Crynodeb

  • Diwrnod llawn o gystadlu yn y Pafiliwn tan yn hwyr heno

  • Prif seremonïau'r dydd yw Tlws y Cerddor am 14:15 a'r Fedal Ryddiaith am 16:30

  • Mae cystadleuaeth perfformiad Unigol o Sioe Gerdd dros 19 oed a Gwobr Richard Burton yn rhan o'r sesiwn gystadlu hwyr

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. A dyna ni...wedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Hwyl am y tro –ond cofiwch fod modd gwylio'r cystadlu yma o hyd tan i weithgareddau'r dydd ddod i ben.

    seremoni
    Disgrifiad o’r llun,

    Seremoni'r Fedal Ryddiaith

  2. Dewis Dysgwr y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 17:55 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Bydd enw Dysgwr y Flwyddyn 2018 yn cael ei gyhoeddi mewn noson wobrwyo ym mwyty’r Dosbarth, Caerdydd, sy'n dechrau heno am 19:00.

    Fe fydd yr enillydd yn derbyn tlws arbennig a £300, ac yn cael ei wahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.

    Yna, bydd seremoni i anrhydeddu'r enillydd yn y Pafiliwn ddydd Iau.

    Pob lwc i'r pedwar sy'n cystadlu sef Steve Dimmick o Flaina ym Mlaenau Gwent, Yankier Perez o Giwba, Matt Spry o Ddyfnaint, a Nicky Roberts o Gwm Rhondda.

    dysgwyrFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  3. Barod am Maes Bwedi ei gyhoeddi 17:47 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Y paratoadau ola' yn Maes B yn gynharach ddydd Mercher, cyn i'r gigio ddechrau heno 'ma....

    Maes B
  4. 'Bod yn gytbwys ddim yn golygu bod yn beige'wedi ei gyhoeddi 17:39 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae S4C ac ITV wedi lansio cynllun newydd i hyfforddi dau newyddiadurwr ifanc.

    Cafodd Elen Davies a Liam Ketcher gyfle i holi'r newyddiadurwr Guto Harri fel rhan o sesiwn ar feas yr Eisteddfod.

    Wrth ofyn iddo am sefyllfa newyddiaduraeth yng Nghymru, dywedodd Mr Harri fod "angen newyddiaduraeth mwy miniog, dadansoddol", a bod "bod yn gytbwys ddim yn golygu bod yn beige".

    Guto Harri
  5. 'Troi'r Ddraig yn frand arloesi'wedi ei gyhoeddi 17:27 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Mae angen cofleidio'r newidiadau i ddarlledu er mwyn "troi'r ddraig yn frand arloesi" medd Euryn Ogwen Williams.

    Roedd Mr Williams, a gynhaliodd adolygiad annibynnol ar S4C ar ran Llywodraeth y DU, yn siarad mewn trafodaeth ar ddatganoli darlledu, oedd wedi ei threfnu gan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym mhabell y Cymdeithasau 2.

    Hefyd yn cymryd rhan yn y sesiwn roedd Alun Davies AC, ac roedd y ddau'n gytun fod yna heriau nawr yn wynebu darlledu cyfrwng Cymraeg.

    Darlledu
  6. Cerdd, cân a dawns yn cyfarch y Priflenorwedi ei gyhoeddi 17:08 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Wedi cywydd ar gân gan Cwyfan y Prifardd Mererid Hopwood sy'n cyfarch y priflenor newydd.

    Mererid Hopwood oedd enillydd y Fedal Ryddiaith y tro diwethaf i’r Eisteddfod ddod i’r brifddinas yn 2008 ac un o feirniaid y wobr hon y flwyddyn nesaf.

    Glocswyr Garmon, Dawnswyr Delyn a Dawnswyr Tanat sy’n dawnsio er anrhydedd i’r priflenor gyda dawns ac ymweliad gan y Fari Lwyd.

    dawns
  7. Cantores y Tŷ Gwerin ddoe!wedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yn ogystal â sgrifennu ac actio mae Manon Steffan Ros yn canu yn y band Blodau Gwylltion a oedd yn perfformio yn y Tŷ Gwerin b’nawn ddoe!

    Mae hi'n ferch i’r cerddor Steve Eaves ac yn chwaer i’r gantores Lleuwen Steffan.

    Wedi ei magu yn Rhiwlas ger Bangor mae'n byw yn Nhywyn, Meirionnydd, gyda’i dau fab, Efan a Ger.

    Bloday gwylltion yn y Ty Gwerin ddydd Mawrth
    Disgrifiad o’r llun,

    Blodau Gwylltion yn y Tŷ Gwerin ddydd Mawrth

  8. Cyn enillydd y Fedal Ddramawedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dywedodd yr Archdderwydd mai ennill y Fedal Ddrama ddwy flynedd yn olynol yn 2005 a 2006 wnaeth ysgogi Manon Steffan Ros i ddechrau ysgrifennu o ddifrif.

    Mae hi hefyd wedi ennill Gwobr Tir na n-Og am lyfrau i blant dair gwaith.

