A dyna ni ....wedi ei gyhoeddi 18:03 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018
BBC Cymru Fyw
Hwyl am y tro ar ddiwedd y Cadeirio.
Ond ond cofiwch fod modd gwylio'r cystadlu yma

Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00 ac yn parhau tan yn hwyr heno
Prif seremoni'r dydd yw defod Cadeirio'r Bardd am 16:30
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol
BBC Cymru Fyw
Hwyl am y tro ar ddiwedd y Cadeirio.
Ond ond cofiwch fod modd gwylio'r cystadlu yma
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Ar ôl y Cadeirio dywedodd Gruffudd Eifion Owen wrth BBC Cymru fyw.
"Ers pan weles i’r gadair, o’n i’n meddwl ei bod hi’n aruthrol o hardd, ac y byddai pwy bynnag oedd am gael eistedd ynddi yn mynd i fod yn lwcus iawn.
"Dwi’n hynod falch mai fi sy’n cael mynd adra ‘efo hi!
"Rhan o’r rheswm nes i benderfynu trio am y gadair eleni oedd am fod gen i gymaint o barch at y tri beirniad.
"Mae cael eu canmoliaeth nhw yn golygu andros o lot, a’r ffaith bod ‘na ddwy awdl gref iawn - bod rhywun arall yn agos at y brig - yn arbennig."
Cyfle i edrych nôl ar ddiwrnod y Cadeirio a rhai o sêr Cymru'n cael eu derbyn i'r Orsedd
Tywydd
Rhian Haf o wasanaeth tywydd a theithio'r BBC sydd â'r rhagolygon diweddaraf.
"Mae 'na rai cawodydd yn y gogledd-ddwyrain o hyd, ond fyddan nhw'n clirio heno gan droi'n noson braf, er yn ddigon oer a gwyntog - y tymheredd yn gostwng i 6C neu 7C ymhell o'r glannau.
"Mi neith hi godi'n braf bore fory, a neith hi ddal yn sych yn y gogledd-ddwyrain.
"Ond mi fydd na ffrynt yn dod a chymylau a rhywfaint o law yn lledu o Sir Benfro, a fydd na fwy o awel felly.
"Gyda'r nos fydd 'na law trwm - a fydd hi'n troi'n drymaidd iawn."
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Merched o 11 o ysgolion cynradd Caerdydd yw merched y ddawns flodau sy’n dawnsio i’r Prifardd am y tro olaf eleni.
Rhian Williams yw cyflwynydd y Corn Hirlas, Rhodri Allsobrook a Morgan Iwan Ebenezer Ellis yw Macwyaid y Llys, Lleucu Parri sy’n cyflwyno’r Flodeuged a morynion y llys ydy Eiry Glain Thomas a Ffion Celyn Williams.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Carys Brynteilo a Steff Bryngwyn sy’n cyfarch Gruffudd Owen ar gân a cherdd a’r Prifardd Osian Rhys Jones, enillydd cadair 2017 yn Ynys Môn yn ei gyfarch.
A dyna ni gloi seremonïau Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, gyda theilyngdod ym mhob cystadleuaeth.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Tybed beth sydd yn y dŵr ym Mae Caerdydd?! Mae Gruffudd Owen yn gweithio i gyfres drama Pobol y Cwm, fel Rhydian Gwyn Lewis, enillydd y Fedal Ddrama ddoe a Catrin Dafydd, enillydd y Goron ddydd Llun
Enillodd stôl y Siwper Stomp ar lwyfan y Pafiliwn nos Lun, a’r brif wobr yn y Stomp Werin yn Nhŷ Gwerin nos Iau hefyd ond dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am Gadair y Genedlaethol.
Gruffudd Eifion Owen gyda'r cyflwynydd Siôn Morgan Jones ar y maes eleni
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cafodd y Gadair ei chynnig am awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn hwy na 250 o linellau o dan y teitl 'Porth',
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Ond mae’r tri beirniad yn gytûn mai Hal Robson-Kanu sy’n mynd â hi am roi “gwefr” iddyn nhw eleni am awdl am Gymro ifanc dinesig sy’n chwilio am ystyr i’w fywyd yn y bywyd modern, meddai Ceri Wyn Jones o'r llwyfan.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae tri yn “gwbl deilwng” o’r Gadair meddai Ceri Wyn Jones ac roedd yn anodd penderfynu rhwng ‘gŵr dienw’ a ‘Hal Robson-Kanu’ – un yn dangos “deallusrwydd” a “gorchestion cynganeddol” a’r llall â’r potensial “i gyffroi darllenwyr na ddarllenodd – neu na gafodd flas ar – yr awdl eisteddfodol erioed”.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cystadlodd 11 o feirdd am y Gadair meddai Ceri Wyn Jones ac roedd na wefr, “dim whare”, eleni, meddai.
Mae tri ymgais yn y trydydd dosbarth, pump yn yr ail ddosbarth a thri yn y dosbarth cynta.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Y beirniaid eleni yw'r Prifardd Ceri Wyn Jones, Emyr Davies a Rhys Iorwerth.
Emyr Davies yw awdur Cywydd Croeso'r ŵyl eleni, mae Ceri Wyn Jones wedi ennill dwy Gadair yn 1997 a 2014 a Rhys Iorwerth yn 2011 yn Wrecsam.
Ceri Wyn sy’n rhoi’r feirniadaeth ar ran y ddau arall.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Y ddarlledwraig a'r gantores Shan Cothi sy'n arwain y gynulleidfa wrth ganu Gweddi'r Orsedd i agor y seremoni.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cyn y cadeirio mae'r Archdderwydd yn cyflwyno Myrddin ap Dafydd sy'n camu i'r swydd yn ei le.
Enillodd y bardd o Ddyffryn Conwy'r Gadair ddwywaith yng Nghwm Rhymni yn 1990 a Sir Benfro yn 2002, ac mae wedi beirniadu'r gystadleuaeth droeon.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Safodd aelodau'r orsedd a'r gynulleidfa ar eu traed i gydnabod gwaith Elfed Roberts yn arwain y Steddfod dros y blynyddoedd diwethaf.
Diolchodd yr Archdderwydd hefyd am waith swyddogion yr Eisteddfod wrth iddo yntau ffarwelio â'i swydd eleni. Cyfaddefodd mai heddiw oedd y tro cyntaf iddo fod yn Maes B!
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Osian Rhys Jones oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017.
Fe fydd yn cyfarch y buddugol heddiw, os oes teilyndod.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cyn y seremoni mae Llywydd y Llys Eifion Lloyd Jones yn trosglwyddo awenau'r Eisteddfod i Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod yn lle Elfed Roberts, sy'n ymddeol o'r swydd eleni.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae rhodd ariannol o £750 yn cael ei rhoi i enillydd y Gadair hefyd gan John Walter a Gaynor Jones er cof am eu merch, Beca Chamberlain.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae’r Gadair yn cael ei rhoi i brifardd yw ŵyl am awdl heb fod dros 250 o linellau ar y thema Porth.
Cerdd mewn cynghanedd yw awdl ac ar gyfer y gystadleuaeth yma mae’n rhaid iddi ddefnyddio mwy nag un o’r mesurau barddoni caeth traddodiadol.
Y cerflunydd Chris Williams o Pentre yn y Rhondda yw crëwr y gadair eleni, sydd wedi ei noddi gan Amgueddfa Werin San Ffagan.
Cafodd Chris ei ysbrydoli gan gadeiriaua charthen wlân yn yr amgueddfa.