Trosedd arall ar Wilsonwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mawrth 2018
BBC Cymru Fyw
Trosedd arall ar Harry Wilson, ac mae'r dyfarnwr yn rhoi cic rydd, ond dim cerdyn melyn...
Mae hon mewn safle addawol...
Y gic gyntaf am 12:35 yn ail gêm Ryan Giggs wrth y llyw
Dim newid i dîm Cymru gurodd China 6-0 ddydd Iau
Uruguay wedi curo'r Weriniaeth Tsiec o 2-0
Y gêm yn cael ei chwarae yng nghanolfan chwaraeon Guangxi
BBC Cymru Fyw
Trosedd arall ar Harry Wilson, ac mae'r dyfarnwr yn rhoi cic rydd, ond dim cerdyn melyn...
Mae hon mewn safle addawol...
BBC Cymru Fyw
Mae'r bêl yn y rhwyd unwaith eto, ond Suarez yn camsefyll o drwch blewyn...
Ymosodiad arall i lawr y dde, ond Vecino yn methu manteisio.
Newid i Gymru - Connor Roberts yn dod i'r cae yn lle Declan John.
BBC Cymru Fyw
Mae'r cyfleoedd yn dal i ddod i Uruguay...
Pas dros y top i Cavani sydd y tu ol i amddiffyn Cymru, ond nid yw'n gallu pasio i Suarez - fyddai wedi cael cyfle hawdd arall.
BBC Cymru Fyw
Dylai Uruguay fod wedi dyblu eu mantais, wrth i Cavani fethu cyfle tebyg iawn i'r un rwydodd eiliadau yn ôl.
Mae angen i Gymru dacluso yn y cefn os ydyn nhw am aros yn y gêm...
BBC Cymru Fyw
Cymru'n ymosod yn ôl yn syth ac Andy King eto yn bygwth, ond mae ei ergyd yn mynd heibio'r postyn.
BBC Cymru Fyw
Edinson Cavani yn rhwydo wedi chwarae slic gan Uruguay.
Pas hir dros amddiffyn Cymru, Rodriguez yn croesi a'r cyfle yn hawdd i Cavani sgorio ar ei 100fed ymddangosiad.
Malcolm Allen ar S4C yn gofyn cwestiynau am amddiffyn Cymru.
BBC Cymru Fyw
Trosedd ar Bale ymhell yn hanner Uruguay ar yr asgell dde.
Harry Wilson i gymryd y gic, ond mae hi'n syth i ddwylo Muslera yn y gôl i Uruguay.
Uruguay yn gwrthymosod, a chwarae da gan Cavani yn creu cyfle, ond yr ergyd yn methu'r targed.
BBC Cymru Fyw
Mae'r timau yn ôl allan ar y cae, dim newidiadau yn yr egwyl.
I ffwrdd a ni...
BBC Camp Lawn
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Un cwestiwn sydd ar feddwl gohebydd pêl-droed BBC Cymru, Rob Phillips, a fyddwn ni'n gweld newidiadau gan Giggs?
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Bydd Ryan Giggs yn eithaf balch gyda pherfformiad Cymru yn ôl cyn-ymosodwr Cymru, John Hartson ar S4C.
Uruguay yn edrych yn beryglus, ond Cymru wedi bod yn "hyderus" a "heb ddangos gormod o barch" tuag at Uruguay.
BBC Cymru Fyw
Roedd digon o gyfleoedd yn yr hanner cyntaf yn Nanning, naw ergyd i Gymru, gyda phump yn taro'r targed, tra bod Uruguay ond wedi cael un ergyd ar y targed, ond wedi taro'r postyn ddwy waith drwy Luis Suarez.
Dyw hi ddim yn teimlo fel gêm gyfeillgar!
BBC Cymru Fyw
Muslera yn achub ei wlad ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gyda Bale yn penio croesiad Wilson tua'r gôl, a Vokes o fewn modfeddi i rwydo, ond golwr Uruguay yn dal ei afael ar y bêl ger y postyn cefn!
Cymru 0-0 Uruguay ar ddiwedd hanner cyffrous o bêl-droed!
BBC Cymru Fyw
Pasio cywir gan Gymru yn hanner Uruguay, croesiad peryglus a Chris Gunter yn darganfod ei hun yn y cwrt cosbi! Peniad peryglus yn ôl ar draws y cwrt ond Uruguay yn llwyddo i glirio.
Uruguay yn dod yn ôl tuag at Gymru a Luis Suarez yn ennill cic rydd gan y rheolwr am fynd i'r llawr dan bwysau Ben Davies.
Suarez ei hun sy'n cymryd y gic, ond mae hi'n syth i mewn i'r wal, ac yna ergyd Nandez yn hedfan dros gôl Wayne Hennessey.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Sgorio, S4C

Camgymeriad gan James Chester yn rhoi'r bêl i Edinson Cavani, sy'n symud ar ei droed dde ac yn tanio ergyd tuag at gol Hennessey, sy'n gwneud arbediad da.
Ar ben arall y cae, y bêl yn torri i Andy King sy'n ergydio o ochr y cwrt cosbi ac yn denu arbediad da gan Muslera!
Gêm dda hyd yn hyn!
BBC Cymru Fyw
Chwarae gwell gan Gymru i lawr y chwith, croesiad addawol gan Declan John ond Uruguay yn clirio am gornel.
Amddiffynnwyr yn clirio'r gornel ond mae hi'n dod yn ôl i Ben Davies, sy'n ergydio o bell! Mae'n methu'r targed.
BBC Cymru Fyw
Cic hir gan Muslera a Luis Suarez yn curo Ashley Williams yn y cwrt cosbi, ond Hennessey allan i gasglu'r bêl
Mae Suarez yn gandryll hefo'r dyfarnwyr am beidio rhoi cic o'r smotyn iddo!
BBC Cymru Fyw
Gunter yn colli'r bêl mewn man peryglus o flaen ei amddiffyn, ond dim byd yn dod o'r symudiad i Uruguay.
Cymru yn ceisio pasio allan o'r cefn ond Ashley Williams yn pasio i lwybr Suarez, sy'n taro'r postyn eto!
Bydd angen amddiffyn gwell gan Gymru os ydyn nhw am gadw Uruguay allan.
Trosedd ar Harry Wilson, cic rydd.