Crynodeb

  • Cyfarfod Llawn yn dechrau am 12.30pm gyda theyrngedau i Carl Sargeant AC

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2016-17

  • Dadl: Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg

  • Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol

  1. Teyrnged arweinydd y Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    'Roedd Carl yn gymeriad,' meddai Andrew RT Davies.

    "Credai'n angerddol yn yr hyn a wnai ac fe gyflwynodd bedair deddfwriaeth".

    "Ry'n wedi colli ffrind ond mae Bernie a'r plant wedi colli aelod o'r teulu.

    "Dyma un o'r dynion mwyaf diffuant i mi eu cyfarfod.

    "Byddai wastad yn dweud wrthai 'Be sy'n digwydd bos' " - hynny, medd Mr Davies, yn adlewyrchu ei gefndir o weithio yn y ffatri.

    andrew rt
  2. Teyrnged y prif weinidogwedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Y Prif Weinidog Carwyn Jones yn rhoi'r deyrnged gyntaf.

    Mae'n cydymdeimlo â'r teulu yn gyntaf - yna yn canmol rhinweddau Mr Sargeant fel gweinidog - yr un pennaf hwyluso sefyllfaoedd anodd.

    'Fuodd na ddim gair croes rhyngom ni," meddai Mr Jones.

    carwyn jones
  3. Munud o dawelwchwedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Mae'r Llywydd, Elin Jones AC, yn galw am funud o dawelwch sy'n cychwyn ac yn gorffen gyda chaniad cloch y Senedd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Cydymdeimlo â'r teuluwedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Y Llywydd yn cydymdeimlo gyda theulu Carl Sargeant sydd yn bresennol.

  5. Cwestiynau i'r prif weinidog ar ôl y teyrngedauwedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Wedi'r teyrngedau, bydd 'na gwestiynau i'r prif weinidog.

    Mae Mr Jones wedi cael ei feirniadu gan aelodau o deulu Mr Sargeant ynglŷn â'r ffordd y gwnaeth e ddelio gyda'r honiadau yn ei erbyn.

    Ddydd Gwener fe gytunodd Carwyn Jones i gynnal ymchwiliad annibynnol i'r penderfyniadau a wnaed ynghylch Carl Sargeant cyn ei farwolaeth.

  6. Cyfarfod yn dechrau yn gyntwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Fe fydd cyfarfod llawn y Cynulliad yn dechrau awr yn gynharach na'r arfer er mwyn i aelodau allu rhoi teyrnged i AC Alun a Glannau Dyfrdwy.

    Roedd Carl Sargeant yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn.

    Ddydd Iau dywedodd Carwyn Jones nad oedd ganddo ddewis ond diswyddo Carl Sargeant.

  7. Croeso i Senedd Fywwedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich 14 Tachwedd 2017

    Bydd aelodau cynulliad yn rhoi teyrngedau i Carl Sargeant pan fydd gwleidyddion yn ailymgynnull ym Mae Caerdydd am 12.30.

    Cafwyd hyd i gorff Mr Sargeant yn ei gartref, bedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet gan Carwyn Jones am ei fod yn wynebu honiadau o ymddwyn yn amhriodol gyda menywod.

    Clywodd cwest ddydd Llun mai crogi oedd achos ei farwolaeth, yn ôl dyfarniad cychwynnol gan y crwner.

    Mae'r prif weinidog wedi addo ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y cafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo fel ysgrifennydd cymunedau, a'i wahardd o'r Blaid Lafur.

    Carl Sargeant