Crynodeb

  • Y cystadlu yn dechrau am 10:00, yn cynnwys cystadlaethau i 12-16 oed a'r Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed

  • Wedi'r cystadlu yn y Pafiliwn, prif seremoni'r dydd yw defod Coroni'r bardd am 16:30

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Canlyniadau'r cystadluwedi ei gyhoeddi 15:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Hyrwyddo cyfleoedd i siarad Cymraegwedi ei gyhoeddi 15:11 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, wedi dweud fod y sir yn ymroddedig i hyrwyddo cyfleoedd i siarad yr iaith.

    Ar faes yr Eisteddfod dywedodd y cynghorydd Huw Thomas ei fod yn awyddus i ddangos y "gwaith parhaus sy'n cael ei wneud i droi Caerdydd yn ddinas wirioneddol ddwyieithog."

    "Mae darparu addysg Gymraeg o ansawdd yn flaenoriaeth; dim ond Gwynedd a Sir Gaerfyrddin sy'n dysgu mwy o ddisgyblion yn Gymraeg nag yr ydyn ni yng Nghaerdydd, ac mae'r sector yn tyfu.

    "Byddwn ni'n darparu ar gyfer y twf hwnnw ac yn parhau i gynnig addysg o safon."

    Huw ThomasFfynhonnell y llun, bbc
  3. Datgelu rhai o gyfrinachau'r Archdderwyddwedi ei gyhoeddi 14:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Yr Archdderwydd Geraint Lloyd Owen, neu Geraint Llifon o roi ei enw barddol, sy'n datgelu rhai o'i gyfrinachau wrth Ateb y Galw yr wythnos hon. Mae'n son am ei brawf gyrru, a thri chynnig i Gymro!

    Geraint Lloyd Owen
  4. 'Chydig o hanes Gorsedd Beirdd Ynys Prydainwedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Fe gafodd cyfarfod cyntaf i sefydlu yr Orsedd ei gynnal Ar Fryn y Briallu (Primrose Hill), Llundain, yn 1792 gan ddyn o'r enw Iolo Morgannwg.

    Mwy o'r hanes.

    Gorsedd
  5. Eisteddfod Conwy eisoes wedi codi '£175,000'wedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Cyngor Sir Conwy

    Mae'n debyg fod pwyllgor gwaith Eisteddfod 2019 eisoes wedi cyrraedd tua hanner eu targed ariannol.

    Bydd Prifwyl 2019 yn ymweld â Llanrwst, Sir Conwy.

    Dywedodd y cynghorydd Garffild Lloyd Lewis ar ran Cyngor Conwy: “Mae’r brwdfrydedd a’r gweithgaredd yn digwydd yn barod.

    “Dwi’n meddwl bod dros hanner y targed wedi’i gasglu’n barod – tua £175,000 – ac mae’r gwaith hynny’n parhau.”

    Garffild Lloyd LewisFfynhonnell y llun, PCDDS
  6. Huw Jones, S4C: "Trafferthion ar y ffordd"wedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    S4C

    Mae cadeirydd S4C wedi dweud y gallai gymryd hyd at dair blynedd cyn bod modd gweld effaith symud pencadlys y sianel i Gaerfyrddin.

    Mewn sgwrs ar faes yr Eisteddfod cafodd Huw Jones ei herio ar faint o staff fyddai'n penderfynu adleoli o Gaerdydd yn barhaol.

    Cyfaddefodd Mr Jones bod "trafferthion yn sicr ar y ffordd" o ran gorfod delio gyda staff fydd yn dewis gadael.

    "Proses tymor hir yw hyn... o fewn tair blynedd byddwn yn edrych nôl a mynd 'dyma'r swyddi sydd yna'."

    Huw Jones, Cadeirydd S4C yn siarad gyda Vaughan Roderick o'r BBC
  7. Cymru, Lloegr, Llanrwst... a'r Crumblowerswedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Gofyn y cwestiynau mawrwedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Twitter

    Anghofiwch y seremoniau a'r cystadlu - dim ond un peth sydd ar feddwl rhai heddiw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Codi'n brafwedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Tywydd

    Rhian Haf sydd a'r diweddara am y tywydd.

