Cân arbennig gan Gruffwedi ei gyhoeddi 10:06 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2018
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae’r cerddor a’r gwneuthurwr ffilmiau Cymreig, Gruff Rhys, wedi rhyddhau cân arbennig i gyd-fynd ac ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd.
Mae’r gân ‘Bae Bae Bae’ yn cael ei rhyddhau fel rhan o brosiect Carnifal y Môr, sy’n rhedeg drwy’r wythnos yn dilyn gorymdaith arbennig drwy’r Bae nos Wener mewn partneriaeth rhwng yr Eisteddfod a charnifal Butetown.
Gan weithio gyda’r artist Megan Broadmeadow, cyfansoddodd Gruff gân sydd i’w gweld mewn ffilm sy’n cael ei daflunio ar sgriniau dŵr enfawr o flaen adeilad y Senedd bob noson am 22:30.
Mae Carnifal y Môr yn dathlu cysylltiadau Caerdydd gyda gwledydd ar draws y byd .
Dywedodd Gruff:"Mae Caerdydd, a’i draddodiad fel lloches i bobl o bedwar ban, gan gynnwys Eryri yn fy achos i, gystal lle ag unrhyw le i wneud recordiau cyffrous ac annhebygol."