Crynodeb

  • Mae seremoni cyflwyno Medal Goffa Syr T H Parry-Williams am 11:55

  • Prif seremoni'r dydd am 16:30 yw Gwobr Goffa Daniel Owen am nofel heb ei chyhoeddi

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Hwyl fawr am heddiwwedi ei gyhoeddi 18:07 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    A dyna ni am heddiw. Byddwn ni nôl am 10:00 fore Mercher.

    Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r pytiau o'r maes a'r prif ddigwyddiadau.

    Cofiwch y gallwch chi weld yr holl ganlyniadau yn fan hyn.

    Yn y cyfamser, tybed a ydych chi'n nabod rhywun yn ein galeri dyddiol? Ewch i gymryd pip!

    Mwynhewch weddill eich noson.

  2. Nid "iaith gwyn" yw'r Gymraegwedi ei gyhoeddi 18:02 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae trefnydd Ras yr Iaith, Sion Jobbins, wedi dweud nad yw eisiau gweld y Gymraeg fel "iaith gwyn" yn y dyfodol.

    Dywedodd ei fod yn croesawu'r ffaith bod y Brifwyl ym Mae Caerdydd yn gyfle i groesawu ymwelwyr newydd, gan gynnwys o leiafrifoedd ethnig.

    Ond mynnodd nad oedd hynny'n reswm i beidio dechrau sgyrsiau yn y Gymraeg, gan ddweud ei fod yn "sarhaus" i gymryd nad oedd rhywun yn medru'r iaith.

    Sion Jobbins mewn trafodaeth yn y Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    O'r chwith i'r dde: Ali Yassine, Ani Saunders, Emily Pemberton a Siôn Jobbins

  3. "Gorfod dechrau o'r newydd"wedi ei gyhoeddi 17:58 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Bydd awdur o Cameroon, a chwiliodd am loches yng Nghaerdydd 20 mlynedd yn ôl yn un o nifer fydd yn cymryd rhan mewn noson arbennig nos Fawrth.

    Mae'r digwyddiad yn rhan o brosiect Hen Wlad Fy Nhadau sy'n dathlu ieithoedd a diwylliannau amrywiol y brifddinas.

    Dyw rhai ffoaduriaid, meddai Eric Ngalle Charles, "byth yn gallu dod i delerau â'r ffaith eu bod yn byw erbyn hyn mewn lle newydd ac yn gorfod dechrau o'r newydd".

    Eric Ngalle Charles
  4. Ysbrydoliaeth y Piwritanwedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Wrth siarad gyda Cymru Fyw yn dilyn y seremoni, dywedodd Mari Williams ei bod wedi mwynhau'r "foment berffaith" o ddod yn ail enillydd o Gaerdydd ar un o brif seremoniau'r Brifwyl eleni.

    Ychwanegodd fod un o'r cymeriadau yn ei nofel, y Piwritan John Penry, wedi bod yn "arwr" iddi ers ei astudio yn yr ysgol.

    "Dyna oedd John y gorffennol, ac ro’n i’n meddwl y byddai’n ddiddorol iawn gwneud cymhariaeth gyda John modern a dangos pa mor wahanol yw bywyd heddiw i beth oedd yn y gorffennol," meddai.

    "A hefyd cymaint ‘dan ni mewn dyled i bobl fel John Penri am yr holl iawnderau a hawliau mae pobl fel fo wedi bod yn brwydro drosto."

    Mari Williams
  5. Lluniau dydd Mawrthwedi ei gyhoeddi 17:46 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Mae ffotograffwyr Cymru Fyw wedi bod o gwmpas eto yn casglu lluniau o brysurdeb y Bae ar bedwerydd diwrnod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

    Cor yn ymarfer yn yr Eisteddfod
  6. Huw "Hen Nodiant" Foulkes yn dathluwedi ei gyhoeddi 17:40 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Huw Foulkes yn dathlu fod ei gôr – Côr Hen Nodiant – wedi ennill y gystadleuaeth Côr i rai 60 oed a throsodd

    Y tri beirniad - yn y cefn - oedd Joy Amman Davies, Rhian Roberts a Brian Hughes

    Gallwch gael gweddill canlyniadau'r dydd drwy ddilyn y linc yma

    Huw Foulkes, arweinydd Cor Hen Nodiant, yn dathlu
  7. Ble roedd y fedal?!wedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mi anghofiodd rhywun roi medal Gwobr Goffa Daniel Owen yn y bocs gyda'r nofel!

    A welsoch chi Eifion Lloyd Jones yn rhedeg mor chwim ar y llwyfan cyn heddiw?!

    Eifion Lloyd Jones yn rhedeg
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu'n rhaid i Gadeirydd Llys yr Eisteddfod, Eifion Lloyd Jones, redeg oddi ar y llwyfan i chwilio am y fedal!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. 'Angen rhwng 80 a 90 o Aelodau Cynulliad'wedi ei gyhoeddi 17:14 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Canolfan Llywodraethiant Cymru

    Mewn darlith ar y maes heddiw bu'r Athro Laura McAllister yn manylu ar ddarganfyddiadau Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ynglŷn â'r Cynulliad.

