Crynodeb

  • Y gic gyntaf am 12:35 yn ail gêm Ryan Giggs wrth y llyw

  • Dim newid i dîm Cymru gurodd China 6-0 ddydd Iau

  • Uruguay wedi curo'r Weriniaeth Tsiec o 2-0

  • Y gêm yn cael ei chwarae yng nghanolfan chwaraeon Guangxi

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 14:57 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Diolch i chi am ddilyn y gêm ar ein llif byw, gallwch ail fyw uchafbwyntiau'r gêm ar ein tudalen Facebook, dolen allanol, a darllen adroddiad am y gêm ar ein gwefan.

    Hwyl am y tro!

  2. 'Nid y canlyniad oedden ni eisiau'wedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Nid oedd Gareth Bale ar ei orau heddiw: "Nid y canlyniad oedden ni eisiau," meddai wedi'r gêm.

    Ond mae'n dweud bod y gemau wedi bod yn ddefnyddiol i'r tîm ddod i 'nabod y rheolwr newydd, a bydd y chwaraewyr yn dal i weithio'n galed.

    Bale
  3. Uruguay yn codi tlws Cwpan Chinawedi ei gyhoeddi 14:51 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni, capten Uruguay, Diego Godin yn derbyn tlws Cwpan China 2018 gyda gwen fawr ar ei wyneb.

    Mae'r tlws yn mynd yn ôl i Dde America, yn dilyn buddugoliaeth Chile y llynedd.

    CwpanFfynhonnell y llun, CBDC
  4. Seremoni wobrwyo yn dechrauwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r seremoni wobrwyo yn dechrau, gyda chwaraewyr Cymru yn casglu eu medalau am orffen yn ail yn y gystadleuaeth.

    Er ei bod hi'n gystadleuaeth gyfeillgar, mae'r holl garfan yn edrych yn siomedig na wnaethon nhw lwyddo i wneud digon i ennill y tlws.

  5. 'Ymlaen gyda gobaith'!wedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. 'Gallai Cavani wedi sgorio tair'wedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    John Hartson
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Dylai Cavani fod wedi cael tair gôl yn ôl John Hartson, gyda'i rediadau da yn fygythiad drwy'r gêm.

    Roedd ei gyfuniad gyda Luis Suarez yn rhy dda i Gymru.

    SuarezFfynhonnell y llun, AFP
  7. 'Bydd Giggs wedi dysgu llawer'wedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    John Hartson
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Bydd Ryan Giggs wedi dysgu llawer mwy o'r gêm heddiw na wnaeth yn erbyn China, meddai Owain Tudur Jones ar S4C.

    Cyn-ymosodwr Cymru, John Hartson yn dweud bod profiad Uruguay wedi rhoi'r mantais iddyn nhw.

  8. Dim ond un gôl yn gwahanu'r timauwedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Er y pwysau yn hwyr yn yr ail hanner, doedd Cymru methu sgorio'r gôl hollbwysig yna, a gôl Edinson Cavani sy'n selio'r fuddugoliaeth i Uruguay.

    Cafodd Uruguay sawl cyfle da arall hefyd, gan daro'r postyn ddwywaith yn yr hanner cyntaf, a gallai'r sgor fod wedi bod yn waeth ar Gymru.

    Ond fe wnaeth Cymru greu cyfleoedd hefyd, a bydd Ryan Giggs yn falch o hynny er y canlyniad.

  9. Uruguay wedi ennill o 1-0wedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae amser am un cic gornel yn amser ychwanegol...

    Ond dydy Cymru methu manteisio a cholli yw hanes dynion Ryan Giggs yn ei ail gêm.

    Uruguay felly sy'n ennill Cwpn China 2018.

  10. Tacl wych yn atal Suarezwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Roedd Suarez yn glir ar y gôl yn fanno, ond amddiffyn gwych yn cadw'r sgôr yn 0-1.

    Ar y pen arall, Cavani yn ennill trosedd feddal iawn i ddefnyddio 'chydig mwy o eiliadau.

  11. Cymru'n gwthio ymlaenwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Cymru'n gwthio ymlaen rwan, a newid arall i Gymru - Ben Davies yn gadael a Ryan Hedges yn dod ymlaen.

    Mae'r 90 munud bron ar ben...

  12. Cymru 0-1 Uruguaywedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Nandez yn gadael y cae a Stuani yn dod ymlaen i Uruguay.

    Cic gornel i Gymru ond mae Uruguay yn amddiffyn fel tîm.

    5 munud yn weddill i ddynion Giggs.

  13. Sgiliau Ashley Williams!wedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Matthews yn syth i mewn i'r chwarae, ac mae'n rhaid iddo fod yn gryf i gadw ymosodiad Uruguay rhag mynd yn rhy bell.

    Trosedd gan Bale ar Torreira yn hanner Uruguay, a chic rydd Muslera yn hir i fyny'r cae.

    Ashley Williams dangos ei ddoniau i gadw'r bel gan Suarez a Cavani, ac Evans yn ergydio, ond yn methu a thrafferthu'r golwr.

  14. Cymru 0-1 Uruguaywedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cymru'n edrych yn fwy ymosodol erbyn hyn, ac yn ennill cic gornel.

    Evans yn ei chymryd hi ond Uruguay yn llwyddo i glirio'r bêl.

    Chris Gunter yn gadael y cae ac Adam Matthews yn cymryd ei le.

  15. Lockyer ymlaen yn lle Chesterwedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mwy o newidiadau i Gymru, Tom Lockyer yn dod i'r cae yn lle'r amddiffynnwr James Chester.

    Chwarter awr yn weddill i Gymru...

  16. Ergyd dda gan Kingwedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Cymru'n adennill y meddiant a Bale yn ymosod cyn pasio i King ar ochr y cwrt.

    Ergyd King yn gwyro, ac yn mynd heibio ochr anghywir y postyn. Byddai wedi gallu mynd i unman...

    Evans yna yn ergydio o bellter, ond byddai'n rhaid iddi fod yn chwip o ergyd i guro'r golwr o fanno.

  17. Cyfraniad olaf Harry Wilsonwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Chwarae da gan Billy Bodin ar yr asgell dde, ac mae'n pasio i Wilson, ond y symudiad yn dod i ddim.

    Dyna gyfraniad olaf Harry Wilson, sy'n gadael y cae u gael ei eilyddio gan Lee Evans.

  18. Cymru 0-1 Uruguaywedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Uruguay yn bygwth unwaith eto, ond amddiffyn Cymru yn llwyddo i oroesi, er i Suarez gyrraedd y cwrt cosbi a rhoi pas beryglus ar draws y gôl.

    Newid i Uruguay, Torreira yn dod ymlaen yn lle Rodriguez.

  19. Bodin ymlaen am Vokeswedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Billy Bodin yn dod i'r cae yn lle Sam Vokes.

  20. Cyfle i Gymru!wedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Bale yn taro'r ergyd i mewn i'r wal, a chic gornel wedyn gan Wilson.

    Croesiad gwych arall gan y gwr ifanc, ac mae'n glanio yn y cwrt chwech, ond Cymru'n methu ei tharo i'r rhwyd!