Crynodeb

  • Mae seremoni cyflwyno Medal Goffa Syr T H Parry-Williams am 11:55

  • Prif seremoni'r dydd am 16:30 yw Gwobr Goffa Daniel Owen am nofel heb ei chyhoeddi

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Heather Jones yn swynowedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  2. Safwch yn eich llinellau!wedi ei gyhoeddi 15:28 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Aelodau côr plant ysgolion cynradd Caerdydd yn ymgynull i ymarfer cyn seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen.

    Cor plant Caerdydd
  3. Parcio'r pramiauwedi ei gyhoeddi 15:19 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae 'na faes parcio go anarferol y tu allan i Ganolfan y Mileniwm ar hyn o bryd - a hynny oherwydd yr holl rieni a phlant sydd y tu mewn yn gwylio sioe Cyw a'r gerddorfa!

    prams
  4. Gefn llwyfan gyda'r corau...wedi ei gyhoeddi 15:12 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Roedd saith o gorau yn cystadlu yn y gystadleuaeth Côr i rai 60 oed a throsodd ar y llwyfan y prynhawn yma. Dyma rai o aelodau glamorous Côr Hŷn y Gleision - neu fel maen nhw'n galw eu hunian, Côr Nefi Blŵ!

    Cor Nefi Blw
  5. Canu grwndiwedi ei gyhoeddi 15:02 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Twitter

    Nid bodau dynol yn unig sy'n cael eu swyno gan y gerddoriaeth yn y Bae

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  6. Steddfod anghywir?wedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Twitter

    Cadeirydd y pwyllgor gwaith sy'n trydar, ac mae e i weld yn hapus iawn!

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  7. Geraint o Groatiawedi ei gyhoeddi 14:46 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Geraint Lovgreen a'r Enw Da wedi bod yn perfformio ar Lwyfan y Maes y prynhawn 'ma - oes rhywun wedi dweud wrth Geraint fod Cwpan y Byd drosodd bellach?

    geraint lovgreen
  8. Hawl i ddysgu Cymraegwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  9. "Mater wedi'i gloi" meddai Catrin Dafyddwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Twitter

    Y bardd coronog, Catrin Dafydd, yn ymateb i'r ymddiheuriad:

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  10. "Peidiwch a cheisio ychwanegu at y seremoniau"wedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    BBC Radio Cymru

    Ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd 2018, Ashok Ahir, fod yr Archdderwydd yn ceisio'n rhy galed i dynnu coes, ac y dylsai ei olynnydd "fwrw ymlaen gyda'r gwaith".

    Mae Geraint Llifon (Geraint Lloyd Owen) wedi ymddiheuro ar ôl gwneud sylwadau yn ystod seremoni'r Cadeirio ddoe sydd wedi cael eu beirniadu gan nifer fawr o bobl ar wefannau cymdeithasol.

    Dywedodd Mr Ahir nad swyddogaeth yr Orsedd oedd gwneud sylwadau gwleidyddol, ond yn hytrach gyflwyno gwobrau ar ran pobl Cymru, ac y dylsen nhw fod yn ofalus ynglyn â cheisio "ychwanegu at" y seremoniau.

    Fodd bynnag, dywedodd nad oedd y sylwadau wedi tarfu ar y diwrnod, gan ddweud bod sefyll ar y llwyfan yn clywed enw Catrin Dafydd yn cael ei gyhoeddi yn llawer iawn mwy o beth na sylwadau'r Archdderwydd.

    Garry Owen a Taro'r Post
    Disgrifiad o’r llun,

    Garry Owen yn siarad gyda Meg Ellis, Ifan Morgan Jones ac Ashok Ahir ar raglen Taro'r Post ddydd Mawrth

  11. Cymraeg Patagonia: angen adnoddau 'perthnasol'wedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Ar y maes heddiw mae'r academydd Dr Iwan Rees yn dweud fod angen i'r adnoddau sy'n cael eu defnyddio i ddysgu'r Gymraeg allan yn Mhatagonia bod yn "fwy perthnasol ... os am osgoi colli'r dafodiaith unigryw sydd yno."

    Dywedodd bod gwerslyfrau Cymraeg sy'n cael eu defnyddio ym Mhatagonia ddim yn adlewyrchu sut mae'r hen genhedlaeth yno'n siarad yr iaith, sydd yn golygu "perygl o greu bwlch ieithyddol".

    Dr Iwan Rees, Prifysgol Caerdydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Dr Iwan Rees yn darlithio ym Mhrifysgol Caerdydd

  12. Cymry'n 'ddiog' tuag at ddysgwyr?wedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae angen i Gymry Cymraeg fod yn llai "diog" pan mae'n dod at siarad yr iaith gyda dysgwyr, yn ôl un tiwtor.

