Crynodeb

  • Y gic gyntaf am 12:35 yn ail gêm Ryan Giggs wrth y llyw

  • Dim newid i dîm Cymru gurodd China 6-0 ddydd Iau

  • Uruguay wedi curo'r Weriniaeth Tsiec o 2-0

  • Y gêm yn cael ei chwarae yng nghanolfan chwaraeon Guangxi

  1. Llun swyddogol tîm Cymru cyn y gêmwedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    Cymdeithas Bêl-droed Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Cymru 0-0 Uruguaywedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Cymru'n pasio'r bêl yn gynt, ond Bale yn colli'r bêl.

    Allen a Davies yn sicrhau nad yw Nandez yn manteisio ar y sefyllfa. Trosedd a cherdyn melyn i Davies.

  3. Cymru 0-0 Uruguaywedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Croesiad peryglus gan Declan John o'r asgell chwith, ac am eiliad mae'r golwr i'w weld yn poeni, ond mae'n llwyddo i gadw ei ddwylo ar y bêl...

    Ar ben arall y cae, croesiad peryglus arall gan Uruguay, ac mae angen i Ben Davies fod yn gywir i glirio'r bêl.

  4. Cymru 0-0 Uruguaywedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r ddau dîm wedi cael eu cyfleoedd, ond Uruguay sy'n edrych fwyaf peryglus yn yr 20 munud cyntaf.

    Amddiffyn braidd yn nerfus gan Gymru yn rhoi cyfle arall i Uruguay, ond ergyd Matias Vecino yn fflachio heibio postyn Hennessey.

  5. Cymru 0-0 Uruguaywedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Croesiad addawol gan Chris Gunter ar yr asgell dde ond Vokes na Bale yn gallu gwneud cysylltiad da ac mae'r cyfle wedi mynd.

    Andy King yna yn ymosod i lawr ganol y cae, mae'n agor i fyny iddo, ond ei ergyd yn syth at y golwr.

  6. Cyfle i Uruguay!wedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Bale yn colli'r bêl ac Uruguay yn ymosod i lawr y dde.

    Croesiad peryglus i mewn i'r canol, ond Cavani yn methu gwneud cysylltiad o groesiad Suarez.

    Rhybudd arall i Gymru...

    GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Cymru 0-0 Uruguaywedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cymru'n amddiffyn yn ddyfn pan mae gan Uruguay y bêl, gyda bron pob chwaraewr y tu ôl i'r bêl, gan ei gwneud hi'n anodd i Uruguay ddarganfod lle ar y cae.

    Cic rydd i Gymru am gamsefyll, a Hennessey yn ei tharo'n hir i fyny'r cae.

    Harry Wilson yn cael ei lorio, ond dim trosedd meddai'r dyfarnwr.

  8. Newid i Uruguaywedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Cafodd amddiffynnwr Uruguay, Gimenez ei anafu yn ystod y cyfnod olaf o chwarae, ac mae'n derbyn triniaeth oddi ar y cae.

    Cic rydd i Gymru, Harry Wilson i gymryd y gic, ond y peniad yn glir gan yr amddiffyn, a Joe Allen yn methu a rheoli ei ergyd o bell.

    Sebastian Coates ar y cae yn lle Gimenez.

  9. Ergyd i Vokeswedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Trosedd yn erbyn Joe Allen a Cymru yn chwarae ymlaen i lawr yr asgell chwith drwy Declan John.

    Cyfle i Vokes wedi chwarae da gan Harry Wilson i lawr yr asgell dde wedyn, ond y blaenwr yn taro'i ergyd yn syth at y golwr.

  10. Uruguay yn taro'r postyn!wedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Dechrau da i Gymru gyda phasio sydyn, ond Joe Allen yn colli'r meddiant ac Uruguay yn taro'r postyn!

    Ergyd Suarez o fewn modfeddi i roi'r dechrau perffaith i Uruguay.

  11. I ffwrdd a ni!wedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Dyma ni felly, mae'r rownd derfynol wedi dechrau!

    Cymru sy'n dechrau'r gêm ac yn anelu am ennill eu tlws cyntaf mewn 81 o flynyddoedd.

  12. Amser cinio ychydig fwy cyffrous na'r arfer!wedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Yr anthemau sydd nesafwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r timau allan ar y cae a rydyn ni'n barod am yr anthemau draw yn Nanning...

  14. Cefnogwr ifanc ym Mhorthcawl yn barod am y gêmwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Ymdrech arbennig gan un cefnogwr!wedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae tîm Cymru eisoes wedi diolch i'r cefnogwyr sydd wedi teithio draw i China i gefnogi yn ystod y gystadleuaeth, a dyma un sydd wedi gwneud ymdrech arbennig!

    Mae Rhys Edwards [crys Cymru] yn wreiddiol o Aberaeron ond yn byw yn Auckland, Seland Newydd bellach.

    Aeth draw i China ar gyfer y gêm gyntaf, cyn teithio yn ôl i Seland Newydd ar gyfer priodas, ac yna yn ôl i Nanning cyn gem heddiw.

    Chwarae teg i ti Rhys!

    Rhys Edwards
  16. Digon o Gymry yn Guangxiwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r stadiwm yn Guangxi yn dechrau llenwi, a digon o Gymry yma yn cefnogi!

    Fan
    Baneri
  17. Y cyfan yn fyw ar S4Cwedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    S4C

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Y timau wedi eu cyhoeddiwedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r timau wedi eu cyhoeddi, a does dim newid i dîm Cymru gurodd China:

    Hennessey, Davies, Williams (C), Chester, John, Gunter, King, Allen, Bale, Wilson, Vokes.

    A'r gwrthwynebwyr: Muslera, Varela, Godín (C), Giménez, Laxalt, Nández, Bentancur, Vecino, Rodríguez, L Suárez, Cavani.

  19. Pwy yw'r gwrthwynebwyr?wedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Bydd Uruguay yn achosi fwy o broblemau i Gymru heddiw na wnaeth China ddydd Iau, gyda'u sêr byd-enwog, Luis Suarez, Edinson Cavani a'r capten Diego Godín.

    Maen nhw yn y rownd derfynol wedi buddugoliaeth o 2-0 dros y Weriniaeth Tsiec.

    Yn wahanol i Ryan Giggs, sy'n dechrau ei yrfa gyda Chymru, mae rheolwr Uruguay, Óscar Tabárez wedi bod wrth y llyw gyda'i wlad ers 2006, a hynny am yr eildro yn ei yrfa, gan reoli dros 180 o gemau.

    Suarez a CavaniFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Sut gyrhaeddodd Cymru y ffeinal?wedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cymru yn y rownd derfynol ar ôl curo China o 6-0 yng ngêm gyntaf Ryan Giggs wrth y llyw.

    Yn ogystal â gêm gyntaf y rheolwr, llwyddodd Gareth Bale i dorri record Ian Rush fel prif sgoriwr y tîm cenedlaethol, ac fe gafodd Harry Wilson ei gôl gyntaf i Gymru ar ei ben-blwydd yn 21.

    Cyn gêm heddiw, mae Bale wedi dweud y byddai ennill tlws rhyngwladol gyda Chymru yn "enfawr" ac yn "fwy arbennig" na gyda'i glwb.

    Disgrifiad,

    Uchafbwyntiau Cwpan China: China 0-6 Cymru