    Dywedodd eu bod wedi clywed "dim dadl gredadwy a chryf i barhau gyda dim ond 60 o aelodau", a bod eu hymchwil yn awgrymu cynyddu nifer yr aelodau i rhwng 80 a 90.

    Ychwanegodd mai'r opsiwn maen nhw'n ei ffafrio ar gyfer ethol Aelodau'r Cynulliad yw'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, neu'r single transferable vote.

    Dywedodd hefyd bod tystiolaeth glir i awgrymu y dylai'r oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau lleol a'r Cynulliad gael ei ostwng i 16.

    Laura McAllister
  9. Newid teitl!wedi ei gyhoeddi 17:03 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Cyn i chi fynd i chwilio am gopi o 'Doe a Heddiw' wedi’r seremoni mae Meinir Pierce Jones wedi egluro fod yr awdur, Mari Williams, wedi penderfynu rhoi ei ffugenw yn deitl ar y nofel, sef Ysbryd yr Oes!

    Mari Williams
  10. Awdur wyth nofelwedi ei gyhoeddi 17:00 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Mari Williams, sydd wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen 2018, wedi ysgrifennu wyth nofel ar gyfer gwahanol oedrannau, ac mae hi'n hoff o deithio ac ymweld â lleoliadau hanesyddol.

    Mae hi'n weddw i'r diweddar Barchedig William Elwyn Lloyd Williams o Abererch, yn fam i Geraint a Delyth ac yn fam-gu i Huw, Nia, Manon a Geraint-Dewi.

    mari williamsFfynhonnell y llun, bbc
  11. Mari Williams yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mari Williams o Gaerdydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.

    Ar hyn o bryd mae hi'n addysgu Lladin i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

    Cafodd ei nofel fuddugol 'Ysbryd yr Oes' ei disgrifio fel rhyddiaith ‘gynnil, grefftus ac amserol’ gan y beirniaid.

    Mari Williams, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2018
    Disgrifiad o’r llun,

    Mari Williams, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2018

  12. Ysbryd yr Oes yw'r enillyddwedi ei gyhoeddi 16:53 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ysbryd yr Oes am y nofel Doe a Heddiw sy’n mynd â’r wobr - nofel sy'n plethu dwy stori: hanes y Piwritan John Penry o Sir Frycheiniog a hanes cyfoes athro hanes mewn ysgol uwchradd yng nghyffiniau Caerdydd, a'r ddau ar adegau o greisis yn eu bywydau.

  13. Anghytundeb - ond mae teilyngdodwedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae dwy nofel ar frig y gystadleuaeth sef 'Esgyrn' gan Bachan, a 'Doe a Heddiw' gan Ysbryd yr Oes.

    Roedd rhywfaint o anghytuno rhwng y beirniaid meddai Meinir Pierce Jones ond ar ôl ailddarllen a thrafod daethant i gytundeb bod teilyngdod eleni.

    Meinir Pierce Jones
  14. 10 ymgaiswedi ei gyhoeddi 16:44 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae 10 wedi ceisio am y gystadleuaeth eleni, meddai Meinir Pierce Jones sy’n rhoi’r feirniadaeth ar ei rhan hi a’i chyd-feirniaid Gareth Miles a Bet Jones, a enillodd y Daniel Owen yn 2013.

  15. Agor y seremoniwedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Wedi i’r ffanffer i agor y seremoni Côr Plant y Sir sy'n canu – sef plant o 12 o ysgolion cynradd Caerdydd dan ofal Mair Long.

    ‘Dyw’r Orsedd ddim yn bresennol i’r seremoni hon am nad yw hi’n un o seremonïau’r Gorsedd y Beirdd.

    Felly R Alun Evans yw meistr y seremoni a Llywydd Llys yr Eisteddfod, Eifion Lloyd Jones, fydd yn cyflwyno’r wobr, os oes teilyngdod.

    Cor plant
  16. Nofel heb ei chyhoeddiwedi ei gyhoeddi 16:27 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae’r fedal – ynghyd â £5,000 gan CBAC (Cyd-bwyllgor Addysgu Cymru) - yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi. Rhaid i’r gwaith fod ddim llai na 50,000 o eiriau.

    Doedd dim teilyngdod yn y wobr hon yn Ynys Môn y llynedd, er i 13 ymgeisio.

    Seremoni 2017Ffynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Seremoni 2017

  17. Seremoni Gwobrwyo Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 16:18 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ddoe roedd yr Eisteddfod yn gwobrwyo bardd y Goron ond tro’r nofelwyr yw hi i gystadlu heddiw. Gwobr Goffa Daniel Owen yw prif seremoni’r Eisteddfod y p’nawn yma yng nghrombil Canolfan y Mileniwm.

    Mae disgwyl i'r seremoni gychwyn am 1630.

    Canolfan y Mileniwm
    Disgrifiad o’r llun,

    Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm yw lleoliad 'y Pafiliwn' eleni

  18. Pan nad yw un #hashnod yn ddigon....wedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Gweld ei hun yn y llunwedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Amgueddfa Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Cinio yng nghysgod y Seneddwedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dafydd a'i blant Gruff a Rhian yn mwynhau picnic yng nghysgod y Senedd

    Teulu