    Ei chyfrol ddiweddaraf yw’r nofel i blant, Fi a Joe Allen.

    Rhyddiaith
  9. Y Fedal Ryddiaith i Manon Steffan Roswedi ei gyhoeddi 16:53 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Manon Steffan Ros sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

    Roedd na 14 o ymgeiswyr yn y gystadleuaeth, ar y testun 'Ynni'.

    manon
  10. 'Llenor wrth reddf'wedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Llyfr Glas Nebo gan Aleloia sy’n ennill Medal Ryddiaith 2018 felly am “berl” o waith - “llenor wrth reddf” yw disgrifiad Sonia Edwards o’r ymgeisydd buddugol.

    ennill
  11. Dau ar y brig ond un ar y blaenwedi ei gyhoeddi 16:48 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Cytunai'r beirniaid ar le dau ymgeisydd yn y dosbarth uchaf, sef Ioan Nant lân ac Aleloia.

    Wrth drafod cyfrol Aleloia, meddai Sonia Edwards: “Weithiau, mewn ras fawr nodedig, mae yna geffyl diarth yn ymddangos o nunlle ac yn pasio pawb o’r ochr allan.

    "Mae o’n ei osod ei hun ar y blaen ac yn aros yno hyd y diwedd, tra bod y gweddill yn mesur eu camau tuôl iddo ...

    "Daeth gwaith Aleloia o ganol y pentwr cyfansoddiadau a’i osod ei hun ar y blaen."

    Sonia Edwards yn beirniadu
  12. 14 wedi ymgeisiowedi ei gyhoeddi 16:43 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae’n galonogol fod 14 wedi ymgeisio am y Fedal Ryddiaith, meddai Sonia Edwards sydd ar destun "nad yw’r hawsaf i ymateb iddo’n greadigol", meddai.

    Mae'n canmol y ceisiadau er yn “dwrdio” blerwch ieithyddol a diffyg gofal hefyd.

    beirniaid
  13. Enillydd 2017 yn feirniad eleniwedi ei gyhoeddi 16:39 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Rhoddir y Fedal Ryddiaith eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema Ynni. Rhoddir £750 hefyd gan Ysgol Gymraeg Plasmawr, Caerdydd.

    Yr adeg yma llynedd, Sonia Edwards oedd enillydd y fedal yma ond heddiw mae hi'n feirniad ac yn rhoi’r feirniadaeth o’r llwyfan ar ran ei chyd-feirniaid Menna Baines a Manon Rhys.

    Enillodd Sonia Edwards hefyd yn 1999 a Manon Rhys yn 2011.

    Sonia Edwards yn cael ei gwobrwyo yn 2017
    Disgrifiad o’r llun,

    Sonia Edwards yn cael ei gwobrwyo yn 2017

  14. Seremoni'r Priflenor Rhyddiaithwedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dyma ail brif seremoni’r dydd yn Theatr Donlad Gordon, Canolfan y Mileniwm, gwobrwyo Priflenor Rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol

    Mae’r Archdderwydd a Gorsedd y Beirdd yn ôl ar y llwyfan ar gyfer prif seremoni heddiw, wedi iddyn nhw Goroni Catrin Dafydd ddydd Llun.

    pafiliwn
  15. Tair prif seremoni drosodd a thair i ddodwedi ei gyhoeddi 16:17 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Gyda chloi seremoni Tlws y Cerddor mae Eisteddfod Genedlaethol 2018 bellach hanner ffordd drwy ei phrif seremonïau a theilyngdod ym mhob un hyd yma.

    Gobeithio y bydd y tuedd yn para'r prynhawn yma gyda Seremoni'r Priflenor Rhyddiaith.

    Mae seremoni'r p'nawn i gychwyn am 16.30 ar ôl cystadleuaeth y Côr Ieuenctid dan 25 oed a gweddill beirniadaethau'r dydd.

    Cor Ieuenctid
  16. Lluniau gig Geraint Jarmanwedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mwynhewch rhai o'r golygfeydd o'r llwyfan a'r paratoadau cyn y cyngerdd yma.

    Cyngerdd
  17. Cyfle i holiwedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. "Mae lot yn mynd ymlaen": Agraffiadau ymwelydd tro cyntafwedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Wales Online

    Argraffiadau Josh Knapman o'r Steddfod ar ei ymweliad cyntaf un.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. 'I'r Byw' - arddangosfa cerflunyddwedi ei gyhoeddi 15:40 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Un sy'n arddangos ei waith yng nghyntedd Canolfan y Mileniwm eleni yw Rhodri Owen, cerflunydd cadair Eisteddfod Môn y llynedd.

    "Wrth greu Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017, canmlwyddiant y Gadair Ddu, cefais fy nharo gan effaith grymoedd tu hwnt i'n rheolaeth," meddai.

    Mae'r arddangosfa'n archwilio sut mae profiadau bywyd heddiw - llawenydd, trallod, etifeddiaeth ac amgylchedd - yn gadael eu hôl arnom.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Gwylio'r cyfanwedi ei gyhoeddi 15:27 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018