Llywydd y Llys: 'Dim bwriad i dramgwyddo'wedi ei gyhoeddi 15:11 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Llywydd y Llys wedi dweud bod pobl wedi cymryd sylw a wnaeth yn ystod y Gymanfa Ganu ddydd Sul “allan o’i gyd-destun”.
Cafodd Eifion Lloyd Jones ei feirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol wedi iddo gyflwyno Iori Roberts, llywydd Cymru a’r Byd, i’r gynulleidfa a rhestru'r llefydd amrywiol y bu’n gweithio.
Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd fod Mr Roberts wedi treulio cyfnodau "yn gweithio’n Uganda ac Ysgol Emrys ab Iwan, Abergele - a dwi ddim yn siŵr lle roedd yr anwariaid gwaethaf”.
Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd: “Yn sicr nid oedd unrhyw fwriad i dramgwyddo neb, boed o Gymru, Lloegr, neu unrhyw wlad arall."