    Dysgodd Ali Yassine o Gaerdydd yr iaith fel oedolyn, ac mae bellach yn dysgu eraill sydd eisiau gallu siarad Cymraeg.

    Mewn sgwrs ar faes yr Eisteddfod, dywedodd fod mwyafrif y tiwtoriaid Cymraeg yn bobl sydd wedi dysgu'r iaith eu hunain yn hytrach na siaradwyr iaith gyntaf.

    "Ble mae'r Cymry Cymraeg sy'n sôn am achub yr iaith ac yn y blaen pan mae'n dod at ddysgu Cymraeg i bobl eraill?" gofynnodd.

    ali yassine
    Disgrifiad o’r llun,

    Ali Yassine yn siarad mewn digwyddiad yn trafod addysg Gymraeg a Chaerdydd

  13. Cystadlu am y tro cynta... erioed!wedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    BBC Radio Cymru

    ....a chael llwyfan!

    Dyna oedd hanes Rhodri Wyn Williams, adeiladwr o Bwllheli, a ddaeth yn drydydd yn yr Unawd Bariton/Bas rhwng 19 ac 25 oed.

    Cafodd Nia Lloyd Jones air gydag e a'r ddau arall yn y gystadleuaeth ar BBC Radio Cymru.

    Rhodri Wyn Williams
    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  14. Llongyfarchiadau i Meinir Lloydwedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Cafodd Meinir Lloyd o Gaerfyrddin ei chyflwyno â Medal Goffa Syr TH Parry-Williams ar lwyfan y Brifwyl am "ei chyfraniad neilltuol i'w hardal leol".

    "Mae'n deimlad bendigedig", meddai.

    "Pan ges i'r alwad 'mod i wedi ennill o'n i methu credu'r peth.

    "Rwy'n falch iawn iawn a'n sicr dyma'r anrhydedd mwyaf dwi wedi'i gael."

    Meinir Lloyd yn derbyn medal gwobr Syr T H Parry-Williams
  15. Corws o Gaeredinwedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Twitter

    Wele neges gan y difrifwr Tudur Owen i enillydd un o brif wobrau'r dydd.

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  16. Yr Urdd yn 'obeithiol' o dderbyn arian i ddatblyguwedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Golwg 360

    Mae Golwg360 yn adrod fod Urdd Gobaith Cymru yn obeithiol o dderbyn arian gan Lywodraeth Cymru, dolen allanol ar gyfer y gwaith o ddatblygu gwersylloedd Llangranog a Glanllyn.

    Mae'r syniad yma'n 'rhan o weledigaeth y Prif Weithredwr newydd, Sian Lewis', meddai'r gwasanaeth newyddion.

    Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith CymruFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  17. Bardd coron y llynedd yn trafod ei farddoniaethwedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Flwyddyn ar ôl iddo ennill Coron Eisteddfod Môn, roedd y Prifardd Gwion Hallam yn sgwrsio heddiw ar lwyfan Llywodraeth Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm am farddoni gyda phobol â dementia, sef yr hyn a'i ysbrydolodd i gyfansoddi ei gerddi buddugol y llynedd.

    Gwion Hallam
  18. 'Cwmwl hydrogen atomig pren' a delweddau eraillwedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Rebecca Hardy-Griffith, cydlynydd celfyddydau Galeri, Caernarfon sy'n rhannu ei hymateb i gynnwys Y Lle Celf

    Rebecca Hardy-Griffith, cydlynydd celfyddydau Galeri, Caernarfon sy'n rhannu ei hymateb i gynnwys Y Lle Celf
  19. Der-i daro heibio'r Deriwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Twitter

    Drwy gydol yr wythnos mae BBC Cymru yn agor y drysau i Eisteddfodwyr ymweld â set y gyfres boblogaidd Pobol y Cwm, sy'n cael ei ffilmio dafliad carreg o faes y brifwyl eleni.

    Mae 'na rai yn awyddus iawn i gymryd pip tu ôl y llenni!

  20. Newidiadau i seremoniau'r Orsedd?wedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Golwg 360

    Mae Golwg360 yn adrodd ei bod hi'n ymddangos fod Archdderwydd nesaf Cymru, Myrddin ap Dafydd, "am weld nifer o newidiadau i seremoniau Gorsedd y Beirdd.

    Bydd yr Archdderwydd newydd yn olynu Geraint Llifon ac yn camu i'r swydd fis Gorffennaf nesaf am y cyfnod o 2019 hyd at 2022.

    Myrddin apFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol