Crynodeb

  • Mae seremoni cyflwyno Medal Goffa Syr T H Parry-Williams am 11:55

  • Prif seremoni'r dydd am 16:30 yw Gwobr Goffa Daniel Owen am nofel heb ei chyhoeddi

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Ymarfer cyn sioe Cywwedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r criw yma o ffrindiau o Ysgol Y Berllan Deg yng Nghaerdydd yn mwynhau ymarfer gyda'r offerynau cerdd, cyn mynd i weld sioe Cyw a'r Gerddorfa y prynhawn yma.

    Merched Ysgol y Berllan Deg
  2. Geraint Lloyd Owen yn ymddiheurowedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Archdderwydd wedi ymddiheuro bore ma am ei sylwadau a wnaeth yn ystod seremoni'r cadeirio brynhawn Llun.

    Gallwch weld ei sylwadau, a'i ymddiheuriad yn llawn yma:

    Seremoni Coroni'r Bardd Eisteddfod Caerdydd 2018
  3. Bore cymylog ond brafwedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae hi'n braf ag awel fwyn ym mae Caerdydd y bore 'ma a'r Eisteddfodwyr yn cyrraedd i fwynhau diwrnod arall ar y Maes.

    Y maes
  4. Wedi colli canlyniadau ddoe?wedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw yma

    Canlyniadau dydd Llun
  5. A fydd teilyngdod eleni?wedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Doedd dim teilyngdod yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Ynys Môn y llynedd.

    A fydd yna un yn ddiweddarach prynhawn 'ma, ym mhrif seremoni'r dydd?

    Igam Ogam o waith Ifan Morgan Jones oedd y nofel a enillodd y wobr y tro diwethaf i'r brifwyl ymweld â Chaerdydd yn 2008.

    Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
    Disgrifiad o’r llun,

    Doedd neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen yn 2017.

  6. Yr Archdderwydd yn ymddiheurowedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    Gorsedd y Beirdd

    Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi datganiad, yn dilyn ymateb i sylwadau'r Archdderwydd Geraint Llifon yn ystod seremoni coroni Catrin Dafydd ddoe.

    "Yn dilyn Seremoni’r Coroni brynhawn ddoe, mae’r Archdderwydd yn dymuno ymddiheuro a phwysleisio nad oedd yr hyn a ddywedwyd yn adlewyrchiad cywir o’i farn bersonol, nac ychwaith o farn yr Orsedd na’r Eisteddfod ar fater cydraddoldeb."

    "Mae’n gresynnu bod hyn wedi tynnu oddi ar ddathlu llwyddiant enillydd penigamp y Goron eleni, ac ni fydd ef, yr Orsedd na’r Eisteddfod yn gwneud unrhyw ddatganiad pellach ar y mater."

    Yr Archdderwydd Geraint Llifon a'r bardd coronog Catrin Dafydd
  7. Y tywyddwedi ei gyhoeddi 10:10 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    BBC Radio Cymru

    Yn ôl Rhys Griffiths, cyflwynydd tywydd a teithio BBC Radio Cymru, mae hi'n addo bore cymylog gydag ambell gyfnod clir ymhellach i'r dwyrain.

    Mae'n argoeli aros yn sych dros y rhan fwyaf o'r wlad, heblaw am ambell gawod yn y canolbarth a'r gorllewin yn ddiweddarach bore 'ma.

    Dylai hi fod yn sych ac yn braf weddill y prynhawn.

    Y tymheredd ar ei uchaf yn 24 gradd, ond yn nes at 18 gradd yn y gorllewin.

  8. Bore da gan dîm Cymru Fywwedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n fore Mawrth, a dyma'r lle i chi ar gyfer holl straeon y maes, y tywydd ac unrhyw uchafbwyntiau eraill.

    Co ni off!