol Carl" medd Joyce Watson AC.

    joyce watson
  14. 'Ni oedd yr efeilliaid un noson'wedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    "Roedd e wastad yn bleser i fod yn ei gwmni," meddai Paul Davies AC Preseli Penfro.

    "Roedd e'n hwyl i fod gydag e ac roedd yna fflach yn ei lygad.

    "Dwin cofio gwisgo yr un dillad ag e unwaith - yr un siwmper a'r un trowsus - ni oedd y 'twins' - am hwyl!

    "Bydda'n methu ei hwyl ond yn fwy na dim ei gyfeillgarwch."

    paul davies
  15. 'Credu mewn chwarae teg'wedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    "Dwi'n cofio Carl yn dawnsio yn ei ystafell, pan ddechreuais i 'ma. Roedd e'n gyflwyniad da i fi i'r lle 'ma," meddai Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasnaethau Cyhoeddus.

    "Y peth mwyaf amdano yw bo fi'n gallu ymddiried ynddo fe - ro'dd e wastad yno. Dyn diffuant ac anrhyddeddus a ffrind i fi.

    "Ro'dd e'n credu'n gryf mewn chwarae teg a chyfiawnder cymdeithasol".

    alun davies
  16. 'Byth yn dal dig'wedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    "Doedd Carl byth yn dal dig," medd Ann Jones, Dyffryn Clwyd.

    "Dwi'n cofio aros ar bromenâd Rhyl gydag ef a'r ymbarel yn troi drosodd - paid sôn eto am 'Sunny Rhyl'! meddai.

    "Roedd Carl yn ddyn ei gymuned."

    ann jones
  17. 'Angen i ni ofalu am ein gilydd'wedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Mae Ken Skates, AC De Clwyd yn cyfeirio at y teulu gan ei fod yn eu hadnabod yn dda.

    "Roedd Carl yn browd iawn o'i deulu.

    "Roedd e'n hoff iawn o gerddoriaeth, a dawnsio, rhannu straeon.

    "Beth mae e wedi'i adael i ni yw'r dyhead i edrych ar ol ein gilydd yn well."

    ken skates
  18. 'Fe fyddai'n dod â'r melysion'wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    "Roedd Carl," meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, "yn gwybod sut i gael y gorau o bobol.

    "Roedd e'n llawn hwyl ond yn cymryd ei ddyletswyddau o ddifrif.

    "Roedden i'n eistedd drws nesaf iddo yn y cabinet a byddai e wastad yn dod â melysion.

    "Roedd e hefyd yn ddiweddar wedi dysgu crosio.

    "Roedd e'n meddwl amdanai fel chwaer

    "Fyddai byth yn dy anghofio."

    lesley griffiths
  19. Teyrnged Neil Hamiltonwedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    "Rhaid cofio bod gwleidyddion yn bobl a bod ganddynt deimladau.

    "Ro'n yn aml yn cyfnewid brwydrau geiriol ag e ond y tu hwnt i'r cyfarfod yn rhannu jocs.

    "Rodd e'n dweud pethau fel oedden nhw ac felly roedd gen i barch mawr tuag ato."

    neil hamilton
  20. Teyrnged Leanne Woodwedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    "Roedd e'n wleidydd dosbarth gweithiol - byth yn anghofio'r dosbarth hwnnw.

    "Dwi a Plaid Cymru yn rhannu'r golled."

    Ar ran Bethan Jenkins dywedodd Leanne Wood bod Carl Sargeant yn graig iddi er iddyn nhw anghytuno yn wleidyddol.

    leanne wood