Crynodeb

  • Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00 ac yn parhau tan yn hwyr heno

  • Prif seremoni'r dydd yw defod Cadeirio'r Bardd am 16:30

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Seremoni Cadeirio'r Barddwedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Y Cadeirio yw seremoni ola’r wythnos yn Theatr Donald Gordon, pafiliwn yr Eisteddfod eleni, a seremoni wobrwyo olaf yr Archdderwydd Geraint Llifon ar lwyfan y brifwyl hefyd.

    Myrddin ap Dafydd sy’n ei olynu yn y swydd.

    Bydd y seremoni yn cychwyn am 16.30.

    Bae
  2. Ateb dirgelwch Llannerch Guddwedi ei gyhoeddi 15:47 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Lluniau'r Steddfodwedi ei gyhoeddi 15:37 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Rhai o uchafbwyntiau wythnos drwy lygad camera.

    Geraint Thomas
  4. Protest ymgyrchwyr iaithwedi ei gyhoeddi 15:20 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi bod y protestio a pheintio sloganau ar stondin Llywodraeth Cymru yn yr Eisteddfod.

    Dywedodd llefaryd ar ran Cymdeithas yr Iaith eu bod yn protestio yn erbyn yr hyn mae'n nhw'n alw yn gynlluniau fyddai'n gwanhau'r Ddeddf Iaith bresennol.

    cymdeithas
  5. Al Lewis yn swyno'r dorfwedi ei gyhoeddi 15:14 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    BBC Radio Cymru

    Roedd Plas Roald Dahl yn llawn neithiwr wrth i Al Lewis Band ddiddanu'r dorf ar Lwyfan Radio Cymru.

    Al Lewis Band
  6. Problem tocynnau?wedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Twitter

    llunFfynhonnell y llun, twitter
  7. Rhifyn Cymraeg cyntafwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Disgo tawel ar stepen drws y Seneddwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Peidiwch codi'r sain ar eich dyfais, na, does 'na ddim cerddoriaeth yn chwarae, ond mae'r bobl yma'n dawnsio beth bynnag!

    Dyma Ddisgo Tawel Owain Glyndŵr ger y Senedd, ble mae pobl yn gwrando ar gerddoriaeth ar glustffonau!

    Disgrifiad,

    Disgo Tawel Owain Glyndŵr

  9. Perfformiad dirgel yn y Llannerch Gudd?wedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Rydyn ni wedi derbyn y neges isod gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Diddorol...

    A wyddoch chi…

    Pwy fydd yn ymddangos ar Lwyfan y Llannerch Gudd am 15:00 heddiw?

    Mae ambell si ar led ond dim byd wedi'i gadarnhau. Pwy fydd yno tybed i berfformio am yr unig dro yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd? Band neu unigolyn?

    Pwy â ŵyr… Dewch draw!

    Eisteddfod Genedlaethol

  10. Copi hanesyddol o'r Gair Rhyddwedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Prifysgol Caerdydd

    Mae rhifyn diweddaraf papur newydd Gair Rhydd yn un hanesyddol am iddo fod yn gwbl Gymraeg am y tro cyntaf i ddathlu'r Brifwyl yng Nghaerdydd.

    Gair Rhydd yw papur newydd swyddogol Prifysgol Caerdydd, ac er bod rhan o bob rhifyn yn y Gymraeg, dyma'r tro cyntaf yn hanes 45 mlynedd y papur iddo fod yn uniaith Gymraeg.

    Y rhan gorau - mae'n rhad ac am ddim, felly mynnwch eich copi chi ar y maes!

    Gair Rhydd
  11. Eluned Morgan AC yn ymatebwedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Roedd protest gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn ystod sesiwn holi ac ateb Eluned Morgan AC heddiw.

    Ond mae Ms Morgan wedi rhoi ei hochr hi o'r ddadl: "Erbyn diwedd y flwyddyn rwy'n bwriadu cyflwyno Deddf Iaith newydd fydd yn rhoi'r hawl i ni orfodi'r defnydd o'r Gymraeg ar y sector preifat, grym nad sy'n bodoli o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

    "Er na fyddwn yn cyflwyno safonau yn syth o ran cwmnïau mawr y sector preifat, fe ddylen nhw wybod fod y grym cyfreithiol yna ac y byddwn yn gweithredu pe na bai nhw'n ymateb yn bositif o ran cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg."

    Eluned Morgan
  12. Protest gan ymgyrchwyr iaithwedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi torri ar draws sesiwn holi ac ateb Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, ar faes yr Eisteddfod.

    Fe wnaethon nhw ei chyhuddo o roi atebion camarweiniol cyn cynnal proest bychan.

    Mae'r gymdeithas am i ddeddf iaith gynnwys y sector preifat a gwasanaethau rheng flaen y gwasanaeth iechyd.

    Fe wnaeth y sesiwn barhau yn ddidrafferth wedi'r brotest.

    cymdiethas
  13. Urddo yng Nghaerdydd yn 'fwy arbennig'wedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Wrth i Geraint Glanrafon, Geraint Jarman, gael ei urddo, dywedodd ei fod yn "teimlo'n anhrydeddus a hoffwn ddiolch am y cydnabyddiaeth".

    "Mae cael y seremoni yng Nghaerdydd yn gwneud hi'n fwy arbennig gan mai dyma yw fy mhatch i fel petai, a mae Caerdydd yn bwysig iawn i mi."

    "Uchafbwynt y steddfod i mi yw gweld yr ifanc a'r brwdfrydedd sydd ganddyn nhw tuag at y Gymraeg."

  14. Urddo dau arallwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dau arall i gael eu hanrhydeddu o'r byd darlledu oedd yr actor a'r digrifwr Mici Plwm a John Hardy, darlledwr a sylwebydd chwaraeon.

    Wedi'r seremoni, dywedodd John Hardy bod "balchder o gael fy nerbyn, ond hefyd y tristwch nad yw'r teulu i gyd yma".

    Ychwanegodd ei fod yn "annisgwyl iawn, ddim yn disgwyl cydnabyddiaeth ond yn braf iawn ei gael o".

    John Hardy
    Mici Plwm
  15. Dawnsiwch i hanes Glyndŵrwedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Geraint a'r cynganeddwyrwedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dylai Geraint Jarman - Geraint Glanrafon - deimlo'n ddigon cartrefol ym Maes B.

    Geraint j
  17. Golwg ar y canlyniadauwedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae canlyniadau cynta'r dydd wedi eu cyhoeddi ac Enillydd y Rhuban Glas Offerynnol 19 oed a throsodd yw Carys Gittins

    Mae modd gweld y canlyniadau diweddaraf yma.

    RhubanFfynhonnell y llun, b
    Disgrifiad o’r llun,

    Carys Gittins yn derbyn y Rhuban Las

  18. O'r maes rygbi i Faes arallwedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Cyfraniadau Jamie Roberts i'r byd rygbi, a Vaughan Roderick i'r byd darlledu yn cael eu cydnabod a'u hurddo i'r Orsedd.

    urddo
  19. Elin o Geredigonwedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Elin Jones Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn y Wisg Las.

    "Mae wedi gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn fwy atebol i bobl Cymru a bod urddas a pharch yn perthyn i weithdrefnau a thrafodaethau'r Cynulliad."

    UrddoFfynhonnell y llun, bbc
  20. Ma' Ifan 'mawedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae aleodau newydd wedi cael eu croesawu i’r Orsedd.

    Fel arfer, y rheiny a urddir er anrhydedd sy’n cael eu derbyn i’r Orsedd fore Gwener.

    Fe fydd y rhai derbyn aelodaeth yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

    Ifan