Crynodeb

  • Y cystadlu yn dechrau am 10:00, yn cynnwys cystadlaethau i 12-16 oed a'r Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed

  • Wedi'r cystadlu yn y Pafiliwn, prif seremoni'r dydd yw defod Coroni'r bardd am 16:30

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ddiwedd straeon a phigion o'r Maes ar ddydd Llun Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

    Mae modd gweld canlyniadau o'r cystadlu yma.

    Diolch am eich cwmni a bydd mwy o straeon a phytiau o'r maes fory.

    Maes
  2. Llongyfarchion ar Twitterwedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Twitter

    Mae ymgyrch Shw'mae Caerdydd yn un o nifer sydd wedi llongyfarch Catrin Dafydd ar Twitter.

    Mae hi'n aelod o'r tîm sy'n hyrwyddo Diwrnod Shw’mae Sumae er mwyn "tynnu sylw at y ffaith fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Trafod agweddau at rywioldebwedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    'Tueddiad i bobl symud o gefn gwlad oherwydd eu rhywioldeb' oedd testun trafodaeth yn y Brifwyl ynglŷn â'r gymuned LHDT.

    Dywedodd un o’r cyfranwyr, Fflur, ei bod hi dal yn teimlo nad oedd ganddi’r “hyder” i siarad am y pwnc pan oedd hi nôl adref yn Nhonyrefail, er nad oedd hi’n cuddio’r ffaith ei bod hi’n hoyw.

    Ychwanegodd Stacey o Lanrug, sy’n drawsryweddol, ei bod hi wedi gorfod teithio lawr i dde Cymru i “gwrdd â phobl trawsryweddol” eraill.

    Dywedodd Iestyn, o Lannerchymedd, bod angen “cynyddu gwelededd a modelau rôl yng nghefn gwlad o’i gymharu â’r ddinas” er mwyn i bobl LHDT deimlo’n fwy cyfforddus.

    Trafodaeth
  4. Rhagolygon y tywyddwedi ei gyhoeddi 17:47 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Tywydd

    Rhian Haf sydd â rhagolygon y tywydd ar gyfer heno a dydd Mawrth: "Mi neith hi gymylu eto heno wrth i ffrynt oer ddod a rhywfaint o law ysgafn i fannau yn y gorllewin.

    "Mi fydd na ambell gawod bore fory wrth i'r ffrynt glirio tua'r dwyrain - wedyn neith hi ddechrau teimlo'n fwy ffresh, ond yn troi'n sych efo rhai sleidiau braf. "

    Steddfod
  5. Coron hardd Catrinwedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Llongyfarchiadau felly i Catrin Dafydd sy'n cael gwisgo'r goron hardd gan y gemydd Laura Thomas o Gastell Nedd a enillodd gystadleuaeth i'w dylunio gan Brifysgol Caerdydd, rhoddwyr y Goron eleni.

    Mae hi wedi treulio dros 300 awr yn ei chreu o waith parquet pren a metel, fel mae’n egluro yn y fideo yma.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Cyfarch y barddwedi ei gyhoeddi 17:28 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Merched o 11 o ysgolion cynradd Caerdydd yw merched y ddawns flodau sy'n dawnsio er anrhydedd i'r bardd buddugol.

    Rhian Williams yw cyflwynydd y Corn Hirlas, Rhodri Allsobrook a Morgan Iwan Ebenezer Ellis yw Macwyaid y Llys, Lleucu Parri sy’n cyflwyno’r Flodeuged a morynion y llys ydy Eiry Glain Thomas a Ffion Celyn Williams.

    Catrin Dafydd ar y llwyfan gyda'r Archdderwydd
  7. Blas o'r gwaith buddugolwedi ei gyhoeddi 17:24 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dyma flas ar y gerdd Hyrddiadau gan Catrin Dafydd o'i chasgliad buddugol:

    Mae 'na wynt ynddi

    a thonnau bychain afon Taf fel pebyll

    yn cael eu hyrddio ar eu hochrau.

    Prismau'n bodolaeth

    yn diflannu yn ôl i'r düwch heb adael ôl.

