Wal goch wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 16:57 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018
Twitter
Dyma'r olygfa o du fewn i'r stadiwm, Mae'r wal goch newydd orffen canu'r anthem genedlaethol.
Twitter
Dyma'r olygfa o du fewn i'r stadiwm, Mae'r wal goch newydd orffen canu'r anthem genedlaethol.
BBC Cymru Fyw
Ychydig funudau cyn y gic gyntaf, dyma ychydig o ffeithiau diddorol am Denmarc.
Cynghrair y Cenhedloedd
Mae pob tocyn wedi'i werthu yn ochr Cymru o'r stadiwm wrth i'r cefnogwyr heidio i Barc Ceres.
Pêl-droed, BBC Cymru
"Roeddwn eisiau ffresni" meddai Giggs wrth egluro'r penderfyniad i newid y tîm ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Iau.
"Mae James Chester wedi chwarae drwy'r tymor i Aston Villa ac mae'n barod," meddai.
BBC Camp Lawn
Yn ôl aelod o dîm hyfforddi Cymru, Osian Roberts, mae'n falch fod Denmarc yn ôl ar ei cryfaf.
Dywedodd ar raglen Camp Lawn: "Rydym eisiau wynebu'r timau gorau, roddem wastad yn disgwyl hyn ddigwydd."
Cynghrair y Cenhedloedd
Ar ôl yr anghytuno rhwng carfan Denmarc a'r Gymdeithas Bêl-droed, mae'r tîm cartref yn ôl ar ei cryfaf gyda sêr y tîm yn dychwelyd
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cynghrair y Cenhedloedd
Yn ôl arolwg diweddar Aarhus yw un o'r dinasoedd hapusaf yn y byd.
Aarhus hefyd yw'r ail ddinas fwyaf yn Denmarc.
Bydd y gêm pnawn ma yn stadiwm Parc Ceres
Cynghrair y Cenhedloedd
Gareth Bale fydd yn arwain Cymru allan yn Aarhus heddiw yn absenoldeb Ashley Williams
BBC Camp Lawn
Mae Ryan Giggs wedi gwneud ychydig o newidiadau i'r tîm lwyddodd i ennill yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Iau
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cynghrair y Cenhedloedd
Croeso i'r llif byw arbennig heddiw wrth i Gymru herio Denmarc yn yr ail gêm agoriadol yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Fe gewch chi uchafbwyntiau, sylwadau a lluniau wrth i Ryan Giggs geisio arwain y tîm cenedlaethol i'w ail buddugoliaeth mewn llai na wythnos.