    "Bydd hi'n dal yn gymylog i lawer ohona ni am gyfnod, yn enwedig yn y gorllewin, ond ma' hi'n brafio'n raddol mewn mannau dwyreiniol.

    "Mae 'na awyr las rhwng Bae Colwyn, Wrecsam, y Drenewydd a'r Fenni, ac mi neith hi droi'n bnawn heulog a chynnes dros ran helaeth y wlad.

    "Y tymheredd yn codi i 27C yn Wrecsam a Chaerdydd, a'r 20au isel weddill y wlad.

    "Ond mi neith hi gymylu eto heno wrth i ffrynt oer ddod a rhywfaint o law ysgafn i fannau yn y gorllewin."

    tywydd
  10. Seremoni urddo gyda'ch nŵdls?wedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Bydd y rhai sy'n cael bwrdd wrth y ffenest yn cael golygfa go wahanol heddiw, wrth fwynhau eu nŵdls mewn rhai o dai bwyta bae Caerdydd...

    Yr Orsedd yn y bae
  11. Sefydlu gwobr er cof am Tony Bianchiwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae teulu'r llenor Tony Bianchi wedi sefydlu gwobr er cof amdano i geisio annog rhagor o ysgrifennu straeon byrion yn y Gymraeg.

    Bu farw Mr Bianchi yn 65 oed ym mis Gorffennaf 2017.

    Tony Bianchi
  12. Ble awn ni gynta' mam?wedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r teulu Jones o'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd wedi cyrraedd y Maes yn y bae sy'n heulog braf. Cip sydyn ar y map i weld ble i fynd gynta'...

    Teulu
  13. Yr Eisteddfod yn 'hapus iawn iawn'wedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yng nghynhadledd i’r wasg y Brifwyl dywedodd pennaeth cyfathrebu’r Eisteddfod, Gwenllian Carr, ei bod yn “hapus iawn iawn efo’r ffordd mae pethau wedi mynd dros y penwythnos cyntaf”.

    “Dwi ddim yn meddwl ein bod ni erioed wedi gweld cymaint o bobl o gwmpas ar y Maes ar y penwythnos agoriadol,” meddai.

    “Roedd ‘na awyrgylch ffantastig yma ddoe ac echddoe, ac roedd echnos yn enwedig yn teimlo fel y nos Wener neu’r nos Sadwrn olaf.”

    Bae Caerdydd
  14. Pa amserlen?wedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Yr Orsedd ym Maes Bwedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ar ôl y ciwio, mae aelodau'r Orsedd yn edrych yn gartrefol iawn ym Maes B erbyn hyn, wrth baratoi at y seremoni yng Nghylch yr Orsedd i urddo aelodau newydd y bore 'ma. Tybed a fyddan nhw nôl yma i rai o'r gigs ar ddiwedd yr wythnos?

    Aelodau'r orsedd
  16. Canlyniadau hyd yn hynwedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Cyfle i gael cipolwg ar ganlyniadau cyntaf o'r cystadlu ddydd Llun.

    Steddfod
  17. Cliw bach fod y Steddfod wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Cyfle i ymlacio cyn y bwrlwmwedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Diwrnod y Coroniwedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae 42 casgliad o gerddi wedi ymgeisio am Goron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fydd yn cael ei chyflwyno ym mhrif seremoni'r Brifwyl ddydd Llun.

    Mae'r Goron wedi'i rhoi gan Brifysgol Caerdydd ac fe fydd yr enillydd hefyd yn derbyn £750 sy'n rhoddedig gan Manon Rhysa Jim Parc Nest - dau sydd wedi ennill y Goron.

    Tasg y beirdd eleni oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn ar y testun Olion.

    Y beirniaid yw'r cyn-Archdderwydd Christine James, Ifor ap Glyn a Damian Walford Davies.

    EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  20. Awel iachwedi ei gyhoeddi 10:18 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018

    Tywydd

    Bydd yna 'chydig bach mwy o awel ym Mae Caerdydd heddiw ond gyda chyfnodau heulog, y tymheredd hyd 23C yn ystod y dydd.

    Mae'r rhagolygon yn ffafriol am weddill yr wythnos, ac am fwy o wybodaeth, ewch draw i wefan tywydd y BBC.

    Bae