    Dim ond y gwynt sy'n gyson

    a'i biffian dros y tir

    fel un a ŵyr y gwir.

    Gwybod, serch ein hymdrechion ffuantus

    nad ŷm ond crwyn brau

    sy'n chwythu mor boenus ysgafn â phapur tisw

    ar hyd wyneb y dŵr

    cyn rhwygo.

    Ai'r gwynt sy'n ein creu,

    yn ein plycio o'r gwlypteroedd

    er mwyn blasu melynwy'r haul am blwc?

    Ac i ba le yr aiff ein hatgofion llachar wedi inni dewi –

    yn ôl i'r dŵr du gyda ni?

    Dawns y Blodau
  8. O'r Coroni i'r Stomp!wedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Catrin yn byw yng Nghaerdydd ond yn dod o Waelod-y-Garth ger Pontypridd yn wreiddiol.

    Enillodd ei phumed nofel, Gwales, wobr ffuglen Llyfr y Flwyddyn eleni. Enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd 2005.

    Mae Catrin Dafydd yn un o’r beirdd a sefydlodd nosweithiau Bragdy’r Beirdd a bydd yn mynd yn syth o’r seremoni hon i berfformio yn y Siwper Stomp sy’n dilyn y seremoni ar lwyfan y Pafiliwn!

    Catrin Dafydd
  9. Coron yr Eisteddfod Catrin Dafyddwedi ei gyhoeddi 17:08 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Catrin Dafydd, 'un o feirdd a llenorion ifanc mwyaf cyffrous Cymru' yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

    Mae hi yn ennill y Goron am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau, ar y testun Olion.

    Y beirniaid oedd Christine James, Ifor ap Glyn a Damian Walford Davies, mewn cystadleuaeth a ddenodd 42 o geisiadau.

    catrin
  10. Cerddi am 'Gymreictod cymysg' y brifddinas yn fuddugolwedi ei gyhoeddi 17:03 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Er bod y beirdd ar y brig i gyd “yn syrthio’n brin o’i safonau uchaf ei hunan ar brydiau” mae tri yn deilwng o’r Goron.

    Ond gwaith ‘Yma’ sy’n mynd â hi o drwch blewyn am gerdd sy’n trafod Cymreictod ‘cymysg’ ardal Grangetown, Caerdydd, sydd ddim ymhell o leoliad yr Eisteddfod eleni.

    “Dyma gasgliad amserol ac apelgar o obeithiol gan fardd sy’n lladmerydd huawdl dros Gymreictod cymysg, byrlymus y brifddinas,” meddai Christine James.

    seremoni
  11. Beirniaid yn sôn am 'siom'wedi ei gyhoeddi 16:57 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Er bod 42 wedi ymgeisio dywed Christine James eu bod fel beirniaid wedi eu siomi fod sawl bardd wedi anwybyddu’r cais am gasgliad o gerddi, yn hytrach na phryddest.

    Roeddent hefyd yn siomedig am “gywair” rhai o’r gweithiau.

    “Roedd y testun-gosod, ‘Olion’, yn gwahodd cerddi ôl-sylliadol a lleddf, a phrin oedd y beirdd a lwyddodd i ymryddhau rhag hynny,” meddai.

    Ond mae pum bardd wedi dod i frig y gystadleuaeth, meddai.

    Seremoni
  12. 42 o ymgeiswyrwedi ei gyhoeddi 16:53 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae 42 wedi ymgeisio am y Goron eleni, dros 10 yn fwy na’r llynedd pan enillodd Gwion Hallam y brif wobr.

    Dipyn o waith tafoli felly gan y beirniaid eleni sef y cyn-Archdderwydd, Christine James, Ifor ap Glyn a Damian Walford Davies.

  13. Gweddi'r Orsedd yng Nghanolfan y Mileniwmwedi ei gyhoeddi 16:51 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dewi Corn a Paul Corn Cynan sy’n canu’r corn gwlad a Iona Jones sy'n rhoi gweddi’r orsedd sydd, yn ôl yr arfer yn cael ei hateb gan y gynulleidfa.

    arall
  14. Neges gan gefndryd Celtaiddwedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Wrth gyfarch ar ran cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd mae Mairin Nic Dhonnchadha a Blathnaid O Bradaigh o Iwerddon yn dweud fod y ddolen gyswllt rhwng ein gwyliau “yn nodi ein llwyddiannau a’n parhad, ac yn rhan annatod o’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol drwy gefnogi ein gilydd.”

