Crynodeb

  • Diwrnod llawn o gystadlu yn y Pafiliwn tan yn hwyr heno

  • Prif seremonïau'r dydd yw Tlws y Cerddor am 14:15 a'r Fedal Ryddiaith am 16:30

  • Mae cystadleuaeth perfformiad Unigol o Sioe Gerdd dros 19 oed a Gwobr Richard Burton yn rhan o'r sesiwn gystadlu hwyr

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Y canlyniadau diweddarafwedi ei gyhoeddi 11:34 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Trefnwyr yn ffyddiog...wedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Parhau â gweledigaeth Merêdwedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    I ddathlu canmlwyddiant geni Dr Meredydd Evans, mae Ymddiriedolaeth William Salesbury yn lansio apêl i gasglu £10,000 y flwyddyn i sicrhau parhad ei weledigaeth.

    Mae'r gronfa yn cael ei ddefnyddio i gynnig ysgoloriaethau - Ysgoloriaeth William Salesbury - i fyfyrwyr sy'n bwriadu dilyn eu cwrs cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Bu farw Dr Evans ar 21 Chwefror 2015 yn 95 oed.

    Bydd yr apêl yn cael ei lansio ddydd Mercher ar faes yr Eisteddfod.

    Meredydd EvansFfynhonnell y llun, S4C
  4. Cipolwg ar y canlyniadauwedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Cyfle i chi gael golwg nôl sydyn ar ganlyniadau dydd Mawrth.

    Cystadlu
  5. Seremoni'r Fedal Ryddiaithwedi ei gyhoeddi 10:30 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Bydd cerddor a llenor yn cael lle blaenllaw ar lwyfan y brifwyl yn ddiweddarach wrth i Dlws y Cerddor a'r Fedal Ryddiaith gael eu cyflwyno i'r enillwyr.

    Eleni mae'r Fedal Ryddiaith yn cael ei chynnig am gyfrol o ryddiaith greadigol, heb fod dros 40,000 o eiriau, ar y testun Ynni.

    Gwobr gymharol newydd yw Tlws y Cerddor - doedd yna ddim teilyngdod yn Eisteddfod Ynys Môn y llynedd, ond yn 2008 enillydd y tlws oedd y cerddor Eilir Owen Griffiths.

    Sonia Edwards
    Disgrifiad o’r llun,

    Sonia Edwards, enillydd y Fedal Ryddiaith yn 2017, fydd yn traddodi'r feirniadaeth eleni

  6. Jarman yn codi to'r Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 10:15 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. A rhai cawodydd yn gynt na'i gilydd!wedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Ifan y glaw 'di cyrraedd y Maes.

    baeFfynhonnell y llun, bbc
  8. Beth am y tywydd?wedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    BBC Radio Cymru

    Rhys Griffiths, cyflwynydd tywydd a teithio BBC Radio Cymru, sydd â'r diweddara:

    " Weddill y bore fe welwn ni gawodydd gwasgaredig cyson a thrwm ar adegau ar hyd gorllewin y wlad.

    "Bydd ambell gawod yn para yn ystod y prynhawn hefyd ond yn ysgafnhau wrth ledu tua'r dwyrain.

    "Dylai’r rhan fwya’ o’r wlad aros yn sych felly, a bydd ‘na ddigon o gyfnodau braf yn datblygu erbyn diwedd y dydd.

    "Serch hynny mae hi’n debygol o deimlo'n oerach ‘na’n ddiweddar- y tymheredd ar ei uchaf rhwng 18C 21C."

    Tywydd
  9. Bore da!wedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Bore da ar ddydd Mercher Eisteddfod Caerdydd.

    Y Fedal Ryddiaith a Thlws y Cerddor fydd dau brif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn.

    Ond bydd newyddion hefyd am lond lle o ddigwyddiadau a gweithgareddau fydd at ddant Eisteddfodwyr.

    Arhoswch efo ni.

    maes