Crynodeb

  • Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00 ac yn parhau tan yn hwyr heno

  • Prif seremoni'r dydd yw defod Cadeirio'r Bardd am 16:30

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. 'Steddfod arbrofol arall?wedi ei gyhoeddi 11:31 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae yna alwad gan yr awdur a'r cynghorydd sir o Wynedd, Simon Brooks, am Eisteddfod 'arbrofol' arall yn 2021.

    Mae o'n lobio i gael y Steddfod yng Nghaernarfon.

    "Chi'n gallu dychmygu'r castell, hefo rhywbeth tu fewn.

    "Wedyn mae gennoch chi'r maes, yn does, a'r cei. Byddwch chi'n gallu cael y pafiliwn, wedyn, dros yr afon, a Galeri.

    "Ymhen tair blynedd mae'r Eisteddfod yn dod i Wynedd, a'n bod ni yn cael Eisteddfod awyr agored, heb ffin, ar gyfer Gwynedd a Chymru gyfan. Mi fysa hi yn wych o beth."

    Maes
  2. Yr Orsedd yn barodwedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    O leia maen nhw'n sych.

    Yr Orsedd wedi glanio ac wedi ymgynnull ym Maes B - adeilad Profiad Dr Who.

    orsedd
    orsedd
  3. Rhodd ariannol i gofio Becawedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Y Cadeirio fydd prif seremoni dydd Gwener ar gyfer awdl heb fod yn fwy na 250 o linellau ar y testun Porth.

    Yn ogystal â'r gadair bydd yna wobr ariannol er cof am ferch o'r brifddinas a fu farw o ganser yn 2009.

    Penderfynodd John Walter a Gaynor Jones gynnig rhodd o £750 er cof am eu merch, Beca Chamberlain, fel cydnabyddiaeth o "bwysigrwydd yr iaith Gymraeg a Chymreictod iddi".

    Bu farw Beca ym mis Gorffennaf 2009, wedi iddi ddatblygu math prin o ganser, sarcoma. .

    CadairFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol/Llun teulu
  4. Profiad newydd i'r Orseddwedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Oherwydd y glaw fe fydd seremoni'r Orsedd y bore ‘ma yn cael ei chynnal yn hen adeilad Profiad Dr Who - Maes B.

    Wel, o leiaf bydd digon o le yn y Tardis.

    gorseddFfynhonnell y llun, Google
  5. Neges am docynnauwedi ei gyhoeddi 10:08 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dywed yr Eisteddfod fod 2,500 o docynnau ar gael ar werth i’r cyhoedd.

    Yn ôl llefarydd fe waenth y tocynnau cyfyngedig sy’n weddill ar gyfer dydd Gwener ar werth am 08.00 yn y Ganolfan ac ar-lein.

    "Pan fydd y rhain wedi’u gwerthu, ni fydd modd rhyddhau rhagor.

    "Mae’r rhain yn cynnwys tocynnau i’r Pafiliwn, y Babell Lên a’r Theatr, ynghyd â thocynnau wythnos.

    "Unwaith y bydd y seremoni wedi cychwyn brynhawn Gwener, bydd tocynnau ychwanegol ar gyfer cystadlu’r hwyr yn mynd ar werth."

    tocynnau
  6. Y tywydd wedi troi ar faes yr Eisteddfod ond....wedi ei gyhoeddi 10:02 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    Tywydd

    Mae cawodydd trymion ar hyd y de ar hyn o bryd, a rhai ar arfordir y gorllewin hefyd.

    Fe allai'r rhain gynnwys mellt a tharanau ar brydiau.

    Ond y newyddion da yw y bydd y cawodydd yn clirio ac erbyn amser cinio yn dechrau troi'n sychach.

    Heulwen i nifer erbyn diwedd y dydd. Y tymheredd yn 15C-19C.

    Maes yr Eisteddfod
  7. Croeso ar ddydd Gwener, diwrnod y Cadeiriowedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2018

    BBC Cymru Fyw

    Croeso a bore da ar ddydd Gwener y Steddfod, diwrnod y Cadeirio.

    Cewch y newyddion diweddara o'r pafiliwn a thu hwnt.

    Arhoswch efo ni.

    cyffredinol