    Dywed fod ein cyn-dadau wedi gosod sylfeini i ni adeiladu arnynt.

  15. Croesawu'r Cynrychiolwyr Celtaiddwedi ei gyhoeddi 16:43 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Cyn defod y Coroni, mae Gorsedd y Beirdd yn croesawu cynrychiolwyr o'r gwledydd Celtaidd a Phatagonia i'r Eisteddfod – o orseddau Cernyw, Llydaw a’r Wladfa a hefyd o’r Mod yn yr Alban, Yn Chruinnaght ar Ynys Manaw a gŵyl Oireachtas yn Iwerddon.

    Seremoni
  16. Seremoni'r Coroni 2018wedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    A dyma ni, prif seremoni gynta’r wythnos, seremoni Coroni’r Bardd, ym mhrif theatr Canolfan y Mileniwm, Theatr Donald Gordon, sef y Pafiliwn eleni..

    Pwy fydd yn gwisgo Coron 2018, sy'n cael ei rhoi am gasgliad o gerddi rhydd (ddim mewn cynghanedd) heb fod dros 250 o linellau? Y thema yw Olion.

    Coron Eisteddfod Caerdydd 2018Ffynhonnell y llun, Yr Eisteddfod Genedlaethol
  17. Lluniau dydd Llunwedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Ar ddiwrnod y Coroni ac urddo aelodau newydd i Orsedd y Beirdd, mwynhewch rai o luniau'r dydd gan ein ffotograffydd gwadd, Sioned Birchall.

    Seremoni Gorsedd y beirdd
  18. Cyw a'r Gerddorfawedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Cafodd sioe arbennig 'Cyw a'r Gerddorfa' ei chynnal yn Neuadd Hoddinott, Canolfan y Mileniwm wrth ddathlu pen-blwydd y cymeriad hoffus yn 10 oed eleni.

    Daeth aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ynghŷd â chymeriadau Cyw, gan gynnwys Ben Dant, Dona Direidi, Tref a Tryst, Radli Migins a Huw ac Elin i ddiddanu, ac mi roedd y plant i'w gweld wrth eu bodd!

    Isod mae Bethan a oedd wedi teithio gyda'i theulu o Lanybydder i fwynhau'r sioe.

    Mi fydd perfformiadau eraill o'r sioe hon ddydd Mawrth.

    Ben Dant yn sioe Cyw
    Bethan
  19. Cymraeg sefydliadau'n 'dal i wella'wedi ei gyhoeddi 15:58 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus yn parhau i wella, yn ôl Meri Huws Comisiynydd y Gymraeg.

    Daw ei sywadau wrth i adroddiad annibynnol gael ei gyhoeddi ar y ffordd mae sefydliadau cyhoeddus yn defnyddio'r Gymraeg.

    Bu Meri Hughes yn cynnal trafodaeth ar ganfyddiadau'r adroddiad mewn sesiwn ar y maes, gyda'r aelod seneddol Liz Saville-Roberts, arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas a phrif gwnstabl cynorthwyol Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan.

    Meri Huws
  20. Beirniadu rhai gigs dwyieithogwedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Golwg 360

    Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu rhai gigs dwyieithog adeg yr Eisteddfod, yn ôl Golwg360., dolen allanol

    Mae'r gigs dan sylw wedi'u trefnu mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd dros wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Yn ôl Llywodraeth Cymru, sy'n trefnu'r gigs fel rhan o'i hymgyrch Dydd Miwsig Cymru, "bydd rhai gigs yn Gymraeg, bydd rhai yn ddwyieithog".

    Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r dwyieithrwydd gan ddweud bod y Llywodraeth yn "rhoi'r argraff fod rhaid cael y Saesneg i 'gefnogi' y Gymraeg".

    cymdeithas